Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 15/Tach
Dydd Llun 18/11/24
- Cofiwch wirio eich cyfrif ParentPay wythnos hon er mwyn gweld eitemau presennol e.e cardiau Nadolig, Panto ...
- Diolch am eich cyfraniadau tuag at Blant Mewn Angen - llwyddwyd i godi £321.42
Dydd Mawrth 19/11/24
- Dim neges
Dydd Mercher 20/11/24
- Gwasanaeth Ysgol Gyfan - Agor y Llyfr
- Clwb yr Urdd i fl.1,3a5
3:30-4:30yp - cofiwch fod angen bod yn aelod o'r Urdd ar gyfer hyn
Dydd Iau 21/11/24
- Nofio i fl.3 a 5
- Twrnamaint pêl-rwyd cymysg yr Urdd yn y Brifysgol
- Gêmau hoci i fl.6 - cliciwch i weld amserlen gemau mis Tachwedd
Dydd Gwener 22/11/24
- Cerddorfa 8:30yb
LAWRLWYTHIADAU
Archif
Newyddion Mai 2013 |
|
EISTEDDFOD YR URDD SIR BENFRO 2013 |
|
|
Llongyfarchiadau mawr i'r Grŵp Dawns Cyfansoddiad Creadigol ar eu camp eleni wrth gipio'r wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Benfro. Rhaid canmol ymdrechion yr holl ddisgyblion a deithiodd i Foncath yn ogystal - aelodau'r Côr, Cerddorfa, Grŵp Dawns Creadigol, Ensemble Offerynnol a'r cystadleuwyr unigol - er na lwyddant i gyrraedd y llwyfan roedd eu perfformiadau o safon uchel ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt, yn ogystal â phawb a fu'n brysur yn eu hyfforddi a'u paratoi, am eu gwaith caled yn ystod yr wythnosau diwethaf. |
YMWELWYR COMENIUS O EWROP YN YR YSGOL |
|
|
Yr wythnos hon mae athrawon o Ewrop yn ymweld ag Aberystwyth fel rhan o gynllun Comenius. A'r bore ma, croesawyd hwy i'r Ysgol Gymraeg i ddathlu mewn gwasanaeth arbennig a drefnwyd i alminellu pwysigrwydd y prosiect a'n cyfeillgarwch. Mae'r Ysgol Gymraeg yn rhan o brosiect Comenius ar y cyd a'u hysgolion bartner sef ysgolion o Ddenmarc, Y Ffindir, Twrci, Gweriniaeth Iwerddon, Yr Eidal ac Ysgol Llwyn-yr-Eos. Braf oedd eu croesawu i'r ysgol, lle cafodd ein hymwelwyr gyfle i grwydro'r dosbarthiadau yn ystod gwersi i gael blas o'n arferion dysgu ac addysgu yma yng Nghymru. |
ENILLWYR CWIS LLYFRAU CEREDIGION |
|
Cafodd criw o ddisgyblion blwyddyn 6 yr ysgol hwyl wrth gystadlu yng nghystadleuaeth y Cwis Llyfrau. Yn ystod rownd Ceredigion, roedd yn rhaid iddynt drafod llyfr (dewiswyd Coed Du), a gwneud cyflwyniad am lyfr gwahanol (dewiswyd Cyfrinachau) Llongyfarchiadau mawr i'r naw am ennill y gystadleuaeth i flynyddoedd 5a6. Byddant bellach yn cystadlu yn y rownd genedlaethol a gynhelir ar yr 21ain 0 Fehefin. Pob hwyl iddynt. |
|
BEICWYR PROFFESIYNOL 'TEAM UK YOUTH' YN DOD I'R YSGOL |
|
Daeth Team Uk Youth a fydd yn cystadlu yn yr Ŵyl Feicio yn Aberystwyth dros y penwythnos i'r ysgol ar gyfer sesiwn holi ac ateb. Fel y gwelwch yn y llun, daethant â beic gyda nhw i ni gael gweld - beic arbennig sydd gwerth £10,000! Waw! Team Uk Youth yw'r tîm sydd ar y blaen yn y gyfres ar hyn o bryd. Edrychwch mâs amdanyn nhw fory pan fyddant yn rasio ar y trac o gwmpas tref Aberystwyth. |
