Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 15/Maw

 

Dydd Llun 18/03/24

  • Nyrsys Ysgol yn y Derbyn
  • Sesiwn Aml-Sgiliau i fl.3a4 yn y Brifysgol gyda Ceredigion Actif
  • Noson Rieni 1 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

Dydd Mawrth 19/03/24

  • Noson Rieni 2 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

 

Dydd Mercher 20/03/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan gyda chriw Agor y Llyfr
  • Blwyddyn 3 yn dringo Pen Dinas
  • Dim ymarfer Ymarfer Cân Actol tan ar ôl y Pasg
  • Does dim Clwb yr Urdd yr hanner tymor hwn

 

Dydd Iau 21/03/24

  • Nofio i fl.5 a 3

 

Dydd Gwener 22/03/24

  • Ymarfer Cerddorfa Ysgol 8:45yb
  • Cau ar gyfer gwyliau'r Pasg (bydd y tymor newydd yn cychwyn i blant ar ddydd Mawrth y 9 fed o Ebrill)

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Ionawr 2013

RHYS YN ENNILL CYSTADLEUAETH COGURDD 2013



I wylio'r fideo cliciwch uchod,
neu gliciwch yma i weld y lluniau (110 llun)  

Cafwyd cystadleuaeth wych eleni wrth i 25 o ddisgyblion blynyddoedd 4,5a6 gymryd rhan yng nghystadleuaeth goginio'r Urdd : Cogurdd!

Dyma'r tro cyntaf i'r ysgol gystadlu a chafwyd llawer o hwyl wrth i'r disgyblion geisio goginio 'Pasta Machlud Haul' er mwyn dewis enillydd i fynd ymlaen i'r rownd nesaf yn erbyn goreuon ysgolion Ceredigion.

Diolch i Dilys o fwyty 'Gannets' yn y dref am ddod i feirniadu, gan ddewis enillydd teilwng iawn - Rhys o flwyddyn 6. Pob hwyl iddo ef yn y rownd nesaf.

 

PROSIECT COMENIUS : STAFF YR YSGOL YN YMWELD Â'R FFINDIR

Yr wythnos hon mae tri o aelodau staff yr ysgol yn ymweld ag ysgolion yn Y Ffindir fel rhan o waith Prosiect Comenius.

Yn y llun gwelir criw o ddisgyblion Blwyddyn 3 yn dangos y cardiau 'Blwyddyn Newydd Dda' a luniwyd ar gyfer disgyblion ysgol Martinniemen Koulu.

Hyd yma mae disgyblion yr ysgol wedi cael cyfleoedd i gyfathrebu gyda'n hysgolion bartner trwy fideo gynadledda a llythyru. Rwy'n siwr y bydd y disgyblion yn Y Ffindir wrth eu boddau yn derbyn y cardiau yma hefyd!

 

GALA NOFIO GENEDLAETHOL YR URDD YNG NGHAERDYDD


Da iawn chi blant a deithiodd yr holl ffordd i lawr i Gaerdydd ar gyfer Gala Nofio Genedlaethol yr Urdd ddydd Sadwrn.

Gwnaeth bob un o'r wyth disgybl gystadlu yn arbennig o dda, gan lwyddo i ennill y canlyniadau canlynol:

4ydd - Rhys Evans - Rhydd

4ydd - Cyfnewid Cymysg Merched 5&6

5ed - Cyfnewid Rhydd Bechgyn 3&4

 

DARLITH GEMEG YM MHRIFYSGOL ABERYSTWYTH

Ar fore ddydd Iau, y 24ain o Ionawr aeth Blwyddyn 6 i'r Brifysgol ar gyfer y ddarlith gemeg flynyddol. Thema'r ddarlith oedd egni a sut y gellir newid egni o un ffurf i un arall er na ellir ei greu na'i ddinistrio. Cafwyd nifer o arbrofion cyffrous gyda rhai disgyblion o bob ysgol yn cael cyfle i gymeryd rhan.

Dyma rai disgyblion yn cael cyfle i gymysgu cemegion er mwyn gweld egni cemegol yn newid i egni golau. Gwnaeth bawb fwynhau bore diddorol o arbrofion yng nghwmni gwyddonwyr profiadol.

 

BUDDUGWYR CYSTADLEUAETH PÊL-RWYD CYLCH ABERYSTWYTH

Llongyfarchiadau i dîm Pêl-rwyd yr ysgol ar ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth Pêl-rwyd Cylch Aberystwyth a drefnwyd gan yr Urdd.

Byddant yn awr yn mynd ymlaen i'r gystadleuaeth nesaf - Ceredigion.

Pob hwyl i chi yn y rownd nesaf.

 

Y FRIGÂD DÂN YN YMWELD Â'R DOSBARTHIADAU DERBYN

Thema'r tymor ar gyfer y Dosbarthiadau Derbyn y tymor hwn yw 'Pobl a'u gwaith' ac felly bore ma daeth y Frigâd Dân i'r ysgol er mwyn dangos i ddisgyblion y Derbyn beth mae dynion tân yn ei wneud wrth eu gwaith bob dydd.

Dangosodd y Dyn Tân y gwahanol offer mae'r lori yn cario, gan egluro eu defnydd hefyd. Dangosodd y bibell ddŵr enfawr maen nhw'n ei defnyddio er mwyn diffodd tân. Roedd yn wych!

Diolch i'r holl ddynion tân am ddod atom ni y bore ma.

 

GWEITHDY GYDA MYFYRWYR DRAMA Y BRIFYSGOL

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae myfyrwyr o Adran Ddrama Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn ymweld â'r ysgol er mwyn cynnal gweithdai gyda disgyblion Blwyddyn 4.

"Yn ystod y gweithdy heddiw bu pawb yn brysur yn gweithio mewn grwpiau er mwyn adeiladu gwahanol siapiau gyda bocsys mawr cardfwrdd. Roedd yn llawer o hwyl."
Llŷr, Dosbarth 4E

 

ADDUNEDAU'R FLWYDDYN NEWYDD

Diolch i aelodau o flwyddyn 6 am rannu eu haddunedau blwyddyn newydd gyda ni yng ngwasanaeth cynta'r flwyddyn.

Rhai o'r addunedau a rannwyd oedd i gadw ystafell wely yn lân, chwarae llai ar y cyfrifiadur, mynd i'r gwely'n gynt yn y nos a chodi'n gynt yn y bore; bwyta llai o losin a mwy o ffrwythau; chwarae tu allan yn yr awyr agored fwy ynlle gwylio'r teledu, helpu rhieni o gwmpas y tŷ.

Gobeithiwn y llwyddant i gadw at eu haddunedau drwy gydol y flwyddyn!

 

 

« Newyddion Rhagfyr 2012 / Newyddion Chwefror 2013 »