Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 10/Hydref

 

Dydd Llun 13/10/25

  • Cyfarfod Teams wythnosol
  • Nofio i flwyddyn 5

Dydd Mawrth 14/10/25

  • Diwrnod Coch, Gwyn a Gwyrdd yr Urdd
  • Ymarfer rygbi agored bl.5a6 3:30-4:30yp

 

Dydd Mercher 15/10/25

  • Diwrnod Shwmae Su'mae
  • Gwasanaeth Ysgol Gyfan
  • Clwb Darllen Amser Cinio
  • Clwb yr Urdd i fl. 1,3a4 3:30 – 4:30yp

 

Dydd Iau 16/10/25

  • Nofio i flwyddyn 3
  • Grŵp Recorders 12:30yp
  • Blwyddyn 6 yn treulio’r diwrnod yn Ysgol Penweddig
  • Tîmau hoci ar y 2G
    4-5pm (gweld amserlen y tymor)

 

Dydd Gwener 17/10/25

  • COGURDD bl.4,5a6 (prynhawn)
  • Disgo Calan Gaeaf y Cylch Meithrin yn Neuadd yr Ysgol i blant oed Meithrin - Bl.2
    4:00-5:00yp

 

 

LAWRLWYTHIADAU

Beicio o Aber i Lundain

Awst 2012

ER COF AM ANGHARAD MAIR WILLIAMS

 

Angharad

Ar ddiwedd mis Tachwedd 2011, bu farw Angharad yn 14 mlwydd oed. Roedd hi'n gyfnod trist iawn i staff a disgyblion yr ysgol wrth gofio am gyn-ddisgybl hoffus a llawn bywyd er gwaethaf ei chyflwr meddygol a'r anawsterau a'i hwynebodd yn ddyddiol. Brwydrodd Angharad yn ddewr iawn gyda'i chyflwr EB drwy gydol ei bywyd, gan deithio i Ysbyty Great Ormond Street er mwyn derbyn triniaeth yn bythefnosol yn ystod ei blwyddyn olaf.

Y daith

Er mwyn diolch i'r ysbyty hwnnw ac mewn dathliad o fywyd Angharad rydym fel staff a chyfeillion Yr Ysgol Gymraeg wedi penderfynu beicio o'r Ysgol Gymraeg i Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain yn ystod gwyliau'r haf eleni. Taith sydd yn 220 milltir o hyd. Bwriad y daith yw i gyflwyno siec i'r ysbyty o'r arian a godir trwy weithgareddau a drefnir gan ddisgyblion yr ysgol yn ystod tymor yr haf, a'r arian a godir trwy nawdd ar gyfer y daith feics ei hun.

Noddi

Os hoffech chi noddi'r achos teilwng hwn gallwch naill ai fynd i ystafell Mr Clive Williams y Pennaeth neu at Ffion yr Ysgrifenyddes i lenwi ffurflen noddi, neu gliciwch yma i gyfrannu ar dudalen JustGiving. Os ydych yn fusnes ac hoffech noddi drwy osod eich logo ar ein crysau beicio, cysylltwch â Mr Gareth James y Dirprwy drwy e-bostio gareth.james@ysgolgymraeg.ceredigion.sch.uk

Diolch.

Oeddech chi'n gwybod?

Ganwyd Angharad ar yr
16eg o Orffennaf 1997

Hoff liw Angharad oedd pinc!

Roedd Angharad wrth ei bodd
yn tynnu coes a chwarae jôcs
ar bobl!


Roedd hi wrth ei bodd yn darllen,
ac yn casau Mathemateg!


 

 

i ddarllen adroddiad y Diwrnod Pinc ewch i Newyddion Mehefin
 
i ddarllen adroddiad Diwrnod Angharad ewch i Newyddion Gorffennaf