Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 15/Maw

 

Dydd Llun 18/03/24

  • Nyrsys Ysgol yn y Derbyn
  • Sesiwn Aml-Sgiliau i fl.3a4 yn y Brifysgol gyda Ceredigion Actif
  • Noson Rieni 1 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

Dydd Mawrth 19/03/24

  • Noson Rieni 2 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

 

Dydd Mercher 20/03/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan gyda chriw Agor y Llyfr
  • Blwyddyn 3 yn dringo Pen Dinas
  • Dim ymarfer Ymarfer Cân Actol tan ar ôl y Pasg
  • Does dim Clwb yr Urdd yr hanner tymor hwn

 

Dydd Iau 21/03/24

  • Nofio i fl.5 a 3

 

Dydd Gwener 22/03/24

  • Ymarfer Cerddorfa Ysgol 8:45yb
  • Cau ar gyfer gwyliau'r Pasg (bydd y tymor newydd yn cychwyn i blant ar ddydd Mawrth y 9 fed o Ebrill)

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Tachwedd 2012

CYSTADLEUAETH GYMNASTEG RHANBARTHOL YR URDD

Llongyfarchiadau i'r naw o ferched a aeth i gystadlu yng Nghystadleuaeth Gymnasteg Rhanbarthol yr Urdd.

Cystadlodd y merched yng nghystadleuaeth y triawdau, gyda thriawd Gwenllian, Sofie a Niamh yn dod yn ail, a thriawd Sioned, Lisa a Nicole yn drydydd. Ni lwyddodd y triawd ieuengaf Lucie, Hannah a Lili i ennill medal ond gwnaethant berfformio yn arbennig o dda.

Da iawn chi, ferched, a diolch i'r Urdd am drefnu bore arbennig o gystadlu.

 

CYNLLUN CARDIAU NADOLIG BLWYDDYN 6

 

Am y bumed flwyddyn yn olynol mae'r Cwmni Cardiau Cyfarch wedi bod yn brysur dros ben yn sicrhau fod pob plentyn drwy'r ysgol gyfan yn cynllunio carden ei hun cyn iddynt eu sganio a'u hargraffu ar gardiau trwchus pwrpasol ar gyfer y Nadolig - y gwaith i gyd yn cael ei gwblhau ar gampws yr ysgol.

Gwerthwyd dros 5,000 o gardiau y llynedd, a gobeithiwn y llwyddwn i werthu hyd yn oed yn fwy eleni.

Os hoffech archebu pecyn o gardiau am bris arbennig, cysylltwch â'r ysgol.

 

SGILIAU SYRCAS YNG NGHLWB YR URDD



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (39 llun)

Yn ystod Clwb yr Urdd i flynyddeodd 5 a 6 heno, gwnaethom groesawu Rhydian i'r ysgol gyda gêmau Sgiliau Syrcas gwahanol inni eu mwynhau.

Yn ogystal â gêmau sgiliau syrcas, mwynhaodd y plant chwarae tenis ar y Nintendo Wii a oedd wedi'i osod ar y sgrin enfawr 120" yn y Neuadd newydd. Roedd yn deimlad eithaf rhyfedd i chwarae gêm o denis parau o dan do!

Diolch yn fawr i Rhydian am ddod â gymaint o gêmau amrywiol a gwahanol gydag ef i'r clwb. Gobeithiwn ei wahodd yn ôl yn ystod tymor yr haf.

 

WYTHNOS FATHEMATEG : DYDD GWENER : YR AFAL GYDA'R CYLCHEDD MWYAF

Yr her ar gyfer diwrnod olaf Wythnos Fathemateg oedd i ddod â'r afal gyda'r cylchedd mwyaf i'r ysgol.

Enillydd yr afal mwyaf oedd Efan o flwyddyn 3 a Catrin o flwyddyn 6. Roedd afalau'r ddau yn mesur 33.5cm.

Yn y llun gwelir Efan a Catrin gyda'u afalau anferthol, ynghyd ag enillwyr o ddosbarthiadau eraill yr ysgol.

