Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 15/Maw

 

Dydd Llun 18/03/24

  • Nyrsys Ysgol yn y Derbyn
  • Sesiwn Aml-Sgiliau i fl.3a4 yn y Brifysgol gyda Ceredigion Actif
  • Noson Rieni 1 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

Dydd Mawrth 19/03/24

  • Noson Rieni 2 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

 

Dydd Mercher 20/03/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan gyda chriw Agor y Llyfr
  • Blwyddyn 3 yn dringo Pen Dinas
  • Dim ymarfer Ymarfer Cân Actol tan ar ôl y Pasg
  • Does dim Clwb yr Urdd yr hanner tymor hwn

 

Dydd Iau 21/03/24

  • Nofio i fl.5 a 3

 

Dydd Gwener 22/03/24

  • Ymarfer Cerddorfa Ysgol 8:45yb
  • Cau ar gyfer gwyliau'r Pasg (bydd y tymor newydd yn cychwyn i blant ar ddydd Mawrth y 9 fed o Ebrill)

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Medi 2011

BLWYDDYN 4 YN YMWELD Â GORSAF BŴER CWM RHEIDOL

 

» Cylch lluniau ymweliad Blwyddyn 4 gyda'r Orsaf Bŵer yng Nghwm Rheidol

 

"Roedd yr Orsaf Bŵer yn ddiddorol iawn. Wnes i fwynhau gweld y pysgod yn arbennig, a'r rhaeadr ddŵr. Roedd yn rhaid inni wisgo siacedi llachar, melyn ac helmed er mwyn bod yn ddiogel. Gwelson ni nifer o wahanol beiriannau a dysgon ni lawer gan y bobl oedd yn gweithio yno."
Sofie, Dosbarth 4E

 

ARAD GOCH YN CYFLWYNO 'AR EICH MARCIAU'

» Croesawyd Ffion Bowen a Chwmni Theatr Arad Goch i'r ysgol i berfformio 'Ar Eich Marciau' i flynyddoedd 5 a 6. Mwynhaodd y plant y perfformiadau yn arw, a diolch i Arad Goch am gynhyrchiad llawn egni a gobaith, ac am rannu negeseuon pwysig unwaith yn rhagor

 

CYMRU YN ERBYN NAMIBIA

 

» Fideo o ddisgyblion, rhieni a staff yr ysgol yn gwylio Gêm Cymru a Namibia yng Nghystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd

 

"Roedd cael dod mewn i'r ysgol yn gynnar i wylio'r gêm yn grêt! Daeth Dad gyda ni hefyd! Ro'n i mor falch gweld Cymru yn chwarae mor dda ac yn sgorio gymaint o geisiau - 12 i gyd! Roedd y tost a sudd oren hanner amser yn flasus hefyd!"
Ioan, Dosbarth 4E

 

ARDDANGOSFA GELF YN Y MORLAN

 

» Cylch lluniau disgyblion yr ysgol yn mwynhau arddangosfa gelf yn y Morlan

 

"Wnes i fwynhau'r arddangosfa, yn enwedig gan fod gwaith Cefyn Burgess yno, oherwydd ry'n ni'n astudio ei waith yn y dosbarth."
Brandon, Dosbarth 6J

 

BLWYDDYN 6 YN AMGUEDDFA WLÂN CYMRU

 

» Cylch lluniau disgyblion Blwyddyn 6 yn ymweld ag Amgueddfa Wlân Cymru yn Nrefach Felindre

 

"Cawsom lawer o hwyl yn yr Amgueddfa Wlân wrth gael cyfle i ffeltio gwlân ein hunain ac wrth gwrs gael ein tywys o gwmpas yr holl beiriannau sydd yno. Roedd ambell i beiriant yn swnllyd iawn, ac un neu ddau yn anferth! Roedd hi'n ddiddorol iawn gweld gyda fy llygaid fy hunan beth oedd yn digwydd yn y ffatrioedd gwlân yma. Trip bendigedig!"
Elinor, Dosbarth 6J

