Negeseuon 
  yr Wythnos
Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15
  
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 24/Hydref
Dydd Llun 03/11/25
Dydd Mawrth 04/11/25
- Dim neges
 
Dydd Mercher 05/11/25
- Gwasanaeth Ysgol Gyfan
 - Clwb Darllen Amser Cinio
 - Clwb yr Urdd i fl. 1,3a4  3:30 – 4:30yp
 
Dydd Iau 06/11/25
- Nofio i flwyddyn 3
 - Grŵp Recorders 12:30yp
 - Tîmau hoci ar y 2G
4-5pm (gweld amserlen y tymor) 
Dydd Gwener 07/11/25
- YFORY - Dydd Sadwrn -
Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth a'r Fro (gweler y Llythyr y Pennaeth diwethaf am amseroedd) - Aberystwyth a'r Fro 2025 | Cymdeithas Cerdd Dant Cymru
 
LAWRLWYTHIADAU
 Archif
Newyddion Medi 2012 | 
  |
DIOLCH I FFIGAR AM NODDI CIT NEWYDD SBON | 
  |
Heno bydd y gynghrair hoci yn cychwyn ar gaeau astro'r Brifysgol. A diolch i un o fusnesau brodio'r dre, Ffigar, bydd gan un o'r timau git newydd sbon i chwarae ynddo. Yn y llun gweler Mr Williams y Pennaeth a Mr Gari Appleton o Ffigar gyda thîm hoci 'Mellt'. Eleni mae gan yr ysgol bedwar o dimau fydd yn chwarae'n wythnosol yn y gynghrair. Pob hwyl iddyn nhw i gyd.  | 
  |
PENBLWYDD YR YSGOL A DADORCHUDDIO PLAC ARB ENNIG | 
  |
Newyddion BBC Cymru: Dadorchuddio plac i gofio'r Ysgol Gymraeg gyntaf  | 
    Heddiw, ar y 25ain o Fedi 2012, dathlodd Yr Ysgol Gymraeg ei phen-blwydd yn 73 oed.   | 
  
CHWARAEON YN ERBYN YSGOL RHYDYPENNAU | 
  |
Braf oedd croesawu Ysgol Rhydypennau i'r Ysgol Gymraeg ar gyfer cynnal gêmau pêl-droed a phêl-rwyd. Trefnir cynghrair rhwng ysgolion y cylch gyda'r gêmau'n cael eu cynnal ar brynhawnau dydd Gwener. Tro Rhydypennau oedd i hi i ymweld â'r Ysgol Gymraeg wythnos hon, gyda'r Ysgol Gymraeg yn dychwelyd i Rydypennau yn y Gwanwyn. Chwaraewyd gêmau agos iawn rhwng y ddwy ysgol heddiw, gyda phawb yn mwynhau cystadlu (a mwynhau gwydraid o ddiod oer ar y diwedd!)  | 
  |
AGOR 'CASTELL OWAIN GLYNDŴR' YM MLWYDDYN 2! | 
  |
  | 
    Ddoe, roedd hi'n Ddiwrnod Owain Glyndŵr. A heddiw, dyma ni'n agor castell newydd sbon ym mlwyddyn 2 er cof am yr arweinydd dewr hwnnw. Bydd y castell yn chwarae rhan bwysig yn ardal chwarae tu allan i ardal blwyddyn 2, gyda gofod y tu mewn i'r castell er mwyn gwrando ar straeon am arwyr Cymru! Diolch i Dai a Ceredig am eu gwaith yn adeiladu'r castell, ac i Barclays yn arbennig am y nawdd i dalu am y deunydd i godi'r castell. Diolch yn ogystal i Owen Llew o'r Llyfrgell Genedlaethol am ddod i mewn i'r ysgol i sôn am hanes Owain Glyndŵr wrth ddisgyblion blwyddyn 2.  | 
  
BUDDUGWYR TWRNAMENT PÊL DROED | 
  |
Llongyfarchiadau i griw o fechgyn blwyddyn 6 a lwyddodd i ennill twrnament pêl-droed ar gyfer rhai dan 11 oed. Cynhaliwyd y twrnament er cof am  Gary Pugh ar gaeau Blaendolau dros y penwythnos.   | 
  |
TAITH ADDYSGIADOL BLWYDDYN 3 O AMGYLCH TREF ABERYSTWYTH | 
  |
  | 
    Cafodd blwyddyn tri fore hwylus iawn yn teithio o amgylch y dref yn dysgu am hanes a phrif adeiladau Aberystwyth. Diolch yn fawr i Mr a Mrs Morgan am y sgwash a’r bisgedi!  | 
  
TOMI YN LLWYDDO YN Y SIOE FRENHINOL | 
  |
Llongyfarchiadau mawr i Tomi o flwyddyn 1 am lwyddo i ddod yn drydydd yn y gystadleuaeth gelf i blant cynradd yn Sioe Frenhinol Cymru dros yr haf. Roedd yn rhaid i Tomi dynnu llun buwch, ac fel y gwelwch, gwnaeth jobyn ardderchog ohoni!   | 
  |
BEICIO I LUNDAIN ER COF AM ANGHARAD | 
  |
  | 
    Dros wyliau'r haf eleni, aeth aelodau o staff yr ysgol, ynghyd â ffrindiau ac aelodau o deulu Angharad ar daith feics o Aberystwyth i Lundain er cof am gyn-ddisgybl, Angharad Mair Williams, a fu farw Tachwedd y llynedd yn dilyn brwydr dewr iawn yn erbyn ei chyflwr EB. Diolch o galon i bawb wnaeth noddi'r daith, gyda'r cyfanswm bellach dros £12,000 - swm fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r ward a oedd yn trin Angharad. Cafodd y beicwyr dridiau pleserus iawn yng nghwmni'i gilydd - edrychwch ar y lluniau i weld y stori yn llawn!  | 
  
| « Newyddion Gorffennaf 2012 / Newyddion Hydref 2012 » | |