Negeseuon 
  yr Wythnos
Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15
  
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 24/Hydref
Dydd Llun 03/11/25
Dydd Mawrth 04/11/25
- Dim neges
 
Dydd Mercher 05/11/25
- Gwasanaeth Ysgol Gyfan
 - Clwb Darllen Amser Cinio
 - Clwb yr Urdd i fl. 1,3a4  3:30 – 4:30yp
 
Dydd Iau 06/11/25
- Nofio i flwyddyn 3
 - Grŵp Recorders 12:30yp
 - Tîmau hoci ar y 2G
4-5pm (gweld amserlen y tymor) 
Dydd Gwener 07/11/25
- YFORY - Dydd Sadwrn -
Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth a'r Fro (gweler y Llythyr y Pennaeth diwethaf am amseroedd) - Aberystwyth a'r Fro 2025 | Cymdeithas Cerdd Dant Cymru
 
LAWRLWYTHIADAU
 Archif
Newyddion Mehefin 2013 | 
  |
CYN-DDISGYBL YN DRINGO KILIMANJARO | 
  |
Braf oedd croesawu Celyn Kenny atom y bore ma. Mae Celyn yn gyn-ddisgybl sydd am fentro i ddringo Kilimanjaro, mynydd uchaf Affrica, er mwyn codi arian i Childreach International. Dangosodd gyflwyniad diddorol iawn i'r plant am y daith y bydd Celyn yn ei chyflawni fis Awst eleni. Bydd y Cyngor Ysgol yn cynnal gweithgaredd codi arian maes o law, er mwyn noddi Celyn. Pob hwyl iddi.  | 
  |
TWRNAMENT TAL-Y-BONT | 
  |
Bu nifer helaeth o ddisgyblion yr ysgol yn cystadlu mewn twrnament pêl-droed yn Nhalybont dros y penwythnos. Cafwyd llwyddiant ymhith y gwahanol oedrannau, gydag un tîm yn llwyddo i ennill yn eu categori hwy. Yn y llun gweler criw o'r bechgyn ieuengaf i gystadlu, sef bechgyn blwyddyn 2, gyda'u medalau wedi iddynt ddod yn ail ac yn drydydd gyda'u gwahanol dîmau. Da iawn i bawb a fu'n cystadlu.  | 
  |
LLWYDDIANT MEWN NOFIO | 
  |
Braf oedd clywed am gampau nofio'r ddau yma yn ein gwasanaeth y bore yma. Mae Lisa (ynghyd â nifer helaeth o ddigyblion eraill yr ysgol) wedi llwyddo mewn prawf ar gyfer achub bywyd yn y môr. Diolch i ti Lisa am ddod i rannu'r wybodaeth gyda ni. Mae tystysgrifau Dion yn dangos iddo nofio 1,000 o fetrau, yn ogystal â milltir gyfan. Tipyn o gamp! Diolch i chi'ch dau am rannu'ch llwyddiant gyda ni.  | 
  |
LLWYDDIANT YN MABOLGAMPAU DYFED | 
  |
Llongyfarchiadau mawr i bawb a deithiodd i lawr i Gaerfyrddin ar gyfer Mabolgampau Dyfed eleni. Llwyddodd tîm yr ysgol i ddod yn ail mewn cystadleuaeth a oedd yn cynnwys tua hanner cant o ysgolion cynradd. Ymhlith y disgyblion a ddaeth i'r brig yn eu cystadlaethau oedd:  | 
  |
BLWYDDYN 4 YN BENCAMPWYR CRICED 50/50 CEREDIGION | 
  |
Llongyfarchiadau i dîm Criced 50/50 Blwyddyn 4 ar eu camp wrth ennill y gystadleuaeth eleni. Er mwyn cyflawni'r gamp, bu'n rhaid iddynt ennill y dair gêm yn eu grwp, a llwyddwyd i wneud hynny gyda sgoriau o 91-65, 88-82 a 97-81. Yn y gêm derfynol, llwyddwyd i ennill o 112 rhediad i 82. Bydd y tîm yn mynd ymlaen i gystadlu'n genedlaethol yng Nghastell Caerdydd ar y 3ydd o Orffennaf.  | 
  |
CYSTADLEUAETH LLYFRAU 2013 | 
  |
Yn dilyn eu llwyddiant yn y rownd sirol, aeth criw o blant i gystadlu yn y rownd genedlaethol yng Nghystadleuaeth Llyfrau y Cyngor Llyfrau eleni. Er na lwyddodd y plant i gipio'r prif wobrau, gwnaethant berfformio'u cyflwyniad a thrafod y llyfr o'u dewis yn arbennig o dda. Un o uchafbwyntiau'r dydd oedd y sesiwn ddifyr dan arweiniad Bardd Plant Cymru newydd - Aneirin Karadog. Cafodd y plant lawer o hwyl yn ei gwmni, ac edrychwn ymlaen i'w groesawu i'r ysgol yn y dyfodol agos.  | 
  |
LLWYDDIANT GÊM 24 YN PARHAU | 
  |
![]()  | 
    Llongyfarchiadau mawr i bedwar disgybl o flwyddyn 6 ar lwyddo i barhau gyda'u llwyddiant yn y gystadleuaeth Gêm 24. Ar ôl ennill yn y rownd gyntaf yn erbyn ysgolion Cylch Aberystwyth, llwyddodd Eleanor, Dylan, Peredur a Lisa i gipio'r wobr gyntaf yn Rownd Ceredigion hefyd. Diolch i Liwsi Harries, Rhian Rees a Mike Carruthers o'r Awdurdod Addysg am drefnu'r gweithgareddau.  | 
  
