Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 15/Maw

 

Dydd Llun 18/03/24

  • Nyrsys Ysgol yn y Derbyn
  • Sesiwn Aml-Sgiliau i fl.3a4 yn y Brifysgol gyda Ceredigion Actif
  • Noson Rieni 1 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

Dydd Mawrth 19/03/24

  • Noson Rieni 2 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

 

Dydd Mercher 20/03/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan gyda chriw Agor y Llyfr
  • Blwyddyn 3 yn dringo Pen Dinas
  • Dim ymarfer Ymarfer Cân Actol tan ar ôl y Pasg
  • Does dim Clwb yr Urdd yr hanner tymor hwn

 

Dydd Iau 21/03/24

  • Nofio i fl.5 a 3

 

Dydd Gwener 22/03/24

  • Ymarfer Cerddorfa Ysgol 8:45yb
  • Cau ar gyfer gwyliau'r Pasg (bydd y tymor newydd yn cychwyn i blant ar ddydd Mawrth y 9 fed o Ebrill)

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Mehefin 2013

CYN-DDISGYBL YN DRINGO KILIMANJARO

Braf oedd croesawu Celyn Kenny atom y bore ma.

Mae Celyn yn gyn-ddisgybl sydd am fentro i ddringo Kilimanjaro, mynydd uchaf Affrica, er mwyn codi arian i Childreach International.

Dangosodd gyflwyniad diddorol iawn i'r plant am y daith y bydd Celyn yn ei chyflawni fis Awst eleni.

Bydd y Cyngor Ysgol yn cynnal gweithgaredd codi arian maes o law, er mwyn noddi Celyn. Pob hwyl iddi.

 

TWRNAMENT TAL-Y-BONT

Bu nifer helaeth o ddisgyblion yr ysgol yn cystadlu mewn twrnament pêl-droed yn Nhalybont dros y penwythnos.

Cafwyd llwyddiant ymhith y gwahanol oedrannau, gydag un tîm yn llwyddo i ennill yn eu categori hwy.

Yn y llun gweler criw o'r bechgyn ieuengaf i gystadlu, sef bechgyn blwyddyn 2, gyda'u medalau wedi iddynt ddod yn ail ac yn drydydd gyda'u gwahanol dîmau.

Da iawn i bawb a fu'n cystadlu.

 

LLWYDDIANT MEWN NOFIO

Braf oedd clywed am gampau nofio'r ddau yma yn ein gwasanaeth y bore yma.

Mae Lisa (ynghyd â nifer helaeth o ddigyblion eraill yr ysgol) wedi llwyddo mewn prawf ar gyfer achub bywyd yn y môr. Diolch i ti Lisa am ddod i rannu'r wybodaeth gyda ni.

Mae tystysgrifau Dion yn dangos iddo nofio 1,000 o fetrau, yn ogystal â milltir gyfan. Tipyn o gamp!

Diolch i chi'ch dau am rannu'ch llwyddiant gyda ni.

 

LLWYDDIANT YN MABOLGAMPAU DYFED

Llongyfarchiadau mawr i bawb a deithiodd i lawr i Gaerfyrddin ar gyfer Mabolgampau Dyfed eleni. Llwyddodd tîm yr ysgol i ddod yn ail mewn cystadleuaeth a oedd yn cynnwys tua hanner cant o ysgolion cynradd.

Ymhlith y disgyblion a ddaeth i'r brig yn eu cystadlaethau oedd:
1af - Ras Gyfnewid y Merched
2il - Lisa Cowdy - 100m
4ydd - Gwenllian Thomas - Clwydi
4ydd - Caitlin Davies - Taflu Pwysau
4ydd - Ras Gyfnewid y Bechgyn
5ed - Rhodri Thomas - Naid Hir

 

BLWYDDYN 4 YN BENCAMPWYR CRICED 50/50 CEREDIGION

Llongyfarchiadau i dîm Criced 50/50 Blwyddyn 4 ar eu camp wrth ennill y gystadleuaeth eleni.

Er mwyn cyflawni'r gamp, bu'n rhaid iddynt ennill y dair gêm yn eu grwp, a llwyddwyd i wneud hynny gyda sgoriau o 91-65, 88-82 a 97-81.

Yn y gêm derfynol, llwyddwyd i ennill o 112 rhediad i 82.

Bydd y tîm yn mynd ymlaen i gystadlu'n genedlaethol yng Nghastell Caerdydd ar y 3ydd o Orffennaf.

