Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 15/Maw

 

Dydd Llun 18/03/24

  • Nyrsys Ysgol yn y Derbyn
  • Sesiwn Aml-Sgiliau i fl.3a4 yn y Brifysgol gyda Ceredigion Actif
  • Noson Rieni 1 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

Dydd Mawrth 19/03/24

  • Noson Rieni 2 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

 

Dydd Mercher 20/03/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan gyda chriw Agor y Llyfr
  • Blwyddyn 3 yn dringo Pen Dinas
  • Dim ymarfer Ymarfer Cân Actol tan ar ôl y Pasg
  • Does dim Clwb yr Urdd yr hanner tymor hwn

 

Dydd Iau 21/03/24

  • Nofio i fl.5 a 3

 

Dydd Gwener 22/03/24

  • Ymarfer Cerddorfa Ysgol 8:45yb
  • Cau ar gyfer gwyliau'r Pasg (bydd y tymor newydd yn cychwyn i blant ar ddydd Mawrth y 9 fed o Ebrill)

 

LAWRLWYTHIADAU

Newyddion

Medi 2013

BLWYDDYN 6 YN YMWELD Â BWS ADDYSG GREFYDDOL ‘GSUS’

Ar ddydd Llun Medi’r 23ain cafodd disgyblion Blwyddyn 6 gyfle i ymweld â bws Addysg Grefyddol GSUS draw ar gampws Ysgol Penweddig. Fe gawsant gryn fwynhâd o gwblhau nifer o wahanol weithgareddau rhyngweithiol ar gyfrifiaduron arbennig a oedd wedi’u gosod ar y bws – gan gynnwys gwylio clipiau ffilm, darllen dyfyniadau o’r Beibl, a derbyn ac anfon ebyst dychmygol at blant a phobl ifanc mewn cyfyng-gyngor. Bu’r ymweliad yn gymorth mawr iddynt archwilio a deall themâu megis ofn, maddeuant a dial, ac wrth ddyfnhau eu dealltwriaeth o rai o brif negeseuon y Beibl.                            

 

BLWYDDYN 6 YN YMWELD AG AMGUEDDFA WLAN DREFACH FELINDRE



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (175 llun)

Cafwyd ymweliad diddorol iawn eleni eto wrth i ddisgyblion blwyddyn 6 ymweld ag Amgueddfa Wlân Cymru yn Nrefach Felindre.

Gyda chymorth y peiriannau a'n tywysydd,, gwelwyd sut y mae gwlân yn troi o fod ar gefn y ddafad i fod yn ddilledyn y gallwn ei wisgo.

Cafodd pawb gyfle hefyd i arbrofi gyda gwlân, gan greu darn o ffelt a'i addurno gyda gwahanol liwiau a phatrymau - diolch i Joanna am arwain y sesiwn honno gyda phawb.

Yr hwyl mwyaf wrth gwrs oedd cael gwisgo gwahanol gotiau a siolau - roedden ni'n edrych yn cŵl iawn!

 

Y DERBYN AR FFERM CWMWYTHIG!

Ar fore dydd Iau, 26ain o Fedi aeth y dosbarth Derbyn mewn bws i fyny i ymweld â fferm Cwmwythig, ger Capel Bangor.

Cawsom groeso cynnes iawn gan y teulu Evans a buom yn lwcus iawn o gael ein tywys o amgylch eu fferm brysur. Gwelsom y gwartheg yn cael eu godro yn y parlwr cylchdroi a beth yn union fyddai taith y llaeth o’r fferm i’r siop. Roedd y plant wrth eu bodd yn gweld y lloi bach, yr ieir, y teirw a’r afr ‘Nel’ sy’n serennu yn ‘Hafod Haul’ (Rhaglen Cyw). Cafodd y plant ddiod a bisged ar ôl bore cyffrous!!

 

DISGYBLION YR YSGOL YN CYFLWYNO GÊM BÊL-DROED TREF ABERYSTWYTH



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (45 llun)

Diolch i Thomas Crocket am wahodd disgyblion yr Ysgol Gymraeg i gyflwyno'r gêm rhwng Tref Aberystwyth a GAP Cei Connah ar Goedlan y Parc ddydd Sadwrn.

Cafwyd croeso arbennig a chyfle i gael taith o gwmpas y stadiwm yn cynnwys yr ystafelloedd newid cyn cael cyfle i chwarae gêm gyfeillgar yn ystod hanner amser.