Da iawn chi, a diolch i bawb am gymryd rhan yn ystod yr wythnos.

 

WYTHNOS FATHEMATEG : DYDD IAU : Y TYWEL GYDA'R ARWYNEBEDD MWYAF

Yr her ar gyfer y pedwerydd diwrnod oedd i ddod â'r tywel gyda'r arwynebedd mwyaf i'r ysgol.

Enillydd y tywel mwyaf heddiw oedd Meilyr o flwyddyn 3. Roedd tywel Meilyr yn mesur 2.74m2!

Yn y llun gwelir Meilyr gyda'i dywel enfawr, ynghyd ag enillwyr o ddosbarthiadau eraill yr ysgol.

Da iawn, bawb. Yr her olaf yfory fydd i ddod â'r afal gyda'r cylchedd mwyaf.

 

WYTHNOS FATHEMATEG : DYDD MERCHER : Y SOSBAN GYDA'R CYFAINT MWYAF

Yr her ar gyfer y trydydd diwrnod oedd i ddod â'r sosban gyda'r cyfaint mwyaf i'r ysgol.

Enillydd y sosban fwyaf heddiw oedd Chelsea o flwyddyn 3 a Seren o flwyddyn 5. Roedd cyfaint sosbenni'r merched yn 32litr!

Yn y llun gwelir Chelsea a Seren gyda'r sosbenni anferthol, ynghyd ag enillwyr o ddosbarthiadau eraill yr ysgol.

Da iawn, bawb. Her yfory: Y tywel gyda'r arwynebedd mwyaf...

 

CROESAWU MISS ELAINE MOORE I'R YSGOL

Fel rhan o weithgareddau'r Wythnos Fathemateg, croesawyd Miss Elaine Moore atom heddiw.

Mae Miss Moore yn Bennaeth Ysgol Ciliau Aeron ac ar hyn o bryd ar secondiad gan ganolbwyntio ar ddatblygu Mathemateg mewn ysgolion.

Cafodd y disgyblion llawer o hwyl gyda mathemateg wrth gylchdroi o un weithgaredd difyr i'r llall.

Diolch yn fawr Miss Moore am eich cwmni a'ch gwaith heddiw.

 

DARGANFOD CLOCH ARP 1939

Rhannodd disgyblion blwyddyn 5 newyddion diddorol iawn gyda ni yn y gwasanaeth y bore 'ma.

Wythnos ddiwethaf daethpwyd o hyd i hen gloch yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, a fu gynt yn Swyddfa'r Urdd yn Aberystwyth.

Mae'n debyg mai cloch a roddwyd i'r Ysgol Gymraeg wreiddiol yw hi yn ystod yr Ail Ryfel Byd er mwyn ei chanu i ddynodi fod unrhyw gyrchau awyr wedi dod i ben, a'i bod yn glir i bawb adael eu cysgodfannau neu eu llochesi'n ddiogel.

 

WYTHNOS FATHEMATEG : DYDD MAWRTH : Y LLYFR TRYMAF

Yr her ar gyfer yr ail ddiwrnod oedd i ddod â'r llyfr trymaf i'r ysgol.

Bydd tasgau gwaith cartef yn cael eu gosod yn ddyddiol yr wythnos hon, gyda ffocws arbennig yn cael ei roi ar rifedd yn ystod y gwersi.

Enillydd y llyfr trymaf heddiw oedd Dylan o flwyddyn 3 a Mali o flwyddyn 5. Roedd llyfr enfawr y brawd a chwaer yn pwyso 10.35kg!

Yn y llun gwelir Dylan a Mali gyda'r llyfr anferth, ynghyd ag enillwyr o ddosbarthiadau eraill yr ysgol.

Da iawn, bawb. Ymlaen at yr her nesaf...

 

WYTHNOS FATHEMATEG : DYDD LLUN : Y FORONEN HIRAF!

