Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 15/Maw

 

Dydd Llun 18/03/24

  • Nyrsys Ysgol yn y Derbyn
  • Sesiwn Aml-Sgiliau i fl.3a4 yn y Brifysgol gyda Ceredigion Actif
  • Noson Rieni 1 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

Dydd Mawrth 19/03/24

  • Noson Rieni 2 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

 

Dydd Mercher 20/03/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan gyda chriw Agor y Llyfr
  • Blwyddyn 3 yn dringo Pen Dinas
  • Dim ymarfer Ymarfer Cân Actol tan ar ôl y Pasg
  • Does dim Clwb yr Urdd yr hanner tymor hwn

 

Dydd Iau 21/03/24

  • Nofio i fl.5 a 3

 

Dydd Gwener 22/03/24

  • Ymarfer Cerddorfa Ysgol 8:45yb
  • Cau ar gyfer gwyliau'r Pasg (bydd y tymor newydd yn cychwyn i blant ar ddydd Mawrth y 9 fed o Ebrill)

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Mai 2013

EISTEDDFOD YR URDD SIR BENFRO 2013



Llongyfarchiadau mawr i'r Grŵp Dawns Cyfansoddiad Creadigol ar eu camp eleni wrth gipio'r wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Benfro.

Rhaid canmol ymdrechion yr holl ddisgyblion a deithiodd i Foncath yn ogystal - aelodau'r Côr, Cerddorfa, Grŵp Dawns Creadigol, Ensemble Offerynnol a'r cystadleuwyr unigol - er na lwyddant i gyrraedd y llwyfan roedd eu perfformiadau o safon uchel ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt, yn ogystal â phawb a fu'n brysur yn eu hyfforddi a'u paratoi, am eu gwaith caled yn ystod yr wythnosau diwethaf.

 

YMWELWYR COMENIUS O EWROP YN YR YSGOL



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (50 llun)

Yr wythnos hon mae athrawon o Ewrop yn ymweld ag Aberystwyth fel rhan o gynllun Comenius.

A'r bore ma, croesawyd hwy i'r Ysgol Gymraeg i ddathlu mewn gwasanaeth arbennig a drefnwyd i alminellu pwysigrwydd y prosiect a'n cyfeillgarwch.

Mae'r Ysgol Gymraeg yn rhan o brosiect Comenius ar y cyd a'u hysgolion bartner sef ysgolion o Ddenmarc, Y Ffindir, Twrci, Gweriniaeth Iwerddon, Yr Eidal ac Ysgol Llwyn-yr-Eos.

Braf oedd eu croesawu i'r ysgol, lle cafodd ein hymwelwyr gyfle i grwydro'r dosbarthiadau yn ystod gwersi i gael blas o'n arferion dysgu ac addysgu yma yng Nghymru.

 

ENILLWYR CWIS LLYFRAU CEREDIGION

Cafodd criw o ddisgyblion blwyddyn 6 yr ysgol hwyl wrth gystadlu yng nghystadleuaeth y Cwis Llyfrau.

Yn ystod rownd Ceredigion, roedd yn rhaid iddynt drafod llyfr (dewiswyd Coed Du), a gwneud cyflwyniad am lyfr gwahanol (dewiswyd Cyfrinachau) Llongyfarchiadau mawr i'r naw am ennill y gystadleuaeth i flynyddoedd 5a6. Byddant bellach yn cystadlu yn y rownd genedlaethol a gynhelir ar yr 21ain 0 Fehefin.

Pob hwyl iddynt.

 

BEICWYR PROFFESIYNOL 'TEAM UK YOUTH' YN DOD I'R YSGOL

Daeth Team Uk Youth a fydd yn cystadlu yn yr Ŵyl Feicio yn Aberystwyth dros y penwythnos i'r ysgol ar gyfer sesiwn holi ac ateb.

Fel y gwelwch yn y llun, daethant â beic gyda nhw i ni gael gweld - beic arbennig sydd gwerth £10,000! Waw!

Team Uk Youth yw'r tîm sydd ar y blaen yn y gyfres ar hyn o bryd.

Edrychwch mâs amdanyn nhw fory pan fyddant yn rasio ar y trac o gwmpas tref Aberystwyth.