Derbyniodd pob plentyn becyn o adnoddau i fynd adref gyda nhw.

 

PENCAMPWYR CWPAN GOFFA GARY PUGH

Llongyfarchiadau i dri o fechgyn yr ysgol am fod yn aelodau o dîm buddugol Cwpan Goffa Gary Pugh yn ddiweddar.

Mae Ynyr, Gwion ac Efan yn ddisgyblion blwyddyn 4 ac yn aelodau o dîm Teigrod Talybont, ynghyd â chwaraewyr o ysgolion eraill y cylch.

Da iawn chi, fechgyn, ar eich llwyddiant.

 

BLWYDDYN 5 YNG NGHASTELL HENLLYS



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (189 llun)

Dydd Gwener, Medi’r 20fed aeth llond bws o blant blwyddyn 5 ar daith i Gastell Henllys.

Cawsom ein croesawu gan un o’r Celtiaid sef Cai. Trwy ryfedd wyrth aethom yn ôl i Oes y Celtiaid, lle roedd na ddim tai bach! Cafwyd cyfle yn ystod y dydd i weld a chael blas ar fywyd y Celtiaid wrth i’r plant adeiladu wal, coginio bara a gwehyddu basged. Ar ôl paentio wynebau roedd y plant yn barod i ymosod ar y gelyn.

Cafodd y plant amser bendigedig!

 

BLWYDDYN 3 AR DAITH O AMGYLCH Y DREF



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (29 llun)

Ar ddydd Gwener, y 6ed o Fedi, aethom ni ar drip o amgylch y dre. Dechreuon ni wrth edrych ar gadair Gwenallt o Eisteddfod Bangor 193, yna aethon ni drwy’r fynwent a heibio i fedd Gwenallt. Nesaf,  gweld safle’r ysgol gymraeg gyntaf, lle’r  oedd dim ond 7 o blant. Aethon ni nesaf i Le’r Ffald lle roedden nhw yn gofalu am anifeiliaid strae. Yna i Stryd y Poplys a cHwrdd â Mr a Mrs Morgan, a chael bisgedi a sgwash gyda nhw. Yn Rhes y Poplys roedd arfer bod coed a nant yn rhedeg trwyddo. Wedyn aethon ni at Stryd y Crwynwr a dywedodd Mr Morgan (y gofalwr) ychydig o’i hanes, roedd arfer bod ffwrn wal yno. Yna, aethon ni heibio i Morris and Bates, roedd Morris and Bates yn arfer bod yn ffatri haearn.  Aethon ni nesaf  heibio’r hen Ysgol Gymraeg. Aethon ni heibio Banc y Ddafad Ddu ar Stryd y Bont. Yna aethon ni i’r parc ac i fyny  i’r castell.

 

DATHLU DIWRNOD OWAIN GLYNDŴR

Disgyblion Blwyddyn 2 yn dathlu Diwrnod Owain Glyndŵr yn y castell arbennig a adeiladwyd y llynedd.
Nagyn nhw'n edrych yn smart?!

 

NEIDR YN Y DERBYN!

Cafwyd ymwelydd go wahanol i' arfer i ddosbarthiadau'r Derbyn heddiw.
Neidr!
Ond O! am neidr hyfryd.
Cafodd y disgyblion hwyl wrth ddysgu am y neidr, gydag ambell i un yn rhoi cynnig ar ei fwytho yn ogystal wrth i'r neidr lithro ar hyd y neuadd.

 

GWOBR RYNGWLADOL

Cawsom wybod ar ddechrau’r tymor newydd i’r Ysgol Gymraeg fod yn llwyddiannus yn ein cais diweddar am Wobr Ganolradd Ysgolion Rhyngwladol y Cyngor Prydeinig. Dyfernir y wobr i ysgolion sy’n gwneud ymdrech arbennig i ymgorffori agweddau rhyngwladol yn eu cwricwlwm ac ym mhrofiadau allgyrsiol disgyblion. Roedd ein cais ni am y wobr yn ffocysu’n bennaf ar weithgareddau ein prosiect Comenius - The Good Life - ar y cyd â chwe ysgol Ewropeaidd arall, yn ogystal â gweithgarwch ein Diwrnod Rhyngwladol blynyddol. Y cam nesaf fydd ceisio am y Wobr Ysgolion Rhyngwladol Lawn yn ystod blwyddyn addysgol 2013/14.

 

 

« Newyddion Gorffennaf / Newyddion Hydref »