Mae'n ddiwrnod cyntaf ein wythnos fathemateg am eleni! A pha ffordd well o ddechrau na chystadleuaeth y foronen hiraf?!

Bydd tasgau gwaith cartef yn cael eu gosod yn ddyddiol, gyda ffocws arbennig yn cael ei roi ar rifedd yn ystod y gwersi.

Enillydd y foronen hiraf heddiw oedd Ellie o flwyddyn 3. Roedd moronen Ellie yn mesur 260mm o hyd! Waw!

Yn y llun gwelir Ellie yn dal y foronen lwyddiannus, ynghyd ag enillwyr o ddosbarthiadau eraill yr ysgol. Da iawn chi i gyd!

 

TYSTYSGRIF GAN CYSTADLEUAETH TLWS PAT NEILL, BARDDAS

Roedd yr ysgol yn falch iawn i dderbyn tystysgrif gan Gylchgrawn Barddoniaeth Gymraeg, Barddas yn dilyn ymdrech y disgyblion i gynnig cerddi i gystadleuaeth Tlws Pat Neill.

Anelir y gystadleuaeth at ddisgyblion ysgolion cynradd, gyda'r seremoni wobrwyo yn digwydd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn.

 

SGORIO YN FFILMIO YN YR YSGOL!

I hyrwyddo diwrnod Hwyl i'r Teulu yng Nghlwb Pêl-droed Aberystwyth ddydd Sadwrn yma, daeth Sgorio i'r ysgol i ffilmio rhai o ddisgyblion yr ysgol yn dylunio crysau-t ar gyfer y chwaraewyr eu gwisgo wrth gynhesu ar gyfer y gêm.

Dyluniwyd dros 100 o grysau gwahanol, ac roedd y disgyblion yn falch iawn o gael cwrdd â mascot y clwb hefyd sef Sami'r Wylan Fôr!

Am fwy o wybodaeth am ddiwrnod Hwyl i'r Teulu, gan gynnwys mynediad am ddim i'r gêm yn erbyn Connah's Quay cliciwch yma

 

MRS PITCHER YN DERBYN SIEC AR RAN ELUSEN HILLCREST

Cawsom gwmni Mrs Pitcher yng Ngwasanaeth yr Ysgol bore 'ma.

Mae'r Pitchers newydd ddychwelyd o Dde Affrica, lle mae'r elusen Hillcrest yn cynorthwyo plant amddifad sy'n byw yno, ynghyd â darparu addysg yn ogystal.

Derbyniodd yr ysgol gyfraniadau drwy gefnogi'r elusen fel rhan o'n Hymgyrch Ddyngarol eleni.

 

DROS £600 AT BLANT MEWN ANGEN



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (97 llun)

Heddiw ar ddiwrnod Plant Mewn Angen daeth pawb i'r ysgol wedi eu gwisgo mewn gwisg ffansi hyfryd! Cyfrannodd bawb £1 am wneud, a tro disgyblion newydd Blwyddyn 6 oedd hi i drefnu gemau a stondinau yn y neuadd ar gyfer gweddill yr ysgol. Cafodd bawb tro i chwarae'r gemau oedd yn amrywio o wyddbwyll i gnau coco, o peintio ewinedd i dwba lwcus! Roedd yno nifer o stondinau cacennau hyfryd hefyd! Diolch i bawb am gael hwyl wrth gyfrannu eu harian poced ar Blant Mewn Angen, gan godi cyfanswm o £615.83. Gwych!

