Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15

 

► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 02/Hydref

 

Dydd Llun 05/10/26

  • HEOL UNFFORDD Y TU ALLAN I'R YSGOL AR GAU HEDDIW
  • Diwrnod Coch, Gwyn a Gwyrdd yr Urdd - dewch yn eich gwisgoedd lliwgar!
  • Cyfarfod Teams ysgol gyfan dan ofal y Cyngor Ysgol
  • Nofio i flwyddyn 6

Dydd Mawrth 06/10/26

  • Tempest - tynnu lluniau unigol a theuluoedd
  • 6:00 - Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yn Neuadd yr ysgol

 

Dydd Mercher 07/10/26

  • Gwasanaeth ysgol gyfan
  • Brechlyn y ffliw - Nyrsus yn yr ysgol
  • Arad Goch yn yr ysgol gyda Meithrin a Derbyn
  • Bl.2 yn mynychu Llyfrgell y Dref ar gyfer sesiwn awdur gyda Rhianedd Jewell
  • Grwpiau sillafu bl.3-6 (prynhawn)
  • Ymarfer pêl-droed ar gyfer bechgyn a merched bl.3a4 3:30 - 4:30yp

 

Dydd Iau 08/10/26

  • 10:00 - Traws Gwlad Cylch Aberystwyth ar Gaeau Penweddig
  • Nofio i flwyddyn 4
  • Casglu bagiau Bags2School - bore
  • Cynghrair hoci bl.6
    4:00 - YGA2 (Pen Dinas)
    4:30 - YGA1 (Craig Glais)
    > (amserlen y tymor)

 

Dydd Gwener 09/10/26

  • Diwrnod Rhyngwladol yr ysgol
  • Ymarfer pêl-droed ar gyfer bechgyn a merched bl.5a6 3:30 - 4:30yp

 

 

LAWRLWYTHIADAU

Gair o groeso gan y Pennaeth

Croeso i chi i dudalennau gwefan Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Dyma ysgol Gymraeg benodedig gyntaf Cymru a sefydlwyd yn 1939 gan Syr Ifan ab Owen Edwards. Saith o blant oedd yn yr ysgol yn y dyddiau cynnar ond bellach mae’r ysgol wedi tyfu i tua pedwar cant o ddisgyblion. Daw’r disgyblion atom o dref Aberystwyth ac o’r ardaloedd gwledig cyfagos.
Tyfodd yr ysgol yn gyson yn ystod yr wythdegau a’r nawdegau wrth i mwy a mwy o rieni weld gwerth mewn addysg Gymraeg. Mae yna gynnydd sylweddol yn y nifer o rieni di-Gymraeg sy’n danfon eu plant i’r ysgol wrth iddynt weld manteision dwyieithrwydd.

 

Mae’r Llywodraethwyr mewn cydweithrediad ag Awdurdod Addysg Ceredigion wedi cydweithio’n glòs i sicrhau adeilad addas ac adnoddau pwrpasol er mwyn diwallu’r cynnydd yn niferoedd y disgyblion. Mae yna 14 o athrawon a phymtheg o gynorthwywyr yn gweithio yn yr ysgol. Mae’r tîm yn frwdfrydig ac yn gweithio’n galed i godi safonau a gwella’r ysgol yn barhaus.
Ymfalchïwn yn safonau cyrhaeddiad uchel yr ysgol, ac mae’r ystod eang o weithgareddau allgyrsiol hefyd yn bwysig inni, gyda disgyblion yn profi llwyddiant mewn amrywiol feysydd o eisteddfodau’r Urdd i fyd chwaraeon.

 

Ein nod yw datblygu’r plentyn cyfan a chreu awyrgylch ddiogel, hapus a Chymreig – “fel y cadwer i’r oesoedd a ddêl y glendid a fu”. Darllenwch ymlaen am ragor o wybodaeth, ac er mwyn cael rhyw flas o fwrlwm yr ysgol brysur hon.

 

Mr Gareth James