Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 15/Maw

 

Dydd Llun 18/03/24

  • Nyrsys Ysgol yn y Derbyn
  • Sesiwn Aml-Sgiliau i fl.3a4 yn y Brifysgol gyda Ceredigion Actif
  • Noson Rieni 1 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

Dydd Mawrth 19/03/24

  • Noson Rieni 2 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

 

Dydd Mercher 20/03/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan gyda chriw Agor y Llyfr
  • Blwyddyn 3 yn dringo Pen Dinas
  • Dim ymarfer Ymarfer Cân Actol tan ar ôl y Pasg
  • Does dim Clwb yr Urdd yr hanner tymor hwn

 

Dydd Iau 21/03/24

  • Nofio i fl.5 a 3

 

Dydd Gwener 22/03/24

  • Ymarfer Cerddorfa Ysgol 8:45yb
  • Cau ar gyfer gwyliau'r Pasg (bydd y tymor newydd yn cychwyn i blant ar ddydd Mawrth y 9 fed o Ebrill)

 

LAWRLWYTHIADAU

Y Clwb Codio

 

BYDDWN YN GOSOD Y GEMAU SY'N CAEL EU CREU ISOD:

 

Gêm Adam
Chwarae gêm Adam

 

Defnyddiais y wefan Code.org i greu gêm fy hun.  Roedd yn rhaid i mi gymhwyso fy sgiliau ‘codio’ er mwyn mewnbynnu’r data cywir i ddylunio’r gêm. 

Beth am roi cynnig ar fy ngêm?  Cliciwch yma i gael chwarae. Pob hwyl!

Cyfarwyddiadau’r gêm
1) Ceisiwch achub pob un ‘Rebel Pilot’ (mae 5 i gyd) heb gael eich dal gan y ‘Storm troopers’.
2) Rydych yn ennill 100 o bwyntiau am arbed ‘Rebel Pilot’, felly mae uchafswm o 500 o bwyntiau ar gael!
3) Os ydych yn cael eich dal gan y Storm troopers, yna byddwch yn colli 50 o bwyntiau.
4) Ar ôl arbed pob un ‘Rebel Pilot’, mae’r gêm ar ben.
Mwynhewch!

--------------------------------------------

Chwarae gêm Steffan

 

Dyma fy nghyfarwyddiadau i’r gêm:
1. Chi ydy c3po {y robot melyn}
2. Rydych angen cyrraedd y rebel pilots{y dynion oren} gan osgoi y stormtroopers {y dynion gwyn}
3. Daliwch y Mynock {yr anifail ag adenydd}
Yna daliwch y pufferpigs {y moch}
4. Nawr mi fyddwch chi ar y blaned Hoth {yr ia}, daliwch y probot {y robot sydd a llawer o goesau} i gyrraedd y starship.
5.Yna daliwch Puffer pig arall i weld mouse droids {bocsys bach llwyd} a daliwch rheiny i ennill!!

Pob hwyl! Steffan