Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 15/Maw

 

Dydd Llun 18/03/24

  • Nyrsys Ysgol yn y Derbyn
  • Sesiwn Aml-Sgiliau i fl.3a4 yn y Brifysgol gyda Ceredigion Actif
  • Noson Rieni 1 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

Dydd Mawrth 19/03/24

  • Noson Rieni 2 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

 

Dydd Mercher 20/03/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan gyda chriw Agor y Llyfr
  • Blwyddyn 3 yn dringo Pen Dinas
  • Dim ymarfer Ymarfer Cân Actol tan ar ôl y Pasg
  • Does dim Clwb yr Urdd yr hanner tymor hwn

 

Dydd Iau 21/03/24

  • Nofio i fl.5 a 3

 

Dydd Gwener 22/03/24

  • Ymarfer Cerddorfa Ysgol 8:45yb
  • Cau ar gyfer gwyliau'r Pasg (bydd y tymor newydd yn cychwyn i blant ar ddydd Mawrth y 9 fed o Ebrill)

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Gorffennaf 2013

GWOBRAU BLWYDDYN 6

Ar y bore olaf un, trefnwyd gwasanaeth yn gyfangwbl dan ofal blwyddyn 6, cyn iddynt adael yr Ysgol Gymraeg ar gyfer cychwyn yn yr ysgolion uwchradd wedi'r haf.

Cafwyd cyfle hefyd i ddosbarthu'r gwobrau blynyddol, gyda'r tlysau'n cael eu cyflwyno fel a ganlyn:
Prif sgoriwr pel-droed - Siôn E.
Chwaraewr mwyaf dylanwadol - Will C.
Gwobr Rygbi - Gwydion H.
Gwobr Trawsgwlad - Lisa C. a Siôn E.
Gwobr Nofio - Sioned W.

Llongyfarchiadau mawr i'r pump a phob dymuniad da i'r holl ddisgyblion sy'n trosglwyddo i'r Uwchradd - mi fyddwn yn gweld eich heisiau chi i gyd fis Medi.

 

GWYLWYR Y GLANNAU

Croesawyd Tomi Turner, sy'n gyn-ddisgybl yr ysgol, atom i rannu neges bwysig iawn parthed diogelwch glan-môr dros wyliau'r haf.

Gydag Aberystwyth yn dref glan-môr, roedd neges Tomi yn holl bwysig i bob un o ddisgyblion yr ysgol, gyda gwersi'n cael eu dysgu hefyd parthed adnabod baneri arbennig a thonnau peryglus.

Diolch Tomi am dy gwmni a'th neges bwrpasol eleni eto.

 

TAITH FEICS BLWYDDYN 6

Yn dilyn wythnosau o wersi beicio gyda hyfforddwyr Cyngor Ceredigion, daeth hi'n amser i ddisgyblion blwyddyn 6 ymarfer eu holl sgiliau newydd wrth inni fynd ar daith feics ar hyd y lôn i Ystad Glan-yr-afon ac yna ar hyd y prom gan alw yn yr 'Hut' am hufen iâ ar ein ffordd nôl i'r ysgol.

Diolch yn arbennig i Terry, Catrin a Malcolm am eu gwaith yn hyfforddi'r disgyblion i feicio'n ddiogel yn ystod tymor yr haf eleni.

 

YMWELIAD GAN YR HEDDLU

Cafwyd ymweliad gan yr Heddlu heddiw er mwyn atgoffa'r disgyblion i gadw'n ddiogel a hithau'n ddiwedd tymor a diwedd y flwyddyn ysgol.

Atgoffodd yr Heddlu ni i sut i gadw'n ddiogel yn ystod ein chwe wythnos o wyliau, gan ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon a oedd gan y plant.

Diolch yn fawr iddynt am ddod i'r ysgol.

 

NOSON BARBECIW Y G.RH.A

Cafwyd barbeciw llwyddiannus iawn ar noson braf o haf eleni.

Daeth cannoedd i fwynhau'r arlwy o gig moch, byrgyrs, salad, ffrwythau, hufen iâ, pwdinau a mwy.

Diolch i bawb a gefnogodd, ac yn enwedig i'r cigydd Aled Morgan a holl aelodau'r GRhA am eu gwaith diflino yn ystod y flwyddyn ac am eu holl baratoadau ar gyfer y noson lwyddiannus hon.

 

CERDDWN YMLAEN

Yn dilyn ein diwrnod elusennol ddechrau'r wythnos, aeth criw o ddisgyblion blwyddyn 6 i gerdded gyda Rhys Meirion ac enwogion eraill wrth iddyn nhw godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

Yn y llun mae'r Cyngor Ysgol yn cyflwyno siec o £300 i Iolo Williams.

Cerddodd Blwyddyn 6 ar hyd Rhodfa Plascrug, trwy'r dre, ar hyd y prom ac i fyny Craig Glais gyda'r cerddwyr.

Cliciwch yma i weld y criw yn eistedd ar dop Craig Glais gyda golygfa hyfryd Aberystwyth yn y cefndir.

