Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 20/Ionawr
► Llyfryn gan Dîm Cefnogi'r Gymraeg
Dydd Llun 23/01/23
Dydd Mawrth 24/01/23
- Dim neges
Dydd Mercher 25/01/23
- Diwrnod Santes Dwynwen
- Gwasanaeth ysgol gyfan
- Clwb yr Urdd i fl.1,3 a 5
3:30-4:30yp - Ymarfer rygbi 3:30-4:30yp
Dydd Iau 26/01/23
- Nofio Blwyddyn 5 - bore
- Nofio Blwyddyn 4 - prynhawn
- DISGO DWYNWEN - digwyddiad gan y G.Rh.A yn neuadd yr ysgol 3:30 - 4:30yp - gweld poster
Dydd Gwener 27/01/23
- Cerddorfa Ysgol am 8:45yb
- Grwpiau Sillafu Cymraeg bl.3-6
- 2:45yp - Rhaglen 'Chwarter i Dri' - cyfle i'r Pwyllgorau Plant rannu eu negeseuon gyda gweddill yr ysgol
- Er gwybodaeth, dydy'r streic wythnos nesaf ddim yn effeithio ar yr ysgol.
LAWRLWYTHIADAU
Gair o groeso gan y Pennaeth
Croeso i chwi i dudalennau gwefan Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Dyma ysgol Gymraeg benodedig gyntaf Cymru a sefydlwyd yn 1939 gan Syr Ifan ab Owen Edwards. Saith o blant oedd yn yr ysgol yn y dyddiau cynnar ond bellach mae’r ysgol wedi tyfu i dros bedwar cant o ddisgyblion. Daw’r disgyblion atom o dref Aberystwyth ac o’r ardaloedd gwledig cyfagos.
Tyfodd yr ysgol yn gyson yn ystod yr wythdegau a’r nawdegau wrth i mwy a mwy o rieni weld gwerth mewn addysg Gymraeg. Mae yna gynnydd sylweddol yn y nifer o rieni di-Gymraeg sy’n danfon eu plant i’r ysgol wrth iddynt weld manteision dwyieithrwydd.
Mae’r Llywodraethwyr mewn cydweithrediad ag Awdurdod Addysg Ceredigion wedi cydweithio’n glòs i sicrhau adeilad addas ac adnoddau pwrpasol er mwyn diwallu’r cynnydd yn niferoedd y disgyblion. Mae yna 18 o athrawon a dros 20ain o gynorthwywyr yn gweithio yn yr ysgol ynghyd â 15 o staff ategol. Mae’r tîm yn frwdfrydig ac yn gweithio’n galed i godi safonau a gwella’r ysgol yn barhaus.
Ymfalchïwn yn safonau cyrhaeddiad uchel yr ysgol, ac mae’r ystod eang o weithgareddau allgyrsiol hefyd yn bwysig inni, gyda disgyblion yn profi llwyddiant mewn amrywiol feysydd o eisteddfodau’r Urdd i fyd chwaraeon.
Ein nod yw datblygu’r plentyn cyfan a chreu awyrgylch ddiogel, hapus a Chymreig – “fel y cadwer i’r oesoedd a ddêl y glendid a fu”. Darllenwch ymlaen am ragor o wybodaeth, ac er mwyn cael rhyw flas o fwrlwm yr ysgol brysur hon.
Mr Clive Williams