Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 15/Maw

 

Dydd Llun 18/03/24

  • Nyrsys Ysgol yn y Derbyn
  • Sesiwn Aml-Sgiliau i fl.3a4 yn y Brifysgol gyda Ceredigion Actif
  • Noson Rieni 1 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

Dydd Mawrth 19/03/24

  • Noson Rieni 2 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

 

Dydd Mercher 20/03/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan gyda chriw Agor y Llyfr
  • Blwyddyn 3 yn dringo Pen Dinas
  • Dim ymarfer Ymarfer Cân Actol tan ar ôl y Pasg
  • Does dim Clwb yr Urdd yr hanner tymor hwn

 

Dydd Iau 21/03/24

  • Nofio i fl.5 a 3

 

Dydd Gwener 22/03/24

  • Ymarfer Cerddorfa Ysgol 8:45yb
  • Cau ar gyfer gwyliau'r Pasg (bydd y tymor newydd yn cychwyn i blant ar ddydd Mawrth y 9 fed o Ebrill)

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Medi 2012

DIOLCH I FFIGAR AM NODDI CIT NEWYDD SBON

Heno bydd y gynghrair hoci yn cychwyn ar gaeau astro'r Brifysgol. A diolch i un o fusnesau brodio'r dre, Ffigar, bydd gan un o'r timau git newydd sbon i chwarae ynddo.

Yn y llun gweler Mr Williams y Pennaeth a Mr Gari Appleton o Ffigar gyda thîm hoci 'Mellt'. Eleni mae gan yr ysgol bedwar o dimau fydd yn chwarae'n wythnosol yn y gynghrair. Pob hwyl iddyn nhw i gyd.

 

PENBLWYDD YR YSGOL A DADORCHUDDIO PLAC ARB ENNIG



Newyddion BBC Cymru: Dadorchuddio plac i gofio'r
Ysgol Gymraeg gyntaf

Heddiw, ar y 25ain o Fedi 2012, dathlodd Yr Ysgol Gymraeg ei phen-blwydd yn 73 oed.
Roedd heddiw yn ddiwrnod pwysig am reswm arall hefyd. Dadorchuddiwyd plac ar safle gwreiddiol Yr Ysgol Gymraeg ar Heol Llanbadarn, (hen swyddfa'r Urdd) sydd bellach yn fflatiau moethus. Ar y plac ceir englyn o waith y Prifardd Tudur Dylan Jones:

Mae cyffro'r hen, hen stori - yn parhau,
a'r waliau na weli
yn dal i'n hysbrydoli
yn Aber ein hamser ni.

 

CHWARAEON YN ERBYN YSGOL RHYDYPENNAU

Braf oedd croesawu Ysgol Rhydypennau i'r Ysgol Gymraeg ar gyfer cynnal gêmau pêl-droed a phêl-rwyd. Trefnir cynghrair rhwng ysgolion y cylch gyda'r gêmau'n cael eu cynnal ar brynhawnau dydd Gwener. Tro Rhydypennau oedd i hi i ymweld â'r Ysgol Gymraeg wythnos hon, gyda'r Ysgol Gymraeg yn dychwelyd i Rydypennau yn y Gwanwyn. Chwaraewyd gêmau agos iawn rhwng y ddwy ysgol heddiw, gyda phawb yn mwynhau cystadlu (a mwynhau gwydraid o ddiod oer ar y diwedd!)

 

AGOR 'CASTELL OWAIN GLYNDŴR' YM MLWYDDYN 2!



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (49 llun)

Ddoe, roedd hi'n Ddiwrnod Owain Glyndŵr. A heddiw, dyma ni'n agor castell newydd sbon ym mlwyddyn 2 er cof am yr arweinydd dewr hwnnw. Bydd y castell yn chwarae rhan bwysig yn ardal chwarae tu allan i ardal blwyddyn 2, gyda gofod y tu mewn i'r castell er mwyn gwrando ar straeon am arwyr Cymru! Diolch i Dai a Ceredig am eu gwaith yn adeiladu'r castell, ac i Barclays yn arbennig am y nawdd i dalu am y deunydd i godi'r castell. Diolch yn ogystal i Owen Llew o'r Llyfrgell Genedlaethol am ddod i mewn i'r ysgol i sôn am hanes Owain Glyndŵr wrth ddisgyblion blwyddyn 2.

 

BUDDUGWYR TWRNAMENT PÊL DROED

Llongyfarchiadau i griw o fechgyn blwyddyn 6 a lwyddodd i ennill twrnament pêl-droed ar gyfer rhai dan 11 oed. Cynhaliwyd y twrnament er cof am Gary Pugh ar gaeau Blaendolau dros y penwythnos.
Llwyddodd y 'Penrhyn Celts' i ennill 5 o'u gêmau, chwarae dwy gêm gyfartal a cholli un. Da iawn fechgyn!

 

TAITH ADDYSGIADOL BLWYDDYN 3 O AMGYLCH TREF ABERYSTWYTH



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (50 llun)

Cafodd blwyddyn tri fore hwylus iawn yn teithio o amgylch y dref yn dysgu am hanes a phrif adeiladau Aberystwyth. Diolch yn fawr i Mr a Mrs Morgan am y sgwash a’r bisgedi!

 

TOMI YN LLWYDDO YN Y SIOE FRENHINOL

Llongyfarchiadau mawr i Tomi o flwyddyn 1 am lwyddo i ddod yn drydydd yn y gystadleuaeth gelf i blant cynradd yn Sioe Frenhinol Cymru dros yr haf.

Roedd yn rhaid i Tomi dynnu llun buwch, ac fel y gwelwch, gwnaeth jobyn ardderchog ohoni!
Go lew ti, Tomi!

 

BEICIO I LUNDAIN ER COF AM ANGHARAD



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn o luniau (82 llun)

Dros wyliau'r haf eleni, aeth aelodau o staff yr ysgol, ynghyd â ffrindiau ac aelodau o deulu Angharad ar daith feics o Aberystwyth i Lundain er cof am gyn-ddisgybl, Angharad Mair Williams, a fu farw Tachwedd y llynedd yn dilyn brwydr dewr iawn yn erbyn ei chyflwr EB. Diolch o galon i bawb wnaeth noddi'r daith, gyda'r cyfanswm bellach dros £12,000 - swm fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r ward a oedd yn trin Angharad. Cafodd y beicwyr dridiau pleserus iawn yng nghwmni'i gilydd - edrychwch ar y lluniau i weld y stori yn llawn!

 

 

« Newyddion Gorffennaf 2012 / Newyddion Hydref 2012 »