Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol rhwng 0815 - 0845

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

DYDD LLUN 17/Med

  • Diwrnod o weithgareddau Owain Glyndŵr ym Mlwyddyn 2 (croeso i chi blant wisgo yng ngwisg y cyfnod os y dymunwch)

DYDD MAWRTH 18/Med

  • Taith Blwyddyn 6 i Amgueddfa Wlân Drefach Felindre a Chwm Alltcafan
  • Ymarfer rygbi i fl.5a6
    3:30-4:30yp (yn agored i holl ddisgyblion bl.5a6)

DYDD MERCHER 19/Med

  • Ymarfer hoci i fl.5a6
    3:30-4:30yp (yn agored i holl ddisgyblion bl.5a6)

DYDD IAU 20/Med

  • Nofio i fl.5a6
  • Clwb Gwyddbwyll amser cinio

DYDD GWENER 21/Med

  • Clwb Chwys Trabŵd i bawb ym ml.2-6 am 2:30yp (rhedeg trawsgwlad)

 

LAWRLWYTHIADAU

Ysgol iach

 

 

"Mae Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn aelod gweithgar o Gynllun Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru. Mae ysgol iach yn ysgol sy’n mynd ati i hybu a diogelu iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol ei chymuned trwy gymryd camau cadarnhaol megis llunio polisïau, gwneud gwaith cynllunio strategol a datblygu staff, mewn perthynas â chwricwlwm, ethos ac amgylchedd ffisegol yr ysgol a’i chysylltiadau â’r gymuned."

 

Mae gan yr ysgol y sgor uchaf o safbwynt hylendid yn y gegin

 
 
 

 

Cliciwch ar y ddogfen uchod i ddysgu mwy am hylendid
 
 
 

Cofiwch olchi eich dwylo yn gywir!

 
 

Mae Polisi Toiledau bellach yn bolisi statudol ym mhob ysgol. Cliciwch isod i ddarllen y polisi:

Polisi Toiledau

 
 
 

Atgoffir plant i olchi eu dwylo cyn bwyta o'r Siop Ffrwythau hefyd

 
 

Er mwyn gweld os yw'r plant yn yfed digon o ddwr, mae posteri ar gael iddynt yn y toiledau i fesur lliw eu pi-pi!