CYNGERDD HAF 2013 | 
  |
  | 
    Roedd y Neuadd Fawr dan ei sang wrth i holl blant yr ysgol berfformio amrywiaeth o eitemau i'w rhieni, mam-guod a thad-cuod a ffrindiau ar y llwyfan mawr. Diolch yn arbennig i'r Gymdeithas Rieni ac Athrawon am gynorthwyo gyda'r trefniadau ac i'r holl rieni a theuluoedd am gefnogi'r noson. Diolch yn fawr hefyd i'r holl noddwyr am eu cefnogaeth ariannol hael. 
 
 I archebu llun/iau cysylltwch gyda'r ffotograffydd Anthony Jarrett ar 01970 832726 neu gliciwch yma  | 
  
SIOE ABERYSTWYTH | 
  |
Llongyfarchiadau i saith o ddisgyblion yr ysgol a gafodd llwyddiant yn Sioe Aberystwyth dros y penwythnos. Cafodd Arwen gyntaf am baentio dafad ar blât, Catrin Haf ail am wneud cwningen allan o does, a Gethin hefyd yn ail am wneud hwyaden allan o does. Cafodd Summer drydydd am greu cangarw allan o does, Iestyn yn drydydd am greu llygoden allan o does, Ben yn drydydd am baentio blaidd ar blât, a Mia'n drydd am baentio'r enfys. Da iawn chi i gyd!  | 
  |
TAITH BRESWYL I WERSYLL YR URDD GLAN-LLYN | 
  |
  | 
    Cafodd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 dridiau anhygoel yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn eleni. Roedd y tywydd yn fendigedig a'r gweithgareddau yn wych fel arfer. Cafodd y disgyblion gyfle i goncro'r wal ddringo, canŵio, cael taith ar y llyn, brwydro'r cwrs rhaffau a'r tŵr uchel, nofio, adeiladu rafft a chyfeiriannu, gan gloi'r cyfan gyda disgo swnllyd iawn! Diolch i holl staff y gwersyll am eu gwaith gyda'r holl weithgareddau ac i staff yr ysgol am eu gofal o'r plant. Tridiau i'w cofio yn sicr!  | 
  
LLWYDDIANT I SIONED | 
  |
Llongyfarchiadau i Sioned o Flwyddyn 6 ar ei llwyddiant arbennig yn ystod wythnos gwyliau'r Sulgwyn eleni. Cafodd Sioned wythnos brysur iawn rhwng popeth, gan gystadlu mewn Acwathon ym Machynlleth lle y cipiodd y wobr gyntaf, yna'n rhedeg mewn Ras Hwyl yn Aberaeron lle cipiodd yr ail wobr, ac yn olaf bu'n nofio yn Llanelli gan ddod yn drydydd. Da iawn ti, Sioned.  | 
  |
| « Newyddion Mai 2013 / Newyddion Gorffennaf 2013 » | |