|
GWOBRAU GWYDDONIAETH |
|
Llongyfarchiadau i bedwar disgybl o'r ysgol a fu'n llwyddiannus mewn cystadleuaeth Wyddoniaeth a gynhaliwyd yn ystod yr Wyl Wyddoniaeth yn y Brifysgol yn ddiweddar. Rhannodd Ioan, Esyllt, Sara a Dylan un o brif wobrau'r digwyddiad wrth ateb cwestiynau'n gywir ar y diwrnod. Llongyfarchiadau chi'ch pedwar. |
|
DIWRNOD ELFED YM MLWYDDYN 2 |
|
|
Yn ystod y tymor rydym wedi bod yn gwneud nifer o weithgareddau yn seiliedig ar stori 'Elfed'. Fel uchafbwynt i'r gweithgareddau hyn, cawsom barti i ddathlu 'Diwrnod Elfed'. Buom yn brysur yn paratoi ar gyfer y parti. Buom yn creu posteri, gwahoddiadau a chardiau deniadol ar y cyfrifiadur. Buom yn creu hetiau parti lliwgar. Gwnaethom hydoddi jeli a mesur dwr yn ofalus gan wneud yn siwr ein bod yn rhannu'r jeli yn gyfartal. Gwnaethom frechdanau ham, jam a chaws a buom yn addurno cacennau bach Mrs Atkinson. Roedden nhw'n flasus iawn! Cawsom bicnic tu allan i gaffi Elfed a buom yn dawnsio a chael hwyl a sbri. Cawsom ddiwrnod wrth ein bodd! |
CROESAWU SEREN RYGBI MENYWOD CYMRU I'R YSGOL |
|
Braint oedd croesawu Sioned Harries, chwaraewraig Rygbi Menywod Cymru atom i siarad am ei phrofiad a’i gyrfa rygbi. Diddorol iawn oedd clywed ei bod arfer chwarae pan yn ifanc yn nhîm y bechgyn gan nad oedd tîm merched i’w gael. Mae Sioned wedi ennill 19 o gapiau yn chwarae dros Gymru a braf oedd ei chlywed yn ysbrydoli’r plant i weithio’n galed i fedru gwireddu eu breuddwydion. Bûm yn ffodus iawn hefyd i gael Sioned i hyfforddi sgiliau i’r bechgyn a’r merched yng nghlwb yr Urdd. Diolch yn fawr iti, Sioned. |
|
GWEITHDY GWRTH-FWLIO |
|
Cafodd disgyblion blwyddyn 6 fore diddorol a buddiol iawn yng nghwmni Chris ac Amy wrth iddyn nhw drafod hiliaeth. Dysgodd y plant llawer am hiliaeth, gan wybod bellach beth sy'n dderbyniol ac yn annerbyniol wrth drafod hil, cenedl, crefydd a lliw croen. Llongyfarchiadau i Sara, Esyllt, Dylan a Jack am ennill y bandiau braich mewn cwis. A chofiwch - 'Dangoswch y garden goch i hiliaeth'. |
|
TAITH GERDDED Y GYMDEITHAS RIENI AC ATHRAWON |
|
|
Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi'r daith gerdded eleni. Braf oedd gweld cynifer o gerddwyr - yn ddisgyblion, rhieni, perthnasau, staff a chyn-ddisgyblion yr ysgol yn mwynhau'r tywydd braf a chael wâc hamddenol ar hyd y llwybrau gwahanol: ar hyd rhodfa Plascrug ar gyfer y plant bach; a draw i'r cae criced ac yn ôl i'r plant hŷn. Diolch yn arbennig hefyd i gwmni Tŷ Nant am noddi'r noson, ac am gyfrannu cannoedd o boteli o ddŵr i bawb gael dorri'u syched ar y noson. |
PENCAMPWYR TRAWSGWLAD CENEDLAETHOL YR URDD |
|