 
 

BLWYDDYN 5 YNG NGHASTELL HENLLYS

 

» Cylch lluniau disgyblion Blwyddyn 5 yn ymweld â'r bryngaer geltaidd, Castell Henllys

 

"Roedd mynd i Gastell Henllys yn brofiad gwahanol iawn! Roedd yn rhaid cerdded dros bont a gweiddi'n ffyrnig er mwyn cael mynediad i'r hen fryngaer geltaidd! Cawsom hwyl wrth bobi bara, plethu basgedi a chynorthwyo i adeiladu tŷ crwn newydd! Er mwyn ein paratoi ar gyfer rhyfela, wnaethon nhw beintio ein hwynebau gyda phaent glas! Roedden ni i gyd yn edrych yn ffyrnig iawn!"
Peredur, Dosbarth 4E

 

YMWELIAD GAN DAFYDD JONES

» Dafydd Jones, cyn chwaraewr rygbi y Scarlets a Chymru yn brysur yn llofnodi ar fuarth yr ysgol!

 

Daeth Dafydd atom i roi gwybodaeth am Wersyll Chwaraeon y Scarlets a fydd yn cael ei gynnal yn ystod wythnos hanner tymor. Clicwch yma am fwy o wybodaeth.

 

CROESAWU MR GERAINT THOMAS I'R GWASANAETH

» Rhai o ddisgyblion yr ysgol gyda Mr Geraint Thomas yn ystod ein gwasanaeth boreol.

 

Rhannodd Mr Thomas wybodaeth am y 'Backpack Project', a byddwn ni fel ysgol yn cyfrannu at y prosiect hwnnw. Cliciwch yma i ddysgu mwy

» Dangosodd Mr Thomas y fideo yma i ni.

Mae'n egluro sut y mae'r prosiect yn gwella bywydau plant ym Malawi.

Cliciwch arno i'w wylio.

 

Mae croeso i ddisgyblion yr ysgol ddod ag eitemau i'r ysgol er mwyn llenwi'r gwarfagiau. Mae'r llun isod yn dangos pa fathau o eitemau sydd eu hangen.

 
 

TAITH BLWYDDYN 3 O GWMPAS Y DREF

» Cylch lluniau y daith o gwmpas y dref.

 

I weld y casgliad fel set cliciwch yma

Ar ddydd Gwener, y 9fed o Fedi, aethon ni ar drip o amgylch y dre’. Dechreuon ni wrth weld cadair Gwenallt a enillodd yn Eisteddfod Bangor 1931. Yna aethon ni drwy’r fynwent a heibio bedd Gwenallt. Yna, pasion ni Swyddfa’r Urdd, ac yna gweld safle’r ysgol gymraeg gyntaf, lle oedd dim ond 7 o blant. Aethon ni nesaf i Lle’r Ffald lle redden nhw yn gofalu am anifeiliaid strae. Yna i Stryd y Poplys a cwrdd â Mr a Mrs Morgan, a rhoddon nhw fisgedi a sgwash i ni! (mmm…) Yn Rhes y Poplys roedd arfer bod coed a nant yn rhedeg trwyddo. Wedyn aethon ni at Stryd y Crwynwr a dwedodd Mr Morgan (y gofalwr) ychydig o’i hanes, roedd arfer bod ffwrn wal yno. Yna, aethon ni heibio i Morris and Bates, roedd Morris and Bates yn arfer bod yn ffatri haearn. Wedyn aethon ni heibio’r hen Ysgol Gymraeg (roedd Mami’n mynd yna). Aethon ni heibio Banc y Ddafad Ddu (y banc cyntaf yng Nghymru yn ôl y sôn.) Yna aethon ni i’r parc (hwre!), yna lan i’r castell. Mae 13 carreg ac enwau’r siroedd arnynt. Yna roedd pawb wedi cael llun o dan yr angel heddwch i gofio pawb sydd wedi marw yn y rhyfel.
Soffia, Dosbarth 3M

Newyddion Hydref 2011 »