 

MABOLGAMPAU RHYNG-SIROL

Yn dilyn eu llwyddiant ym Mabolgampau Dyfed yn ddiweddar, cafodd tair o ferched Blwyddyn 6 y cyfle i gynrychioli tîm Dyfed mewn cystadleuaeth athletau ryng-sirol yn erbyn tîm Gorllewin Morgannwg yng Nghaerfyrddin.

Llongyfarchiadau mawr i Lisa am ddod yn ail yn y ras 100 metr ac yn ail fel aelod o'r tîm ras gyfnewid, Caitlin am ddod yn bedwerydd am daflu pwysau, a Gwenllian am ddod yn chweched yn ras y clwydi.

 

LLWYDDIANT MEWN CYFEIRIANNU

Bu rhai o ddisgyblion yr ysgol yn brysur yn cystadlu mewn cystadleuaeth gyfeiriannu yn ddiweddar.

Llongyfarchiadau i Gwenllian, Rosa a Dylan o Flwyddyn 6, George o Flwyddyn 5, a Hannah a Lucie o Flwyddyn 4 am fod yn aelodau o dîm buddugol ysgolion Ceredigion wrth iddynt guro tîm ysgolion Powys yn y gystadleuaeth gyffrous a gynhaliwyd mewn coedwig uwchlaw Tre'r Ddôl.

 

GWIBDAITH BLWYDDYN 4 I YNYS HIR A MACHYNLLETH

Ar ddydd Gwener, yr ail ar bymtheg o Orffennaf aeth blwyddyn 4 ar wibdaith i Ynys Hir.

Gwarchodfa natur yw Ynys Hir sy’n gofalu am anifeiliaid, planhigion a chreaduriaid bach. Yn ystod y dydd cawsom gyfle i ddarganfod creaduriaid yn y goedwig ac efo rhwydi chwilio am greaduriaid yn y pwll dŵr. Roedd pawb wedi mwynhau’r gweithgareddau yn fawr iawn er bod pawb braidd yn wlyb! Ar ôl ychydig o fwyd aethom i Fachynlleth i gael sesiwn hwyl yn y pwll nofio.

 

DIWRNOD CODI ARIAN I ELUSENNAU

Cafwyd diwrnod o hwyl yn yr ysgol heddiw er mwyn codi arian at ddwy elusen - ymgais Celyn Kenny, cyn-ddisgybl, i ddringo mynydd Kilimanjaro i godi arian i elusen Childreach International, a’r daith gerdded Cerddwn Ymlaen er budd Ambiwlans Awyr Cymru. Daeth disgyblion Blwyddyn 5 a 6 â llond lle o gacennau blasus i’w gwerthu yn y neuadd yn y bore, ac yn y prynhawn bu pob disgybl o’r Derbyn i Flwyddyn 5 yn cystadlu mewn gêmau potes allan ar y cae a drefnwyd yn arbennig ar eu cyfer gan Flwyddyn 6. Diolch yn fawr iawn i’r rhai a fu’n brysur yn paratoi cacennau, i’r Cyngor Ysgol am drefnu’r diwrnod, ac i bawb a gyfrannodd yn hael at ddau achos teilwng iawn.

 

CYN-DDISGYBL, MEGAN, YN BEICIO O OGLEDD I DDE FFRAINC

Croesawyd Megan Meredith sy'n gyn-ddisgybl yr Ysgol Gymraeg atom i rannu ei phrofiad o feicio dros 1000km ar draws Ffrainc yn ddiweddar.

Mae Megan, sydd bellach yn ddisgybl yn Ysgol Penweddig, newydd ddychwelyd o Ffrainc yn dilyn y siwrne bell a gyflawnodd dros ddeng niwrnod. Hyd yma mae Megan wedi llwyddo i godi dros £1,250 o bunnoedd o nawdd tuag at ApêlElain.

Diolch Megan am rannu dy brofiad gyda ni, ac am ddangos yr holl luniau diddorol.

 

CROESAWU DISGYBL O DRELEW, PATAGONIA I'R YSGOL

Cawsom ymwelydd pwysig iawn yn ein gwasanaeth foreol ni heddiw.

Mae Mercedes ar ymweliad ag Aberystwyth o'i hysgol yn Nhrelew, Patagonia. Medra Mercedes siarad Sbaeneg a Chymraeg yn rhugl, gan dderbyn gwersi Cymraeg yn ei hysgol yn y Wladfa.

Diolch i ti Mercedes am dy gyfraniad i'r gwasanaeth (darllenodd Mercedes weddi hyfryd i ni) ac am ateb cwestiynau diddiwedd y disgyblion hefyd!

 

MABOLGAMPAU'R YSGOL 2013

 

Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (194 llun)

Cafwyd diwrnod bendigedig o ran tywydd a chystadlu ar gyfer ein Mabolgampau Ysgol eleni.

Cystadlodd pawb yn frwd o'r Meithrin i flwyddyn 6, gan redeg, taflu a neidio gyda'r gorau er mwyn ennill marciau i'w gwahanol dai.