Llongyfarchiadau i redwyr traws gwlad yr ysgol a lwyddodd i gipio Pencampwriaeth Traws Gwlad Cenedlaethol yr Urdd ar gaeau Blaendolau yn ddiweddar. Cyflwynwyd tarian Clwb Athletau Aberystwyth iddynt, gyda'r ysgol yn ennill y nifer uchaf o bwyntiau ym mhob ras. |
|
BLWYDDYN 6 YN YR ARDD FOTANEG GENEDLAETHOL |
|
Er mwyn cefnogi'r gwaith a wneir yn y dosbarth ar gyfer Daearyddiaeth y tymor hwn, aeth blwyddyn 6 ar ymweliad i'r Gerddi Botaneg Cenedlaethol ger Llanarthne. Pwrpas y daith oedd er mwyn dysgu a gweld enghraifft o sut i fyw yn wyrdd, gan fod yr ardd yn gynaladwy iawn. Mae'n casglu'r dwr glaw i gyd, yn tyfu helyg ei hun ar gyfer bwydo boiler biomass ei hun ac yn trin gwastraff ar y safle ayyb. Diolch yn fawr i Angela am ein tywys o gwmpas yr ardd, ac am ei holl ffeithiau a gwybodaeth ddiddorol. |
|
MELLT YW PENCAMPWYR CYSTADLEUAETH Y CWPAN HOCI |
|
Llongyfarchiadau mawr i un o dîmau hoci'r ysgol, Mellt, ar eu camp anhygoel unwaith eto. Ychydig dros fis yn ôl enillodd Mellt y gynghrair, a nawr maent wedi ennill y Cwpan hefyd. Y tro diwethaf i dîm o'r ysgol ennill y gynghrair a'r cwpan yn yr un flwyddyn oedd pymtheg mlynedd yn ôl! Llongyfarchiadau mawr i Mellt a thîmau eraill yr ysgol am gystadlu mor frwdfrydig yn ystod y tymor hoci, a diolch hefyd i'r holl staff sydd wedi bod yn hyfforddi a chefnogi'r tîmau yn ystod y tymor. |
|
Y SÊR YN CYRRAEDD Y ROWND DERFYNOL |
|
Llongyfarchiadau i dîm hoci’r Sêr am gyrraedd rownd derfynol y cwpan ar nos Wener y 10fed o Fai. Mewn gêm agos iawn, bu’r tîm yn anffodus o golli o un gôl yn y rownd derfynol, ar ôl cyrraedd trwy guro tîmau arbennig o dda a chystadleuol yn y rowndiau cyn-derfynol. Da iawn chi, Sêr.
|
|
EISTEDDFOD YR URDD 2013 : BLWYDDYN 3 YN ENNILL YR ARTEFFACT |
|
Llongyfarchiadau i ddigyblion Blwyddyn 3 ar lwyddo i ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni gyda'i arteffact 3D. Ar ôl ennill yn rhanbarthol, aeth yr arteffact ymlaen i gystadlu yn erbyn gweddill Cymru gan gipio'r wobr gyntaf dan y thema 'Patryma'r Amgylchfyd'. Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i flwyddyn 3 ennill y gystadleuaeth hon. Da iawn chi, blant. |
|
EISTEDDFOD YR URDD 2013 : GWENLLIAN YN DRYDYDD AM FARDDONIAETH |
|
Llongyfarchiadau i Gwenllian o flwyddyn 6 ar lwyddo i ennill y drydedd wobr yng nghystadleuaeth ysgrifennu barddoniaeth i flynyddoedd 5 a 6 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Benfro eleni. Testun y gerdd oedd 'Gofod' ac efallai i chi gofio Gwenllian yn ennill Cadair Eisteddfod yr Ysgol nôl ym mis Chwefror eleni gyda'r un gerdd. Da iawn ti, Gwenllian. Gobeithio wnei di ennill sawl cadair arall eto'n y dyfodol. |
|
EISTEDDFOD YR URDD 2013 : STEFFAN YN AIL AM RYDDIAITH |
|
Llongyfarchiadau mawr i Steffan o flwyddyn 2 ar ei gamp arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Benfro eleni. Llwyddodd Steffan i ennill yr ail wobr yn y gystadleuaeth Rhyddiaith i flwyddyn 2 ac iau. Ysgrifennodd Steffan stori am 'Yr Allwedd Hud'. Roedd allwedd hud Steffan yn mynd ag ef i ras geir. Da iawn ti, Steffan, a gobeithio wnei di barhau i gystadlu'n y dyfodol. |
