Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 22/Medi

 

Dydd Llun 25/09/23

  • #AryDyddHwn yn 1939 yr agorwyd yr ysgol Gymraeg gyntaf - darllenwch fwy yma

Dydd Mawrth 26/09/23

  • Ffair Iaith yng Nghanolfan Hamdden Plascrug ar gyfer bl.5a6

 

Dydd Mercher 27/09/23

  • Gwasanaeth ysgol gyfan
  • Clwb yr Urdd i fl.2,4a6
    3:30-4:30yp ar gyfer aelodau o'r Urdd (ddim yn aelod? - ymaelodwch yma)
  • COGURDD (rownd yr ysgol) ar gyfer bl.4,5a6 yn neuadd yr ysgol 3:30 - 4:30yp

 

Dydd Iau 28/09/23

  • Nofio i fl.5 bore
    Nofio i fl.3 prynhawn
  • Cwmni Arad Goch 'Ble mae'r dail yn hedfan' yn neuadd yr ysgol ar gyfer y Meithrin a Blwyddyn 1

 

Dydd Gwener 29/09/23

  • Lansio cyfres ddarllen Celt y Ci gyda Rhiannon Salisbury ac Elin Crowley yn y dosbarthiadau Derbyn

 

 

Llyfryn gan Dîm Cefnogi'r Gymraeg

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Rhagfyr 2011

CROESAWU'R AWDURES SIÂN LEWIS I FLWYDDYN 6

» Siân Lewis yn trafod ei llyfr Project Kite gyda disgyblion blwyddyn 6

 

"Yn ystod y tymor rydym wedi bod yn darllen llyfr Siân Lewis Project Kite. Llyfr ydyw am y barcud coch, ac am brosiect y prif gymeriad sef Gary Lloyd. Mae'r llyfr yn un arbennig o dda a gwnaeth pawb ym mlwyddyn 6 fwynhau'r stori yn fawr. Enillodd y llyfr wobr Earthworm yn 1994. Roedd hi'n brofiad arbennig i groesawu Siân Lewis i'r dosbarth a gofyn ein cwestiynau iddi - cyffrous iawn oedd clywed ei hatebion! Diolch yn fawr iddi am gytuno i ddod i siarad gyda ni ar ddiwedd y tymor fel hyn."

Carys, Dosbarth 6J

 

SOFFIA YW SEREN Y MIS CIP!

» Soffia yn dal y copi diweddaraf o gylchgrawn yr Urdd CIP!

 

Llongyfarchiadau mawr i Soffia ar fod yn Seren y Mis yng nghylchgrawn Cip! Danfonodd Soffia lythyr a llun campus i'r cylchgrawn, gan nodi mai ei hoff ran o'r cylchgrawn yw'r gornel jôcs! Y wobr am fod yn Seren y Mis yw Pecyn Mistar Urdd - llond sach o anrhegion cyffrous!

 

Go lew ti Soffia!

 

CYNGERDD NADOLIG 2011

 

» Y Neuadd Fawr dan ei sang eleni eto wrth i blant yr ysgol berfformio sioeau'r Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2


I weld y casgliad llawn cliciwch yma

 

I archebu llun/iau cysylltwch gyda'r ffotograffydd Anthony Jarrett ar 01970 832726 neu gliciwch yma

 

CYNLLUN ENTREPRENEURIAETH Y DOSBARTH DERBYN

» Disgyblion y Derbyn yn dal rhai o'r baubles Nadoligaidd

 

Yn rhan o fenter entrepreneuriaeth yr ysgol mae’r dosbarth Derbyn wedi bod yn brysur yn gwerthu ‘baubles’ Nadoligaidd.  Mae’r ‘baubles’  ar gael mewn lliwiau gwyrdd, coch ac aur  gydag enw'r plant wedi’I addurno arnynt mewn gliter.  Mae’r baubles yn gwerthu’n dda am £2.00 yr un ac mae’r elw yn mynd tuag at brynu adnoddau newydd i’r dosbarth.

 

CWMNI CARDIAU NADOLIG BLWYDDYN 6

» Rhai o ddisgyblion blwyddyn 6 gydag archeb cardiau plant y Cyfnod Sylfaen

 

Eleni eto mae'r Cwmni Cardiau Cyfarch wedi bod yn brysur dros ben yn sicrhau fod pob plentyn drwy'r ysgol gyfan yn cynllunio carden ei hun cyn iddynt eu sganio a'u hargraffu ar gardiau trwchus pwrpasol - y gwaith i gyd yn cael ei gwblhau ar gampws yr ysgol. Hyd yn hyn rydym wedi gwerthu dros 5,000 o gardiau Nadolig i rieni'r ysgol. Rydym hefyd wedi llwyddo i greu cyswllt gyda siop 'Broc Môr' yn y dre sydd yn gwerthu detholiad arbennig o'r cardiau. Os hoffech archebu pecyn o gardiau, cysylltwch â'r ysgol.

« Newyddion Tachwedd 2011 / Newyddion Ionawr 2012 »