Negeseuon 
  yr Wythnos
Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15
  
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 24/Hydref
Dydd Llun 03/11/25
Dydd Mawrth 04/11/25
- Dim neges
 
Dydd Mercher 05/11/25
- Gwasanaeth Ysgol Gyfan
 - Clwb Darllen Amser Cinio
 - Clwb yr Urdd i fl. 1,3a4  3:30 – 4:30yp
 
Dydd Iau 06/11/25
- Nofio i flwyddyn 3
 - Grŵp Recorders 12:30yp
 - Tîmau hoci ar y 2G
4-5pm (gweld amserlen y tymor) 
Dydd Gwener 07/11/25
- YFORY - Dydd Sadwrn -
Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth a'r Fro (gweler y Llythyr y Pennaeth diwethaf am amseroedd) - Aberystwyth a'r Fro 2025 | Cymdeithas Cerdd Dant Cymru
 
LAWRLWYTHIADAU
 Archif
Newyddion Chwefror 2012 | 
  |||||||
CYSTADLEUAETH CELF A CHREFFT RHANBARTH CEREDIGION | 
  |||||||
» Y disgyblion a ddaeth i'r brig yng nghystadlaethau Celf a Chrefft Ceredigion 
 Llongyfarchiadau i bawb a lwyddodd i ddod i'r brig yng nghystadlaethau Celf a Chrefft yr Urdd eleni. Yn dilyn eu llwyddiant yn y gystadleuaeth rhanbarthol mae gwaith Nicole a Mali 4J, Brooklyn o 5G a gwaith Cywaith 3M yn mynd ymlaen i'r genedlaethol, gyda'r rhai a ddaeth yn ail a thrydydd yn ennill clod mawr am eu gwaith campus. Da iawn chi blant am roi o'ch gorau i gystadlu.  | 
  |||||||
  | 
  |||||||
CYSTADLEUAETH RYGBI YR URDD | 
  |||||||
» Aelodau tîm rygbi'r ysgol 
 Llongyfarchiadau i dîm rygbi'r ysgol am gystadlu yng nghystadleuaeth rygbi'r Urdd, Rhanbarth Ceredigion eleni. Wrth gystadlu yn erbyn ysgolion eraill Ceredigion ar gaeau Clwb Rygbi Aberaeron, enillodd y tîm dair o'u gemau, a cholli dwy.   | 
  |||||||
EISTEDDFOD YSGOL 2012 | 
  |||||||
» Enillwyr y Prif Wobrau gyda'u tlysau  | 
  |||||||
  | 
    |||||||
BEIRNIADU GWAITH CELF | 
  |||||||
» Rhai o ddisgyblion yr ysgol yn arddangos eu gwaith gyda Mr Chris Iliff 
 Braf oedd croesawu Mr Chris Iliff i'r ysgol i feirniadu gwaith Celf y disgyblion ar gyfer Eisteddfod yr Ysgol eleni.  | 
  |||||||
CWMNI DAWNS CYMRU | 
  |||||||
» Camille a Neus, cynrychiolwyr o Gwmni Dawns Cymru gyda rhai o ddisgyblion blwyddyn 6 
 Mwynhaodd ddisgyblion blwyddyn 6 brynhawn cyfan o ddawnsio yng nghwmni dawnswyr proffesiynol wrth i'r Cwmni Dawns Cenedlaethol ymweld â'r ysgol. Dan arweiniad medrus Camille a Neus llwyddodd bawb i greu dawns greadigol hyfryd i gerddoriaeth gyfoes. Da iawn bawb!  | 
  |||||||
GWEN YN ENNILL CYSTADLEUAETH YSGRIFENNU LLYTHYR CIP! | 
  |||||||
» Gwen yn dal rhifyn mis Chwefror o'r Cylchgrawn CIP 
 Llongyfarchiadau mawr i Gwen o flwyddyn 3 am ennill cystadleuaeth Ysgrifennu Llythyr Cip 2011. Mae Gwen yn un o chwech o enillwyr i gyd, gan ennill gwobr o £40 iddi hi ei hun, a gwobr o £100 i'r ysgol! Waw! 
 Hoffwn longyfarch Ioan o flwyddyn 4 hefyd am lwyddo i ddod yn agos iawn i'r brig.  | 
  |||||||
Y CYNGOR YSGOL YN CYFARFOD Â'R HEDDLU I DRAFOD PROBLEMAU TRAFFIG | 
  |||||||
» Aelodau o'r Cyngor Ysgol a Mr Williams yn trafod gyda PC Chris Tipper 
 "Gwnaethom wahodd PC Chris Tipper i'r ysgol i drafod y problemau traffig gyda ni. Pob dydd mae cannoedd o geir yn llenwi'r ffordd ger yr ysgol, gan wneud yr ardal yn ofnadwy o brysur ac yn beryglus hefyd gan fod rhai yn gor-yrru. Rhannom ein pryderon gydag ef gan ddod i benderfyniad y byddem yn benthyg offer camera o'r orsaf heddlu er mwyn cofnodi cyflymder y cerbydau. Byddwn hefyd yn llythyru'r Cyngor er mwyn cael caniatad i barcio am ddim ar draws y bont gerdded ar amserau arbennig."  | 
  |||||||
| « Newyddion Ionawr 2012 / Newyddion Mawrth 2012 » | |||||||