|
BLWYDDYN 5 GYDA'R ARLUNYDD JAC JONES |
|
Bu plant blwyddyn 5 yn ddigon ffodus i fynychu gweithdy gyda’r arlunydd llyfrau talentog Jac Jones yn y Llyfrgell Genedlaethol yr wythnos hon. Cawsom hwyl yn cael cipolwg trwy ei waith, gan glywed yr hanesion difyr y tu ôl i’w luniau difyr. Tybed os fydd rhywun o’n blwyddyn ni yn arlunydd enwog fel Jac Jones rhyw ddiwrnod? |
|
ANFON A DERBYN CARDIAU 'DIWRNOD Y PLANT' |
|
Yr wythnos hon, bydd chwech o gardiau arbennig i nodi Diwrnod Cenedlaethol y Plant yn cael eu hanfon at ein hysgolion partner yn Ewrop, fel rhan o waith ein prosiect Comenius ‘The Good Life’. Nodir Diwrnod Cenedlaethol y Plant er mwyn annog dealltwriaeth rhwng plant o bob lliw a llun ac er mwyn hybu lles a hawliau plant ar draws y byd. I nodi dyddiad Diwrnod y Plant yn Nhwrci - un o’n hysgolion partner - ar ddiwedd mis Ebrill, yn ogystal ag un o ddyddiadau swyddogol Diwrnod Cenedlaethol y Plant yn fyd-eang ar Fehefin 1af, bydd pob un o ysgolion y prosiect yn anfon cardiau at ei gilydd yr wythnos hon. |
|
CYSTADLEUAETH TRAWS GWLAD YR URDD |
|
Llongyfarchiadau mawr i'r tri yma ar eu llwyddiant yng nghystadleuaeth Traws Gwlad yr Urdd a gynhlaiwyd yn Aberaeron yn ddiweddar. Llwyddodd Rhys o flwyddyn 4 a Sion o flwyddyn 6 i ennill eu rasys hwy, gyda Lisa o flwyddyn 6 yn drydydd yn ei ras hi. Da iawn chi redwyr, a da iawn i bawb arall a deithiodd i lawr i Aberaeron i gymryd rhan yn y rasys. |
|
BLWYDDYN 6 YN YMWELD Â'R CYNULLIAD CENEDLAETHOL |
|
Cafodd disgyblion Blwyddyn 6 fore arbennig o addysgiadol wrth ymweld ag adeilad y Cynulliad yn Aberystwyth yn ddiweddar. Diolch yn arbennig i Sioned am arwain y sesiwn hynod ddiddorol yma gyda'r disgyblion. |
|
SEREN YN 'SEREN' DELEDU! |
|
Dros wyliau'r Pasg eleni bu un o ddisgyblion Blwyddyn 6 yr ysgol yn ffilmio ar set 'Hinterland'. Cafodd Seren ei dewis oherwydd ei thebygrwydd i un o brif sêr y rhaglen, a bydd yn ymddangos mewn cyfresi o ôl-fflachiadau gan fwynhau picnic ar y traeth yn Aberystwyth. Gobeithio cefaist hwyl wrth ffilmio, Seren, ac edrychwn ymlaen i dy weld ar y teledu yn ystod y flwyddyn nesaf. |
|
BLWYDDYN 3 YN YMWELD Â FFERM CWMWYTHIG |
|
|
Ddydd Gwener diwethaf aeth Blwyddyn 3 i fferm Cwmwythig yng Nghapel Bangor. Roedd yn ddiwrnod sych a braf a chawsom y cyfle i weld y gwartheg yn cael eu godro yn y parlwr sy’n dal pedwar deg pedwar ar y tro. Buom yn eistedd yn y tractor a gweld y lloi, y tarw a’r moch bach. Uchafbwynt y trip oedd cael cyfle i ddal y ddau gi bach. Diolch yn fawr i Mr a Mrs Evans a’r teulu am y croeso unwaith eto. |
« Newyddion Ebrill 2013 / Newyddion Mehefin 2013 » | |