Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 17/Ion
Dydd Llun 20/01/25
Dydd Mawrth 21/01/25
- Cerddorfa ysgol 8:45yb
Dydd Mercher 22/01/25
- Gwasanaeth Ysgol Gyfan
Clwb yr Urdd i fl.1,3a4
3:30 - 4:30yp
Dydd Iau 23/01/25
- Nofio i fl.4a6
Dydd Gwener 24/01/25
- Bydd Blwyddyn 6 yn ymuno yn nathliadau Agoriad Swyddogol maes 2G y Ganolfan Hamdden yn ystod y prynhawn
- 3:30 - 5:00 - Disgo Dwynwen y G.Rh.A yn Neuadd yr Ysgol. Mynediad yn £2 - gweler y poster yn Llythyr y Pennaeth
Dydd Sadwrn 25/01/25
- Dydd Santes Dwynwen - ymunwch â ni yn y Parêd - cwrdd wrth Gloc y Dref am 1:45yp
LAWRLWYTHIADAU
Archif
Newyddion Rhagfyr 2011 |
|
CROESAWU'R AWDURES SIÂN LEWIS I FLWYDDYN 6 |
|
» Siân Lewis yn trafod ei llyfr Project Kite gyda disgyblion blwyddyn 6
"Yn ystod y tymor rydym wedi bod yn darllen llyfr Siân Lewis Project Kite. Llyfr ydyw am y barcud coch, ac am brosiect y prif gymeriad sef Gary Lloyd. Mae'r llyfr yn un arbennig o dda a gwnaeth pawb ym mlwyddyn 6 fwynhau'r stori yn fawr. Enillodd y llyfr wobr Earthworm yn 1994. Roedd hi'n brofiad arbennig i groesawu Siân Lewis i'r dosbarth a gofyn ein cwestiynau iddi - cyffrous iawn oedd clywed ei hatebion! Diolch yn fawr iddi am gytuno i ddod i siarad gyda ni ar ddiwedd y tymor fel hyn." Carys, Dosbarth 6J |
|
SOFFIA YW SEREN Y MIS CIP! |
|
» Soffia yn dal y copi diweddaraf o gylchgrawn yr Urdd CIP!
Llongyfarchiadau mawr i Soffia ar fod yn Seren y Mis yng nghylchgrawn Cip! Danfonodd Soffia lythyr a llun campus i'r cylchgrawn, gan nodi mai ei hoff ran o'r cylchgrawn yw'r gornel jôcs! Y wobr am fod yn Seren y Mis yw Pecyn Mistar Urdd - llond sach o anrhegion cyffrous!
Go lew ti Soffia! |
|
CYNGERDD NADOLIG 2011 |
|
» Y Neuadd Fawr dan ei sang eleni eto wrth i blant yr ysgol berfformio sioeau'r Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2
I archebu llun/iau cysylltwch gyda'r ffotograffydd Anthony Jarrett ar 01970 832726 neu gliciwch yma |
|
CYNLLUN ENTREPRENEURIAETH Y DOSBARTH DERBYN |
|
» Disgyblion y Derbyn yn dal rhai o'r baubles Nadoligaidd
Yn rhan o fenter entrepreneuriaeth yr ysgol mae’r dosbarth Derbyn wedi bod yn brysur yn gwerthu ‘baubles’ Nadoligaidd. Mae’r ‘baubles’ ar gael mewn lliwiau gwyrdd, coch ac aur gydag enw'r plant wedi’I addurno arnynt mewn gliter. Mae’r baubles yn gwerthu’n dda am £2.00 yr un ac mae’r elw yn mynd tuag at brynu adnoddau newydd i’r dosbarth. |
|
CWMNI CARDIAU NADOLIG BLWYDDYN 6 |
|
» Rhai o ddisgyblion blwyddyn 6 gydag archeb cardiau plant y Cyfnod Sylfaen
Eleni eto mae'r Cwmni Cardiau Cyfarch wedi bod yn brysur dros ben yn sicrhau fod pob plentyn drwy'r ysgol gyfan yn cynllunio carden ei hun cyn iddynt eu sganio a'u hargraffu ar gardiau trwchus pwrpasol - y gwaith i gyd yn cael ei gwblhau ar gampws yr ysgol. Hyd yn hyn rydym wedi gwerthu dros 5,000 o gardiau Nadolig i rieni'r ysgol. Rydym hefyd wedi llwyddo i greu cyswllt gyda siop 'Broc Môr' yn y dre sydd yn gwerthu detholiad arbennig o'r cardiau. Os hoffech archebu pecyn o gardiau, cysylltwch â'r ysgol. |
|
« Newyddion Tachwedd 2011 / Newyddion Ionawr 2012 » |