 

GWOBRAU GWYDDONIAETH

Llongyfarchiadau i bedwar disgybl o'r ysgol a fu'n llwyddiannus mewn cystadleuaeth Wyddoniaeth a gynhaliwyd yn ystod yr Wyl Wyddoniaeth yn y Brifysgol yn ddiweddar.

Rhannodd Ioan, Esyllt, Sara a Dylan un o brif wobrau'r digwyddiad wrth ateb cwestiynau'n gywir ar y diwrnod.

Llongyfarchiadau chi'ch pedwar.

 

DIWRNOD ELFED YM MLWYDDYN 2




Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (18 llun)

Yn ystod y tymor rydym wedi bod yn gwneud nifer o weithgareddau yn seiliedig ar stori 'Elfed'. Fel uchafbwynt i'r gweithgareddau hyn, cawsom barti i ddathlu 'Diwrnod Elfed'. Buom yn brysur yn paratoi ar gyfer y parti. Buom yn creu posteri, gwahoddiadau a chardiau deniadol ar y cyfrifiadur. Buom yn creu hetiau parti lliwgar. Gwnaethom hydoddi jeli a mesur dwr yn ofalus gan wneud yn siwr ein bod yn rhannu'r jeli yn gyfartal. Gwnaethom frechdanau ham, jam a chaws a buom yn addurno cacennau bach Mrs Atkinson. Roedden nhw'n flasus iawn! Cawsom bicnic tu allan i gaffi Elfed a buom yn dawnsio a chael hwyl a sbri. Cawsom ddiwrnod wrth ein bodd!
Disgyblion Blwyddyn 2

 

CROESAWU SEREN RYGBI MENYWOD CYMRU I'R YSGOL

Braint oedd croesawu Sioned Harries, chwaraewraig Rygbi Menywod Cymru atom i siarad am ei phrofiad a’i gyrfa rygbi. Diddorol iawn oedd clywed ei bod arfer chwarae pan yn ifanc yn nhîm y bechgyn gan nad oedd tîm merched i’w gael. Mae Sioned wedi ennill 19 o gapiau yn chwarae dros Gymru a braf oedd ei chlywed yn ysbrydoli’r plant i weithio’n galed i fedru gwireddu eu breuddwydion.

Bûm yn ffodus iawn hefyd i gael Sioned i hyfforddi sgiliau i’r bechgyn a’r merched yng nghlwb yr Urdd. Diolch yn fawr iti, Sioned.

 

GWEITHDY GWRTH-FWLIO

Cafodd disgyblion blwyddyn 6 fore diddorol a buddiol iawn yng nghwmni Chris ac Amy wrth iddyn nhw drafod hiliaeth.

Dysgodd y plant llawer am hiliaeth, gan wybod bellach beth sy'n dderbyniol ac yn annerbyniol wrth drafod hil, cenedl, crefydd a lliw croen.

Llongyfarchiadau i Sara, Esyllt, Dylan a Jack am ennill y bandiau braich mewn cwis. A chofiwch - 'Dangoswch y garden goch i hiliaeth'.

 

TAITH GERDDED Y GYMDEITHAS RIENI AC ATHRAWON



Cliciwch yma i wylio'r fideo
Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (101 llun)

Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi'r daith gerdded eleni. Braf oedd gweld cynifer o gerddwyr - yn ddisgyblion, rhieni, perthnasau, staff a chyn-ddisgyblion yr ysgol yn mwynhau'r tywydd braf a chael wâc hamddenol ar hyd y llwybrau gwahanol: ar hyd rhodfa Plascrug ar gyfer y plant bach; a draw i'r cae criced ac yn ôl i'r plant hŷn.

Diolch yn arbennig hefyd i gwmni Tŷ Nant am noddi'r noson, ac am gyfrannu cannoedd o boteli o ddŵr i bawb gael dorri'u syched ar y noson.

 

PENCAMPWYR TRAWSGWLAD CENEDLAETHOL YR URDD

Llongyfarchiadau i redwyr traws gwlad yr ysgol a lwyddodd i gipio Pencampwriaeth Traws Gwlad Cenedlaethol yr Urdd ar gaeau Blaendolau yn ddiweddar.

Cyflwynwyd tarian Clwb Athletau Aberystwyth iddynt, gyda'r ysgol yn ennill y nifer uchaf o bwyntiau ym mhob ras.