Yn ennill tlws y Victrix Ludorum eleni, sef y ferch i ennill y mwyaf o bwyntiau i'w thŷ, oedd Madeleine o flwyddyn 5; ac aeth y Victor Ludorum i Siôn o flwyddyn 6.

Y tŷ buddugol ar ddiwedd yr holl gystadlu oedd Dewi (208 pwynt), yn ail Caradog (207 pwynt) ac Arthur yn drydydd (194 pwynt).

 

COGINIO YM MHENWEDDIG (DOGNI BWYD YR AIL RYFEL BYD)

 

Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (88 llun)

Treuliodd disgyblion Blwyddyn 6 brynhawn difyr dydd Iau yn coginio draw yn Ysgol Penweddig. Fel rhan o’n gwaith Hanes y tymor hwn rydym wedi bod yn dysgu am yr Ail Ryfel Byd, ac am ddogni bwyd yn arbennig. Y gamp i’r disgyblion oedd dilyn ryseitiau o’r cyfnod er mwyn creu cacennau a bisgedi. Fe weithiodd pawb yn ddiwyd iawn, ac roedd y cynnyrch gorffenedig yn flasus dros ben. Mae’n amlwg fod sawl cogydd dawnus gyda ni ym Mlwyddyn 6! Diolch yn fawr i Mrs Menna Lewis ac i Ysgol Penweddig am y croeso a’r cymorth.

 

ELOISE YN NODDI DAU DEIGR A DAU LLEWPART YR EIRA!

Cerddodd Eloise Bl.2 NJ o’i chartref yn Llandre i’r ysgol fore gwlyb y 14eg o Fehefin. Bu gweddill disgyblion Bl2 NJ yn ei noddi er mwyn iddi godi arian i fabwysiadu llewpart yr eira a theigr sy’n byw ym mynyddoedd yr Himalaya. Mae’r anifeiliaid gwyllt hyn yn brin ac yn dibynnu ar nawdd i ofalu amdanynt gan WWF. Llwyddodd Eloise i gasglu digon o arian i fabwysiadu dau deigr a dau llewpart! Derbyniodd Eloise dau degan meddal i’r dosbarth fel arwydd o werthfawrogiad gan WWF.
Go lew hi!

 

DIWRNOD HWYL YR URDD 2013

 

Cliciwch uchod i wylio'r fideo

Yn dilyn seibiant y llynedd, dychwelodd Diwrnod Hwyl yr Urdd i Aberystwyth eleni eto, gan gynnig hwyl go iawn i ddisgyblion Blwyddyn 6!

Cafodd y plant hwyl wrth gymryd rhan mewn Zumba, pêl-droed, criced, golff, rygbi, athletau, pêl-dodj, pel-fasged, hoci a mwy!

Diolch i'r Urdd unwaith eto am drefnu'r holl weithgareddau amrywiol.

 

CRICED 50/50 CENEDLAETHOL

Yn dilyn eu llwyddiant yn nhwrnament griced 50/50 y sir yn ddiweddar, aeth disgyblion Blwyddyn 4 i Gaerdydd ar gyfer cystadlu yn y gystadleuaeth genedlaethol.

Llwyddodd y criw i ennill pob un o'r daith gêm gychwynnol, cyn colli yn y gêm gyn-derfynol.

Anlwcus blant, ond llongyfarchiadau mawr ar chwarae criced arbennig o dda yn ystod yr haf.

 

SION YN TORRI'I WALLT GAN GODI DROS £550 I ELUSEN

Diolch yn arbennig i un o ddisgyblion Blwyddyn 6 yr ysgol, Siôn, am godi dros £550 o nawdd i elusen leol.

Ers sawl mis bu Siôn yn tyfu'i wallt yn arbennig ar gyfer codi arian i ApêlElain. Yna, ar ôl tyfu ei wallt yn hir, dyma fe'n torri'r cyfan i ffwrdd yn fyr iawn iawn yn neuadd yr ysgol o flaen pawb!

Dewr iawn, Siôn!

 

 

GWIBDAITH BLWYDDYN 2 I GANOLFAN Y BARCUD

 

Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (65 llun)

Cafodd disgyblion blwyddyn 2 fore dymunol iawn yng Nghanolfan y Barcud, Tregaron yn ddiweddar.

Cafodd y merched wisgo pinaffor gwyn ac eistedd ar feinciau tu ol i ddesgiau pren. Roedd yn rhaid i bawb siarad Saesneg yn y dosbarth neu fe fydden nhw’n gorfod gwisgo’r Welsh Not am eu gwddf. Buont yn adio ac yn adrodd tabl 2 gan ddefnyddio abacws pren. Roedd yr athro yn ysgrifennu geiriau Saesneg ar y bwrdd du efo sialc. Cyn ateb cwestiwn roedd yn rhaid i bawb ddweud ‘Please Sir..’ Roedd yn brofiad gwahanol iawn.

Profiad hollol wahanol i'n hysgol ni diolch byth!

 

 

« Newyddion Mehefin 2013 / Newyddion Medi 2013 »