Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 13/Rhag
Dydd Llun 16/12/24
- Diolch i bawb am eich cefnogaeth i'r Gyngerdd Nadolig nos Iau diwethaf
- Prynhawn Agored y Meithrin ar gyfer plant newydd Ionawr 1:15yp
Dydd Mawrth 17/12/24
- Dim neges
Dydd Mercher 18/12/24
- Gwasanaeth Ysgol Gyfan gyda chriw Agor y Llyfr
- Cinio Nadolig yr ysgol, a diwrnod Siwmper Nadolig
- Dim Clwb yr Urdd tan y gwanwyn
Dydd Iau 19/12/24
- Gwasanaeth Ysgol Gyfan
- Dim nofio wythnos hon
- SINEMA i bawb heblaw Meithrin - 'Arthur Christmas' - **cofiwch fod angen casglu eich plentyn o Sinema'r Commodore am 3:15yp os gwelwch yn dda**
Dydd Gwener 20/12/24
- Dim Cerddorfa heddiw
- Diwedd tymor 3:30yp
- Nadolig Llawen i chi i gyd
- Bydd y tymor newydd yn cychwyn i bawb ar ddydd Llun y 6ed o Ionawr 2025
LAWRLWYTHIADAU
Y Cyngor Ysgol a Phwyllgorau Plant
Croeso i wybodaeth a digwyddiadau 2023-2024
CYNGOR YSGOL : PWY YDYM NI A BETH RYDYM YN EI WNEUD?
Rydym yn griw o ddisgyblion a etholwyd gan blant ein dosbarthiadau er mwyn eu cynrychioli yn y cyfarfodydd. Rydym yn cyfarfod pob mis gyda Mrs Jones lle fyddwn yn trafod gwahanol ffyrdd o wella'r ysgol ac yn trefnu gweithgareddau gwahanol hefyd.
Harri Cynrychiolydd Bl.6 |
Eiry Cynrychiolydd Bl.6 |
Herbie Cynrychiolydd Bl.6 |
Millie Cynrychiolydd Bl.6 |
|||
Cadi Cynrychiolydd Bl.5 |
Sophie Cynrychiolydd Bl.5 |
Elan Cynrychiolydd Bl.4 |
Eila Cynrychiolydd Bl.4 |
|||
Macs Cynrychiolydd Bl.3 |
Ezra Cynrychiolydd Bl.3 |
|||||
Medi 2023 |
Cofnodion y Cyfarfod Cychwynnol |
||
Cafwyd cyfarfod cychwynnol o’r Cyngor Ysgol i drafod pa bwyllgorau plant fydd yr aelodau yn mynychu eu cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn. Penderfynwyd rhannu yr aelodau fel hyn: |
|||
Herbie Eiry Harri Millie Cadi Sophie Elan ac Eila Macs ac Ezra |
Pwyllgor E-ddiogelwch Pwyllgor Eco Pwyllgor Taclo’r Toiledau Pwyllgor Gorau Chwarae – Cyd Chwarae Pwyllgor Llesiant Y Siarter Iaith Pwyllgor Gwrth fwlio Pwyllgor Dyngarol |
||
Tasg gyntaf y Cyngor Ysgol fydd mynychu’r cyfarfodydd hyn a’u cynorthwyo i fwydo i mewn i’r cynllun ar gyfer y tymor. |
|||
Medi 2023 |
Jeans for Genes |
||
Diolch i bawb a gefnogodd yr ymgyrch i godi arian ar gyfer Jeans for Genes a dysgu mwy amdano gan gydnabod bod pawb yn wahanol. Llwyddwyd i godi £172.42. |
|||
Hydref 2023 |
Bocsys Anrhegion yr Wcrain |
||
Diolch yn fawr i Jenny am ein gwahodd i drefnu casgliad bocsys anrhegion Nadolig ar gyfer plant yn yr Wcrain. Pwysig tu hwnt yw meddwl am yr amser echrydus mae’r plant yma’n ei brofi ar hyn o bryd. Diolch i chi blant a rhieni am y cyfraniadau hael. |
|||
Tachwedd 2023 |
Pabi Coch |
||
Gyda Sul y cofio ar y gorwel, buom ym gwerthu pabi coch i staff a disgyblion yr ysgol er mwyn codi arian ar gyfer y Royal British Leigon. Diolch i bawb am fod mor gefnogol a chofio ar adeg pan mae rhyfeloedd yn dal i'n heffeithio heddiw. |
|||
Tachwedd 2023 |
Sanau Sili |
||
Y diwrnod perffaith i wisgo y sanau od ‘na sydd ar waelod y fasged ddillad yw Dydd Mercher y 15fed o Dachwedd fel rhan o’n gwaith i godi ymwybyddiaeth yn ystod wythnos gwrth- fwlio a dathlu ein bod ni gyd yn wahanol. Edrychwn ymlaen at weld y sannau sili! |
|||
Tachwedd 2023 |
Her Bearpees |
||
Am gyffro oedd yn yr ysgol heddiw (15.11.23) wrth i Al Hughes o BBC Radio Cymru a Pydsi alw heibio i'n gweld yn cefnogi ei ymgyrch gyda her bearpees i godi arian ar gyfer Plant Mewn Angen. Diolch i bawb am weithio mor galed a dilyn ein cyfarwyddiadau mor dda! |
|||
Tachwedd 2023 |
'Sgen ti dalent? |
||