 

YMWELIAD GAN FERCH YR ARLUNYDD JOHN PIPER

Mae Blwyddyn 4 wedi bod yn astudio gwaith yr arlunydd John Piper yn ystod y tymor. Daeth Clarissa Lewis, sef merch John Piper i ymweld â’r plant ym mlwyddyn 4 prynhawn  Gwener, Tachwedd 16eg. Daeth ag enghreifftiau o’i waith i ddangos. Roedd y plant wrth eu boddau yn edrych ar amrywiaeth o waith celf yn cynnwys dau lun gwreiddiol oedd wedi  ymddangos yng Ngaleri’r Tate yn Llundain,  crochenwaith, ffabrig,  ffenestri lliw, gwrthrychau o fyd theatr a’i waith fel arlunydd rhyfel yn ystod yr 2il Ryfel Byd. Rhyfeddodd y plant at y lluniau ohono yn blentyn a’r lluniau oedd wedi creu pan oedd yn bum mlwydd oed. Cawsant gyfle i holi cwestiynau i Clarissa Lewis a chlywed am ei hatgofion o’i thad, yr arlunydd John Piper.

 

ENILLYDD CYSTADLEUAETH LOGO COMENIUS

Llongyfarchiadau mawr i Lisa Cowdy o flwyddyn 6 ar ennill y bleidlais ar gyfer y logo gorau i gynrychioli'r Ysgol Gymraeg yng Nghystadleuaeth Creu Logo prosiect Comenius. Enillodd logo Lisa y nifer fwyaf o bleidleisiau gan ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6, ac roedd yn boblogaidd iawn ymysg yr e-byst gan rieni hefyd.

Llwyddodd Lisa i ennill yn erbyn 85 o logos eraill a bydd hi nawr yn cystadlu yn erbyn ymgeiswyr gorau eraill ein hysgolion bartner yn Nenmarc, Twrci, Iwerddon, Y Ffindir a'r Eidal.

Pob lwc Lisa!

 

I weld y logos sy'n cynrychioli'r gwledydd eraill, ewch i dudalen swyddogol y prosiect yma

 

I weld ein tudalen Comenius
cliciwch yma

 

 

AGORIAD SWYDDOGOL YR ESTYNIAD NEWYDD

Yn ystod y Ffair Lyfrau eleni cafwyd cyfle i agor ein estyniad newydd yn swyddogol gan y Cyfarwyddwr Addysg, Mr Eifion Evans.

Diolch iddo am ei eiriau ac i'r côr am ganu i ddathlu'r digwyddiad.

Yn y llun gweler Mr Clive Williams, Mr Jim O'Rourke, Mr Hag Harries, Mr Eifion Evans a Mr Glyn Williams gyda swyddogion y Cyngor Ysgol, Sara, Robert, Dylan a Gwenllian.

 

FFAIR LYFRAU Y GYMDEITHAS RIENI AC ATHRAWON



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (58 llun)

Cafwyd noson fyrlymus iawn eleni eto wrth i Gymdeithas y Rhieni a'r Athrawon drefnu Ffair Lyfrau arall ar ein cyfer, gyda Siop Inc yn arddangos mwy o lyfrau nag erioed.

Diolch i bawb am gyfrannu ac am gefnogi - braf oedd gweld amrywiaeth o atyniadau - peintio wynebau, gêmau gan ddisgyblion blwyddyn 6, addurno cardiau, gwerthu cacennau, raffl, breichledu lliwgar, disgo a mwy!

Mae'r ysgol yn ddiolchgar iawn i'r GRhA am yr holl waith a wneir ganddynt i godi arian er lles holl blant yr ysgol.

 

GALA NOFIO'R URDD

Llongyfarchiadau i bawb a gystadlodd yng nghystadleuaeth rhanbarthol Gala Nofio'r Urdd eleni.

Canlyniadau (3 uchaf)
Blwyddyn 3 a 4
1af - Rhys Evans - Rhydd
1af - Rhys Evans - Pili Pala
1af - Ras Gyfnewid Rhydd Bechgyn
2il - Alaw Davies - Rhydd
2il - Ras Gyfnewid Cymysg Merched
2il - Ras Gyfnewid Rhydd Merched
3ydd - Alaw Davies - Broga

Blwyddyn 5 a 6

1af - Sioned Wallwork - Broga
1af - Sion Evans - Rhydd
1af - Ras Gyfnewid Rhydd Merched
1af - Ras Gyfnewid Cymysg Merched
2il - Ras Gyfnewid Cymysg Bechgyn
2il - Seren Griffith - Cefn
2il - Aron Parry - Cefn
3ydd - Sioned Wallwork - Cymysg

 

DYSGU AM EIN MILLTIR SGWÂR YN Y LLYFRGELL GENEDLAETHOL



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (29 llun)

Heddiw aeth y ddau ddosbarth Blwyddyn 6 ar ymweliad i'r Llyfrgell Genedlaethol i ddysgu mwy am ein thema 'Y Filltir Sgwâr' y tymor hwn.

