Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 06/Medi

 

Dydd Llun 09/09/24

  • Anfonwyd Llythyr y Pennaeth ar e-bost ddydd Gwener. Os na dderbynioch chi'r e-bost cysylltwch â ni er mwyn i ni eich hychwanegu i'r system

Dydd Mawrth 10/09/24

  • Cofiwch ddychwelyd y taflenni data a'r llythyr caniatâd at yr athrawon dosbarth cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda

 

Dydd Mercher 11/09/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan

 

Dydd Iau 12/09/24

  • Bydd nofio yn cychwyn i fl.3-6 ddiwedd mis Medi

 

Dydd Gwener 13/09/24

  • Dim neges

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Ebrill 2012

CARYS YN ENNILL YR AIL WOBR MEWN CYSTADLEUAETH GENEDLAETHOL

» Carys yn dal ei gwobrau - nifer o fathau gwahanol o losin Masnach Deg!

Llongyfarchiadau mawr i Carys o flwyddyn 6 ar lwyddo i ddod yn yr ail safle mewn cystadleuaeth genedlaethol i godi ymwybyddiaeth am ddinistrio fforestydd glaw trofannol. Mae'r prosiect o'r enw 'Size of Wales' yn ceisio datblygu coedwig law gynaladwy maint Cymru. Llwyddodd Carys i lunio poster 3D yn annog pobl i wneud hyn gan ddefnyddio gwahanol ddeunyddiau naturiol. Da iawn ti Carys!

 

BARDDONIAETH GYDA'R ATHRO TIM WOODS O BRIFYSGOL ABERYSTWYTH

Heddiw buodd Mr Tim Woods (tad Mary) yn cynnal gweithdy barddoniaeth gyda’r ddau ddosbarth Blwyddyn 6. I gychwyn, dysgodd ni am y farddoniaeth ryfedd a diddorol a ysgrifennwyd gan feirdd y symudiad Dada ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Ymysg y gweithgareddau oedd ysgrifennu darn cyfan o destun am yn ôl, a dewis geiriau ar hap o het er mwyn creu darnau o farddoniaeth. Dysgom fod beirdd Dada yn pwysleisio pwysigrwydd sŵn yn eu cerddi, ac roedd yn sicr yn llawer o hwyl gwrando ar rai o’n cerddi yn cael eu darllen allan! Diolch yn fawr iawn i Mr Woods am fore diddorol a hwyliog dros ben.
Seren a Rhoswen, Dosbarth 6LL

 

'DILYN Y FFLAM '



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (40 llun)

» Disbyglion blwyddyn 6 yn dal ffagl olympaidd Athen yn yr arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol

"Cafwyd bore bendigedig yn y Llyfrgell Genedlaethol wrth inni ymweld ag arddangosfa hynod o ddiddorol yn ymwneud â'r Gêmau Olympaidd. Gwnaethom ddysgu llawer am y gêmau, yn ogystal ag arwyddocâd y fflam ei hun. Gwelsom luniau a darllenom ffeithiau lu am Gymry enwog sydd wedi llwyddo yn y Gêmau Olympaidd - roedd hi'n braf gweld cynifer ohonyn nhw. Edrychwn ymlaen i weld y fflam yn teithio trwy Aberystwyth ddiwedd Mai."
Seren, Dosbarth 6J

 

BLWYDDYN 3 YN YMWELD AG EGLWYS LLANBADARN

» Blwyddyn 3 gyda Mr Geraint Thomas yn Eglwys Llanbadarn

"Dydd Gwener aethom am dro i Eglwys Llanbadarn. Cwrddodd Mr Geraint Thomas â ni yn yr Eglwys a fe wnaeth ein tywys o gwmpas. Mae’r eglwys yn hen iawn, tua 900 o flynyddoedd oed. Mae’r eglwys yn bert ac yn ddeniadol iawn. Dangosodd Mr Thomas y fedyddfaen, y pulpud, y ddarllenfa a’r allor i ni. Yn ogystal â hyn esboniodd fod y nenfwd fel gwaelod arch Noa. Esboniodd fod yr eglwys ar ffurf croes a dangosodd yr amgueddfa inni gan esbonio ble mae’r clychau’n cael eu canu."
Cadi, Erin ac Hannah; Blwyddyn 3

 

DYSGU CREFFT CEFN GWLAD YNG NGHANOL Y DREF!

» Esyllt, Gwilym, Elsie a Robert o flwyddyn 5 gyda'r plygwr gwrych Mr Morgan Evans

Diolch yn fawr i Mr Morgan Evans am ddod i'r ysgol i blygu'r clawdd ger ein gardd natur. Roedd y coed yno wedi tyfu digon iddo fedru torri a phlethu'r canghennau er mwyn creu clawdd a fydd yn tyfu'n drwchus cyn hir. Roedd gwylio Mr Evans wrth ei waith yn ein hatgoffa o soned enwog J.R Jones - y soned fuddugol yng nghystadleuaeth Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 1997.