Cafwyd diwrnod gwerth chweil wrth godi arian ar gfyer Plant Mewn angen eleni gyda’r pwyllgor yn trefnu cystadleuaeth Sgen ti Dalent. Roedd pawb wedi gweithio mor galed i berfformio amrywiaeth o eitemau, o gymnasteg , i ganu’r piano i driciau hud a lledrith. Er bod Mrs Jones yn glyfar gyda’i thric hud a lledrith, Mr James oedd seren y sioe wrth iddo gerdded ar ei ddwylo! Talentog iawn Mr James! |
|||
Tachwedd 2023 |
Plannu coeden |
||
Mwynhaodd y pwyllgor eco blannu coeden ar dir yr ysgol heddiw (29.11.23). Diolch i Sue Jones-Davies ac i griw Gwyrddach Aberystwyth Greener am y goeden. Rydym yn falch iawn i gael bod yn rhan o’r cynllun a helpu troi Aberystwyth yn le fwy gwyrdd. |
|||
Ionawr 2024 |
Bocsys Adar |
||
Yn dilyn llwyddiant ymgyrch treegeneration a Glasu Iard yr Ysgol, rydym fel pwyllgor eco wedi bod yn ffodus i fedru archebu 4 bocs adar newydd ar gyfer yr ysgol. Mwynhaodd y pwyllgor addurno’r bocsys a bydd e’n hyfryd eu gweld yn eu cartrefi newydd yn fuan. Diolch i bawb am eu cyfraniadau ariannol ac yn arbennig i Rob o Treegeneration am bopeth. |
|||
Ionawr 2024 |
Caru Gwenyn |
||
Diolch unwaith eto i Rob Squires o Treegeneration, Sian Saunders o Gynllun Caru Gwenyn Llywodraeth Cymru a Jane Powell am ddod atom fel pwyllgor i sarad am yr ardd a chreu cynllun ar gyfer glasu’r ysgol. Edrychwn ymlaen at fedru gwella’r ardaloedd o gwmpas yr ysgol. |
|||
Ionawr 2024 |
Disgo Dwynwen |
||
I ddathlu diwrnod Santes Dwynwen eleni, drefnon ni ddisgo arbennig ar gyfer yr Ysgol gyfan. Creodd criw blwyddyn 6 fidio yn gwahodd pawb I ymuno tra bod gweddill y cyngor Ysgol wedi mynd ati i greu rhestr chwarae arbennig ar gyfer yr achlysur. Roedd hi’n wych i weld pawb yn dangos ei symudiadau cŵl yn y neuadd. |
|||
Ionawr 2024 |
Bags2School |
||
Diolch yn fawr iawn I bawb am yr holl gyfraniadau I’r casgliad Bags 2 School. Gymerodd hi dipyn o amser i gludo’r bagiau i gyd I’r fan! Cyfanswm o £236.50! Gwych! |
|||
Chwefror 2024 |
Diwrnod Diogelwch y We |
||
Heddiw rhannom neges bwysig gyda’r ysgol gyfan yn y gwasanaeth wrth i ni dynnu sylw ar ddiwrnod diogelwch y We. Ydy mae’r we yn adnodd defnyddiol sydd yn rhan o fywyd pawb, ond mae’n dod gyda pheryglon sydd yn rhaid i ni dynnu sylw atynt. Diolch i bawb am eu gwarndawiad gwych! |
|||
Chwefror 2024 |
Dydd Miwsig Cymru |
||
Cofiwch ei bod hi’n ddydd Miwisg Cymru ar y 9fed o Chwefror! Ewch ati i wrando a mwynhau amrywiaeth o gerddoriaeth Cymraeg. Beth am wrando ar rhai o ffefrynnau’r pwyllgor Siarter Iaith? |
|||
Chwefror 2024 |
Cylchgrawn newydd Buzzabazoo |
||
Cylchgrawn newydd Buzzabazoo. Mae’r copi newydd yn barod. Mae Glasu Iard yr Ysgol yn ymgyrch i godi arian ac i addysgu pobl ifanc am fywyd gwyllt ac i wneud y mannau awyr agored yn fwy ecogyfeillgar. Edrychwch pwy sydd ar y dudalen flaen! Mwynhewch |
|||
Chwefror 2024 |
Cyfarfod yn Siambr y Cyngor |
||
Diolch yn fawr I’r cynghorydd Kerry Ferguson am ein gwahodd i gyfarfod yn y siambr. Buon ni’n trafod sut i wario cyllideb y cyngor tref gan gael trafodaeth dda wrth bwyso a mesur ble oedd y llefydd fwyaf pwysig i wario’r arian. |
|||
Y PWYLLGORAU PLANT - PWY A BETH YW'R PWYLLGORAU PLANT?
Mae wyth o bwyllgorau i gyd. Penderfynwyd eu creu i glywed mwy o leisiau na llais y Cyngor Ysgol yn unig. Mae'r Pwyllgorau Plant yn cyfarfod i drafod y pethau pwysig sy'n dylanwadu ar fywyd yr ysgol, ac yn rhannu'r wybodaeth hynny gyda'r Cyngor Ysgol. Mae pob un o ddisgyblion Blwyddyn 6 ar bwyllgor sy'n golygu bod llais pawb ar frig yr ysgol yn cael ei glywed.
> Pwyllgor E-ddiogelwch
> Pwyllgor Eco
> Pwyllgor Taclo’r Toiledau
> Pwyllgor Gorau Chwarae – Cyd Chwarae
> Pwyllgor Llesiant
> Y Siarter Iaith
> Pwyllgor Gwrth fwlio
> Pwyllgor Dyngarol