Roedd y Llyfrgell yn llawn gwybodaeth diddorol iawn. Cafwyd cyfle i edrych ar hen fapiau o Gymru gan ganolbwyntio ar Aberystwyth yn arbennig, yn ogystal â gweld lluniau o'n Milltir Sgwâr dros y ganrif a hanner ddiwethaf. Roedd y daith o amgylch hefyd yn hwyl, yn enwedig yr holl silffoedd a oedd yn pwyso pum tunnell yr un ac a oedd yn medru symud wrth droi olwyn ag un llaw!

Diolch i Rhodri, Owen a Nia am wneud yr ymweliad mor ddiddorol.

 

TRAWS GWLAD CYLCH ABERYSTWYTH

Aeth dros gant o blant yr ysgol i redeg yn y gystadleuaeth traws gwlad ar gyfer Cylch Aberystwyth a gynhaliwyd ar Gaeau'r Ficerdy.

Roedd yna rasys ar gyfer bechgyn a merched o flynyddoedd 3 i 6, gyda dros 600 o ddisgyblion y cylch yn cystadlu i gyd.

Yn y llun gweler Rhys, Iestyn ac Ellis yn arwain y ras i fechgyn blwyddyn 4.

Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.

 

YMWELWYR O SIAPAN

Braf oedd croesawu disgyblion o Siapan i'r ysgol, wrth iddyn nhw ymweld ag ardal Aberystwyth dros gyfnod o ddeng niwrnod.

Disgyblion o ardal Yosano Town yn Kyoto oedden nhw - disgyblion sy'n dysgu Saesneg fel ail neu drydedd iaith. Cawsant gyfle i grwydro'r ysgol er mwyn gweld sut mae disgyblion yr ysgol yn dysgu, gan edmygu'r plant hŷn am eu gallu i sgwrsio, darllen ac ysgrifennu yn hyderus yn Gymraeg a Saesneg.

 

CYSTADLEUAETH CREU LOGO AR GYFER PROSIECT COMENIUS



Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae disgyblion blynyddoedd 5 a 6 wedi bod yn cynllunio logo newydd ar gyfer ein prosiect Comenius. Mae'r plant eu hunain wedi tynnu rhestr fer o'r logos mwyaf llwyddiannus sy'n cynnwys pedwar logo o bob tŷ - Arthur, Caradog a Dewi.

Ewch i weld y logos ar ein tudalen Comenius ac anfonwch unrhyw sylwadau atom ar e-bost, fel y gallwn ystyried eich hadborth wrth ddewis y logo fydd yn cynrychioli'r Ysgol Gymraeg.

Cliciwch yma i weld y logos

 

STEFFAN YN ENNILL CATEGORI DAN 16OED 'FFOTOMARATHON'



Cliciwch yma i weld ei gasgliad llawn

Llongyfarchiadau mawr i Steffan o flwyddyn 2 ar ennill y gystadleuaeth 'Ffotomarathon' i rai dan 16 oed dros wyliau hanner tymor. Roedd y gystadleuaeth yn rhan o Ffoto Aber

Roedd yn rhaid i Steffan gyflwyno 6 llun, wedi eu tynnu o fewn chwech awr, ar chwe thema gwahanol.

Y chwe thema oedd Cylch(oedd), Y Stryd, Edrych i mewn, Gwyrdd, Unigryw, a Cysgod.

Da iawn ti, Steffan.

 

 

« Newyddion Hydref 2012 / Newyddion Rhagfyr 2012 »