 

BLWYDDYN 6 YN YR ARDD FOTANEG GENEDLAETHOL

Er mwyn cefnogi'r gwaith a wneir yn y dosbarth ar gyfer Daearyddiaeth y tymor hwn, aeth blwyddyn 6 ar ymweliad i'r Gerddi Botaneg Cenedlaethol ger Llanarthne. Pwrpas y daith oedd er mwyn dysgu a gweld enghraifft o sut i fyw yn wyrdd, gan fod yr ardd yn gynaladwy iawn. Mae'n casglu'r dwr glaw i gyd, yn tyfu helyg ei hun ar gyfer bwydo boiler biomass ei hun ac yn trin gwastraff ar y safle ayyb. Diolch yn fawr i Angela am ein tywys o gwmpas yr ardd, ac am ei holl ffeithiau a gwybodaeth ddiddorol.

 

MELLT YW PENCAMPWYR CYSTADLEUAETH Y CWPAN HOCI

Llongyfarchiadau mawr i un o dîmau hoci'r ysgol, Mellt, ar eu camp anhygoel unwaith eto.

Ychydig dros fis yn ôl enillodd Mellt y gynghrair, a nawr maent wedi ennill y Cwpan hefyd. Y tro diwethaf i dîm o'r ysgol ennill y gynghrair a'r cwpan yn yr un flwyddyn oedd pymtheg mlynedd yn ôl!

Llongyfarchiadau mawr i Mellt a thîmau eraill yr ysgol am gystadlu mor frwdfrydig yn ystod y tymor hoci, a diolch hefyd i'r holl staff sydd wedi bod yn hyfforddi a chefnogi'r tîmau yn ystod y tymor.

 

Y SÊR YN CYRRAEDD Y ROWND DERFYNOL

Llongyfarchiadau i dîm hoci’r Sêr am gyrraedd rownd derfynol y cwpan ar nos Wener y 10fed o Fai.

Mewn gêm agos iawn, bu’r tîm yn anffodus o golli o un gôl yn y rownd derfynol, ar ôl cyrraedd trwy guro tîmau arbennig o dda a chystadleuol yn y rowndiau cyn-derfynol.

Da iawn chi, Sêr.

 

 

EISTEDDFOD YR URDD 2013 : BLWYDDYN 3 YN ENNILL YR ARTEFFACT

Llongyfarchiadau i ddigyblion Blwyddyn 3 ar lwyddo i ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni gyda'i arteffact 3D.

Ar ôl ennill yn rhanbarthol, aeth yr arteffact ymlaen i gystadlu yn erbyn gweddill Cymru gan gipio'r wobr gyntaf dan y thema 'Patryma'r Amgylchfyd'.

Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i flwyddyn 3 ennill y gystadleuaeth hon.

Da iawn chi, blant.

 

EISTEDDFOD YR URDD 2013 : GWENLLIAN YN DRYDYDD AM FARDDONIAETH

Llongyfarchiadau i Gwenllian o flwyddyn 6 ar lwyddo i ennill y drydedd wobr yng nghystadleuaeth ysgrifennu barddoniaeth i flynyddoedd 5 a 6 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Benfro eleni.

Testun y gerdd oedd 'Gofod' ac efallai i chi gofio Gwenllian yn ennill Cadair Eisteddfod yr Ysgol nôl ym mis Chwefror eleni gyda'r un gerdd.

Da iawn ti, Gwenllian. Gobeithio wnei di ennill sawl cadair arall eto'n y dyfodol.

 

EISTEDDFOD YR URDD 2013 : STEFFAN YN AIL AM RYDDIAITH

Llongyfarchiadau mawr i Steffan o flwyddyn 2 ar ei gamp arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Benfro eleni.

Llwyddodd Steffan i ennill yr ail wobr yn y gystadleuaeth Rhyddiaith i flwyddyn 2 ac iau. Ysgrifennodd Steffan stori am 'Yr Allwedd Hud'. Roedd allwedd hud Steffan yn mynd ag ef i ras geir.

Da iawn ti, Steffan, a gobeithio wnei di barhau i gystadlu'n y dyfodol.

