Negeseuon 
  yr Wythnos
Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15
  
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 24/Hydref
Dydd Llun 03/11/25
Dydd Mawrth 04/11/25
- Dim neges
 
Dydd Mercher 05/11/25
- Gwasanaeth Ysgol Gyfan
 - Clwb Darllen Amser Cinio
 - Clwb yr Urdd i fl. 1,3a4  3:30 – 4:30yp
 
Dydd Iau 06/11/25
- Nofio i flwyddyn 3
 - Grŵp Recorders 12:30yp
 - Tîmau hoci ar y 2G
4-5pm (gweld amserlen y tymor) 
Dydd Gwener 07/11/25
- YFORY - Dydd Sadwrn -
Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth a'r Fro (gweler y Llythyr y Pennaeth diwethaf am amseroedd) - Aberystwyth a'r Fro 2025 | Cymdeithas Cerdd Dant Cymru
 
LAWRLWYTHIADAU
 Archif
Newyddion Ebrill 2013 | 
  |
PENCAMPWYR TWRNAMENT PÊL-DROED Y CYLCH | 
  |
![]()  | 
    Llongyfarchiadau i dim pêl-droed yr ysgol ar eu llwyddiant diweddar yn nhwrnament Pêl droed ysgolion Cylch Aberystwyth. Cynhaliwyd y twrnament ar gaeau Blaendolau gyda'r bechgyn yn llwyddo i ennill pob un o'i gêmau gan gynnwys gêm derfynol agos iawn. Roedd y gêm mor agos fel y bu'n rhaid penderfynu trwy giciau o'r smotyn. Da iawn chi, fechgyn.  | 
  
PENCAMPWYR TWRNAMENT PÊL-RWYD Y CYLCH | 
  |
Llongyfarchiadau i dim pêl-rwyd yr ysgol ar eu llwyddiant diweddar yn nhwrnament Pêl rwyd ysgolion Cylch Aberystwyth. Cynhaliwyd y twrnament ar gyrtiau'r Ganolfan Hamdden gyda'r plant yn llwyddo i ennill pob un o'i gêmau yn ystod y prynhawn. Da iawn chi, blant.  | 
  |
MATHEMATEGWYR BUDDUGOL 'GÊM 24' | 
  |
Llongyfarchiadau gwresog i bedwar disgybl o flwyddyn 6 ar eu camp anhygoel o ennill cystadleuaeth 'Gêm 24' ysgolion Cylch Aberystwyth eleni. Llwyddodd Dylan, Eleanor, Lisa a Peredur i gipio'r wobr yn dilyn wythnosau o ymarfer chwarae'r gêm yn yr ysgol. Pob hwyl i'r pedwar yn y rownd sirol a gynhelir yn Felinfach hanner tymor nesaf.  | 
  |
TWRNAMENT PÊL DROED YR URDD I FECHGYN A MERCHED | 
  |
Llongyfarchiadau i dimau pêl droed bechgyn a merched yr ysgol ar gystadlu mor dda yn nhwrnament yr Urdd yn ddiweddar. Cynhaliwyd y gêmau ar gaeau Blaendolau, gyda'r timau'n cystadlu'n frwd yn erbyn ysgolion eraill sir Ceredigion. Diolch i'r noddwyr Emo Oil a Brodwaith FFIGAR am noddi'r citiau hynod smart. Da iawn chi blant am ymarfer yn gyson ac am gynrychioli'r ysgol mor dda.  | 
  |
SIOE 'WCW A SWYN YR ARDD' | 
  |
Cafodd disgyblion y Cyfnod Sylfaen lawer o hwyl a sbri yng Nghanolfan y Morlan wrth fwynhau sioe arbennig iawn 'Wcw a Swyn yr Ardd'. Yn y llun gwelwch rai o gymeriadau'r sioe gyda disgyblion yr ysgol. Bu'r plant yn ymuno yn yr hwyl wrth fesur, cyfri, bloeddio cyfarwyddiadau ac helpu Wcw trwy ganu hefyd. Diolch i Gylchgrawn Wcw a'i ffrindiau am drefnu!  | 
  |
EISTEDDFOD RHANBARTH CEREDIGION 2013 | 
  |
 Unawd Chwythbrennau Blwyddyn 6 ac iau    | 
    Llongyfarchiadau i bawb a gymrodd ran ac a gafodd llwyddiant yn yr Eisteddfod Rhanbarth eleni. Pob hwyl iddynt yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Benfro.  | 
  
| « Newyddion Mawrth 2012 / Newyddion Mai 2012 » | |