 

Crefftwr
(Hen Blygwr Gwrych)

Pan ddisgyn llwydrew Mawrth ar noethni'r cwm
Cyn gweld arwyddion deffro yn y coed,
Ymlwybra'n fore yn ei frethyn trwm
A'i gamau sionc fel glaslanc deunaw oed.
Arllwys o'i sach ei lif a'i faneg ledr
A'i filwg wedi'i hogi ar y maen,
Pob toriad llyfn yn brawf o'i ddawn a'i fedr,
Gan glirio bôn y gwrych wrth fynd ymlaen.
Sythu'r polion a llifo'r sodlau'n lân
Cyn cwblhau ei waith â phlethu cyll;
Un cip, cyn ail grynhoi ei gelfi mân
A dychwel tua thre o flaen y gwyll.
Ac yna gado'r cyfan fel y maent
I ddisgwyl artist Mai a'i wyrddlas baent.
J.R Jones

 

Roedd y bardd J.R Jones yn byw yn Aberystwyth. Ysgrifennodd sawl cerdd i'r Ysgol Gymraeg yn y gorffennol, gan gynnwys y Cywydd Cyfarch pan agorwyd yr ysgol yn ei safle bresennol.

'Rhannu dysg a meithrin dawn,
Coflaid o addysg gyflawn'

 

GWOBRAU GWYDDONIAETH!

» Esyllt, Callum ac Eleanor gyda'u gwobrau

Llongyfarchiadau mawr i dri disgybl o flynyddoedd 5 a 6 yr ysgol ar ddod i'r brig mewn cystadleuaeth Wyddoniaeth a gynhaliwyd yn ystod ein hymweliad â'r Arddangosfa Wyddoniaeth yn y Brifysgol fis diwethaf. Llwyddodd y tri i gael sgôr uchel iawn mewn cwis ysgrifenedig yn seiliedig ar y gwahanol arddangosfeydd ar y diwrnod. Diolch unwaith eto i Brifysgol Aberystwyth am gynnal yr arddangosfa penigamp.

 

LLWYDDIANT CYLCHGRAWN CIP YN PARHAU!

» Soffia gyda chylchgrawn Cip a'i gwobr o dri llyfr TinTin!

"Cyrhaeddodd llythyr pwysig iawn yr ysgol bore 'ma - llythyr yn dweud fy mod i wedi ennill cystadleuaeth yng Nghylchgrawn Cip! Y gamp oedd i orffen tynnu llun ac ysgrifennu ychydig o ddeialog ar gyfer stori TinTin Y Seren Wib. Wnes i dynnu llun o TinTin ar long a Milin yn myned i'r gegin gydag arogl spagetti dros bobman! Rwy' mor hapus i dderbyn tri llyfr yn wobr!"
Soffia, Blwyddyn 3M

 

BECA AC ONLY KIDS ALOUD

» Beca gyda Tim Rhys Evans

"Cefais brofiad arbennig iawn yn ystod mis Mawrth pan ges i gyfle i deithio gyda Chôr Only Kids Aloud i St Petersburgh yn Rwsia am bedwar diwrnod i berfformio yn Theatr y Marinsky. Roedd yna llawer o ymarfer wedi digwydd pob penwythnos ers Ionawr a chefais gyfle i ddod i adnabod plant o bob cwr o Gymru. Ar Ebrill 1af bu’r côr yn perfformio yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd gyda’r arweinydd Gergiev. Mae yna nifer o raglenni teledu wedi bod yn dilyn hanes y côr ar S4C. Roedd yn brofiad bythgofiadwy!"
Beca, Dosbarth 6LL

 

CYFLWYNO GWOBR CIP I GWEN

» Gwen yn cael ei chyflwyno gyda gwobr CIP am ei llythyr arbennig

Llongyfarchiadau mawr i Gwen o flwyddyn 3 am ennill cystadleuaeth Ysgrifennu Llythyr Cip 2011. Mae Gwen yn un o chwech o enillwyr i gyd, gan ennill gwobr o £40 iddi hi ei hun, a gwobr o £100 i'r ysgol! Waw!

 

Y TITW TOMOS LAS YN DODWY WYAU!

» Fideo o'r Titw Tomos Las gyda'i wyau yn y nyth (dodwyd heddiw: 17/04/2012)

"Mae'r Titw Tomos Las wedi dodwy ei hwyau! Pan wanethon ni ddychwelyd yn dilyn gwyliau'r Pasg roedden ni'n siomedig i weld nad oedd wyau yn y nyth. Ond heddiw, ar ein diwrnod cyntaf nôl, dyma ni'n gweld yr wyau am y tro cyntaf (mae'n rhaid ei bod wedi eu cuddio tan i ni ddychwelyd i'r ysgol!) Rydyn ni wedi cyfri tua 13 o wyau! Mae'n debyg y bydd rhaid i ni aros tua pythefnos cyn iddyn nhw ddeor. Ry'n ni'n edrych ymlaen yn fawr i weld y cywion!"
Gwern, Dosbarth 5G

 

ENILLWYR CYSTADLEUAETH PÊL-DROED YR URDD!

» Aelodau'r tîm pêl-droed yn dal y tlws yn fuddugoliaethus

Llongyfarchiadau mawr i dîm pêl-droed yr ysgol ar lwyddo i ennill twrnament Sir Ceredigion yr Urdd ar gaeau Blaendolau. Yn dilyn diwrnod llwyddiannus yn y rowndiau cyntaf, aeth y tîm ymlaen i'r rownd derfynol gan ennill o 1-0.
Pob hwyl iddynt ar y 12fed o Fai pan fyddant yn cystadlu yn Nhwrnament Cymru.

« Newyddion Mawrth 2012 / Newyddion Mai 2012 »