 

BLWYDDYN 5 GYDA'R ARLUNYDD JAC JONES

Bu plant blwyddyn 5 yn ddigon ffodus i fynychu gweithdy gyda’r arlunydd llyfrau talentog Jac Jones yn y Llyfrgell Genedlaethol yr wythnos hon.  Cawsom hwyl yn cael cipolwg trwy ei waith, gan glywed yr hanesion difyr y tu ôl i’w luniau difyr.  Tybed os fydd rhywun o’n blwyddyn ni yn arlunydd enwog fel Jac Jones rhyw ddiwrnod?

 

ANFON A DERBYN CARDIAU 'DIWRNOD Y PLANT'

Yr wythnos hon, bydd chwech o gardiau arbennig i nodi Diwrnod Cenedlaethol y Plant yn cael eu hanfon at ein hysgolion partner yn Ewrop, fel rhan o waith ein prosiect Comenius ‘The Good Life’. Nodir Diwrnod Cenedlaethol y Plant er mwyn annog dealltwriaeth rhwng plant o bob lliw a llun ac er mwyn hybu lles a hawliau plant ar draws y byd. I nodi dyddiad Diwrnod y Plant yn Nhwrci - un o’n hysgolion partner - ar ddiwedd mis Ebrill, yn ogystal ag un o ddyddiadau swyddogol Diwrnod Cenedlaethol y Plant yn fyd-eang ar Fehefin 1af, bydd pob un o ysgolion y prosiect yn anfon cardiau at ei gilydd yr wythnos hon.

 

CYSTADLEUAETH TRAWS GWLAD YR URDD

Llongyfarchiadau mawr i'r tri yma ar eu llwyddiant yng nghystadleuaeth Traws Gwlad yr Urdd a gynhlaiwyd yn Aberaeron yn ddiweddar.

Llwyddodd Rhys o flwyddyn 4 a Sion o flwyddyn 6 i ennill eu rasys hwy, gyda Lisa o flwyddyn 6 yn drydydd yn ei ras hi.

Da iawn chi redwyr, a da iawn i bawb arall a deithiodd i lawr i Aberaeron i gymryd rhan yn y rasys.

 

BLWYDDYN 6 YN YMWELD Â'R CYNULLIAD CENEDLAETHOL

Cafodd disgyblion Blwyddyn 6 fore arbennig o addysgiadol wrth ymweld ag adeilad y Cynulliad yn Aberystwyth yn ddiweddar.
Rhoddwyd cyflwyniad ar y gwaith y mae Aelodau'r Cynulliad yn ei wneud, gan ganolbwyntio'n arbennig ar y Prif Weinidog ac aelodau'r Cabinet. Rhoddwyd cyfrifoldeb aelodau'r Cabinet i ddisgyblion yr ysgol wrth iddyn nhw benderfynu mewn grwpiau ar flaenoriaethau gwariant y cyllid blynyddol yng Nghymru.

Diolch yn arbennig i Sioned am arwain y sesiwn hynod ddiddorol yma gyda'r disgyblion.

 

SEREN YN 'SEREN' DELEDU!

Dros wyliau'r Pasg eleni bu un o ddisgyblion Blwyddyn 6 yr ysgol yn ffilmio ar set 'Hinterland'.

Cafodd Seren ei dewis oherwydd ei thebygrwydd i un o brif sêr y rhaglen, a bydd yn ymddangos mewn cyfresi o ôl-fflachiadau gan fwynhau picnic ar y traeth yn Aberystwyth.

Gobeithio cefaist hwyl wrth ffilmio, Seren, ac edrychwn ymlaen i dy weld ar y teledu yn ystod y flwyddyn nesaf.

 

BLWYDDYN 3 YN YMWELD Â FFERM CWMWYTHIG



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (76 llun)

Ddydd Gwener diwethaf aeth Blwyddyn 3 i fferm Cwmwythig yng Nghapel Bangor.

Roedd yn ddiwrnod sych a braf a chawsom y cyfle i weld y gwartheg yn cael eu godro yn y parlwr sy’n dal pedwar deg pedwar ar y tro. Buom yn eistedd yn y tractor a gweld y lloi, y tarw a’r moch bach. Uchafbwynt y trip oedd cael cyfle i ddal y ddau gi bach. Diolch yn fawr i Mr a Mrs Evans a’r teulu am y croeso unwaith eto.

 

 

« Newyddion Ebrill 2013 / Newyddion Mehefin 2013 »