 

CYSTADLEUAETH LLYFRAU 2013

Yn dilyn eu llwyddiant yn y rownd sirol, aeth criw o blant i gystadlu yn y rownd genedlaethol yng Nghystadleuaeth Llyfrau y Cyngor Llyfrau eleni.

Er na lwyddodd y plant i gipio'r prif wobrau, gwnaethant berfformio'u cyflwyniad a thrafod y llyfr o'u dewis yn arbennig o dda.

Un o uchafbwyntiau'r dydd oedd y sesiwn ddifyr dan arweiniad Bardd Plant Cymru newydd - Aneirin Karadog. Cafodd y plant lawer o hwyl yn ei gwmni, ac edrychwn ymlaen i'w groesawu i'r ysgol yn y dyfodol agos.

 

LLWYDDIANT GÊM 24 YN PARHAU

Llongyfarchiadau mawr i bedwar disgybl o flwyddyn 6 ar lwyddo i barhau gyda'u llwyddiant yn y gystadleuaeth Gêm 24.

Ar ôl ennill yn y rownd gyntaf yn erbyn ysgolion Cylch Aberystwyth, llwyddodd Eleanor, Dylan, Peredur a Lisa i gipio'r wobr gyntaf yn Rownd Ceredigion hefyd.

Diolch i Liwsi Harries, Rhian Rees a Mike Carruthers o'r Awdurdod Addysg am drefnu'r gweithgareddau.

 

CYNGERDD HAF 2013



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (127 llun)

Roedd y Neuadd Fawr dan ei sang wrth i holl blant yr ysgol berfformio amrywiaeth o eitemau i'w rhieni, mam-guod a thad-cuod a ffrindiau ar y llwyfan mawr.

Diolch yn arbennig i'r Gymdeithas Rieni ac Athrawon am gynorthwyo gyda'r trefniadau ac i'r holl rieni a theuluoedd am gefnogi'r noson.

Diolch yn fawr hefyd i'r holl noddwyr am eu cefnogaeth ariannol hael.


I weld y casgliad llawn cliciwch yma

 

I archebu llun/iau cysylltwch gyda'r ffotograffydd Anthony Jarrett ar 01970 832726 neu gliciwch yma

 

SIOE ABERYSTWYTH

Llongyfarchiadau i saith o ddisgyblion yr ysgol a gafodd llwyddiant yn Sioe Aberystwyth dros y penwythnos.

Cafodd Arwen gyntaf am baentio dafad ar blât, Catrin Haf ail am wneud cwningen allan o does, a Gethin hefyd yn ail am wneud hwyaden allan o does. Cafodd Summer drydydd am greu cangarw allan o does, Iestyn yn drydydd am greu llygoden allan o does, Ben yn drydydd am baentio blaidd ar blât, a Mia'n drydd am baentio'r enfys.

Da iawn chi i gyd!

 

TAITH BRESWYL I WERSYLL YR URDD GLAN-LLYN



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (670 llun)

Cafodd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 dridiau anhygoel yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn eleni.

Roedd y tywydd yn fendigedig a'r gweithgareddau yn wych fel arfer. Cafodd y disgyblion gyfle i goncro'r wal ddringo, canŵio, cael taith ar y llyn, brwydro'r cwrs rhaffau a'r tŵr uchel, nofio, adeiladu rafft a chyfeiriannu, gan gloi'r cyfan gyda disgo swnllyd iawn!

Diolch i holl staff y gwersyll am eu gwaith gyda'r holl weithgareddau ac i staff yr ysgol am eu gofal o'r plant.

Tridiau i'w cofio yn sicr!

 

LLWYDDIANT I SIONED

Llongyfarchiadau i Sioned o Flwyddyn 6 ar ei llwyddiant arbennig yn ystod wythnos gwyliau'r Sulgwyn eleni.

Cafodd Sioned wythnos brysur iawn rhwng popeth, gan gystadlu mewn Acwathon ym Machynlleth lle y cipiodd y wobr gyntaf, yna'n rhedeg mewn Ras Hwyl yn Aberaeron lle cipiodd yr ail wobr, ac yn olaf bu'n nofio yn Llanelli gan ddod yn drydydd.

Da iawn ti, Sioned.

 
 

 

« Newyddion Mai 2013 / Newyddion Gorffennaf 2013 »