Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 15/Maw

 

Dydd Llun 18/03/24

  • Nyrsys Ysgol yn y Derbyn
  • Sesiwn Aml-Sgiliau i fl.3a4 yn y Brifysgol gyda Ceredigion Actif
  • Noson Rieni 1 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

Dydd Mawrth 19/03/24

  • Noson Rieni 2 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

 

Dydd Mercher 20/03/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan gyda chriw Agor y Llyfr
  • Blwyddyn 3 yn dringo Pen Dinas
  • Dim ymarfer Ymarfer Cân Actol tan ar ôl y Pasg
  • Does dim Clwb yr Urdd yr hanner tymor hwn

 

Dydd Iau 21/03/24

  • Nofio i fl.5 a 3

 

Dydd Gwener 22/03/24

  • Ymarfer Cerddorfa Ysgol 8:45yb
  • Cau ar gyfer gwyliau'r Pasg (bydd y tymor newydd yn cychwyn i blant ar ddydd Mawrth y 9 fed o Ebrill)

 

LAWRLWYTHIADAU

Newyddion

Ionawr 2014

YMWELIAD GAN FARDD PLANT CYMRU

Braf oedd croesawu'r bardd amryddawn, Aneirin Karadog i'n plith wrth iddo barhau ar ei daith o amgylch Cymru yn ei rôl fel y Bardd Plant Cenedlaethol.

Cafodd nifer o ddisgyblion blynyddoedd 4,5 a 6 hwyl yng nghwmni Aneirin yn chwarae gydag odlau a chreu llinellau a phenillion o farddoniaeth. Datblygwyd y syniadau yn rap a chafwyd perfformiadau cofiadwy iawn gan y grwpiau o blant!

Diolch yn fawr i Aneirin am ei gwmni ac i Lenyddiaeth Cymru am drefnu

 

PENCAMPWYR PÊL-RWYD CYLCH ABERYSTWYTH

Llongyfarchiadau mawr i’r tîm pêl-rwyd am ennill cystadleuaeth yr Urdd, Cylch Aberystwyth.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth yng Nghanolfan Hamdden Plascrug lle bu cystadlu brwd rhwng un ar bymtheg o ysgolion.

Llwyddodd y tîm i ennill pob gêm heb ildio gôl. Bydd y tîm yn mynd ymlaen i gystadlu’n rhanbarthol yn Llangrannog ar y 7fed o Chwefror.

Pob lwc i chi!

 

GALA NOFIO CENEDLAETHOL YR URDD

Llongyfarchiadau mawr i bawb a deithiodd yr holl ffordd i lawr i Gaerdydd i gynrychioli Ceredigion yng  Ngala Nofio Genedlaethol yr Urdd ar ddydd Sadwrn 25ain o Ionawr.

Mi nofiodd pawb yn arbennig o dda, gan lwyddo i ennill y canlyniadau canlynol:

 

Blwyddyn 3 a 4
3ydd - Ras Gyfnewid Rhydd Merched
5ed - Ras Gyfnewid Cymysg Merched
6ed - Ras Gyfnewid Rhydd Bechgyn
6ed - Ras Gyfnewid Cymysg Bechgyn

 

Blwyddyn 5 a 6
12fed - Lisa Davies - Rhydd
10fed - Lisa Davies - Pili Pala
10fed - Ras Gyfnewid Rhydd Merched
11eg - Ras Gyfnewid Cymysg Merched
10fed - Ras Gyfnewid Cymysg Bechgyn

 

Da iawn chi blant

 

ERIN YW PENCAMPWRAIG COGURDD YR YSGOL

I weld y casgliad llawn o luniau cliciwch yma (66 llun)

Llongyfarchiadau gwresog i Erin o flwyddyn 5 ar lwyddo i ennill y rownd gyntaf yng nghystadleuaeth Cogurdd yr Urdd eleni.

Roedd Erin yn un o 24 o ddisgyblion yr ysgol fu'n coginio salad cwscws yng Nghlwb yr Urdd, er mwyn dewis enillydd i fynd ymlaen i'r rownd nesaf yn erbyn goreuon Ceredigion.

Diolch yn arbennig i brif cogydd Gwesty Cymru am ddod i feirniadu'r gystadleuaeth, diolch i'r holl ddisgyblion am gystadlu ac i'r staff hefyd am gynorthwyo.

Pob hwyl i ti Erin yn Ysgol Bro Pedr ar Chwefror 20fed.

 

GWASANAETH YSGOL GYFAN DAN OFAL Y PWYLLGOR IECHYD A DIOGELWCH

"Bore dydd Mercher wnaethom ni fel pwyllgor iechyd a diogelwch roi cyflwyniad Powerpoint i'r ysgol gyfan ar ein gwaith ni yn ystod y flwyddyn mor belled.

Dangoson ni luniau ar sut i gadw'n ddiogel o gwmpas ardal yr ysgol, a hefyd tu allan i giatiau'r ysgol, yn enwedig wrth groesi'r heol.

Gobeithiwn fod y plant wedi mwynhau ein cyflwyniad, ac wedi dysgu rhywbeth hefyd."

Glesni a Lisa, Blwyddyn 6

 

PÊL-DROED YM MLWYDDYN 2 GYDAG ACADEMI CPD ABERYSTWYTH

Roedd disgyblion Blwyddyn 2 wrth eu boddau pan gafwyd ymweliad gan Stewart o Academi Clwb Pel-droed Aberystwyth heddiw er mwyn cynnal sesiwn pel-droed hwylus yn neuadd yr ysgol er mwyn annog diddordeb ymhlith y plant.

Gwelwyd cynnydd sylweddol yn sgiliau'r plant yn ystod y sesiwn hefyd - a oes yma Gareth Bale y dyfodol yn ein plith tybed?

Diolch yn fawr i Stewart am ddod atom ni.

 

CLIRIO'R PROM WEDI'R STOROM FAWR

Diolch i bawb a gynorthwyodd i glirio difrod y storm ar y promenâd fore dydd Sadwrn.

Yn y llun gweler Mr Williams gyda nifer o ddisgyblion a chyn-ddisgyblion yr ysgol gyda'u rhieni yn gweithio'n galed yn rhofio'r tywod yn ôl i'r traeth.

I wylio fideo o gyfweliad Mr Williams ar wefan y BBC, cliciwch yma

 

LLWYDDIANT MEWN FFOTOGRAFFIAETH

Llongyfarchiadau mawr i Ella o flwyddyn 3 ar ei llwyddiant anhygoel wrth ennill y categori ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd yng nghystadleuaeth FfotoAber eleni.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth ddiwedd mis Hydref, ond yn anffodus doedd dim copi o'r llun gennym i'w arddangos - tan nawr! Ond wrth weld y llun arbennig hwn, mi roedd yn werth aros amdano!

Llongyfarchiadau mawr i ti Ella!

 

 

DRINGO MYNYDD KILIMANJARO

Braf oedd croesawu Celyn Kenny yn ôl i'n plith (mi gofiwch i Celyn ymweld â ni nôl ym mis Mehefin y llynedd - darllen stori)

Daeth Celyn â ffrind iddi y tro hwn - Gwenno Healy - a bu'r ddwy yn dangos lluniau ac yn rhannu'u profiadau gyda disgyblion yr ysgol am eu tath anhygoel i fyny mynydd Kilimanjaro fis Awst y llynedd er budd elusen Childreach International.

Ar ddiwedd eu hymweliad cyflwynodd aelodau o Bwyllgor Dyngarol yr ysgol siec o £262.00 iddyn nhw - arian a godwyd trwy werthu cacennau yn nhymor yr haf y llynedd.

 

BLWYDDYN NEWYDD DDA!

 

« Fideo o ddisgyblion y Derbyn yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb!

 

 

« Newyddion Rhagfyr