Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 15/Maw

 

Dydd Llun 18/03/24

  • Nyrsys Ysgol yn y Derbyn
  • Sesiwn Aml-Sgiliau i fl.3a4 yn y Brifysgol gyda Ceredigion Actif
  • Noson Rieni 1 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

Dydd Mawrth 19/03/24

  • Noson Rieni 2 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

 

Dydd Mercher 20/03/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan gyda chriw Agor y Llyfr
  • Blwyddyn 3 yn dringo Pen Dinas
  • Dim ymarfer Ymarfer Cân Actol tan ar ôl y Pasg
  • Does dim Clwb yr Urdd yr hanner tymor hwn

 

Dydd Iau 21/03/24

  • Nofio i fl.5 a 3

 

Dydd Gwener 22/03/24

  • Ymarfer Cerddorfa Ysgol 8:45yb
  • Cau ar gyfer gwyliau'r Pasg (bydd y tymor newydd yn cychwyn i blant ar ddydd Mawrth y 9 fed o Ebrill)

 

LAWRLWYTHIADAU

Newyddion

Tachwedd 2013

WYTHNOS FATHEMATEG : DYDD GWENER : Y LLYFR GYDA'R PERIMEDR MWYAF

Yr her ar gyfer diwrnod olaf Wythnos Fathemateg oedd i ddod â'r llyfr gyda'r perimedr mwyaf i'r ysgol.

Enillwyr y llyfr gyda'r perimedr mwyaf mwyaf oedd Elin o flwyddyn 6, a Lloyd a Cerys ill dau o flwyddyn 3. Roedd perimedr llyfrau'r tri yn mesur 202cm yr un.

Yn y llun gwelir y tri ynghyd ag enillwyr o ddosbarthiadau eraill yr ysgol.

Da iawn chi, a diolch i bawb am gymryd rhan yn ystod yr wythnos.

 

FFAIR LYFRAU Y GYMDEITHAS RIENI AC ATHRAWON

Cafwyd noson fyrlymus iawn eleni eto wrth i Gymdeithas y Rhieni a'r Athrawon drefnu Ffair Lyfrau arall ar ein cyfer, gyda Siop Inc yn arddangos mwy o lyfrau nag erioed.

Diolch i bawb am gyfrannu ac am gefnogi - braf oedd gweld amrywiaeth o atyniadau - peintio wynebau, gêmau gan ddisgyblion blwyddyn 6, addurno cardiau, gwerthu cacennau, raffl, breichledu lliwgar, disgo a mwy!

Mae'r ysgol yn ddiolchgar iawn i'r GRhA am yr holl waith a wneir ganddynt i godi arian er lles holl blant yr ysgol.

 

WYTHNOS FATHEMATEG : DYDD IAU : Y POSTER GYDA'R ARWYNEBEDD MWYAF

Yr her ar gyfer y pedwerydd diwrnod oedd i ddod â'r poster gyda'r arwynebedd mwyaf i'r ysgol.

Enillydd y poster mwyaf heddiw oedd Mali o flwyddyn 6 a Dylan o flwyddyn 4. Mali a Dylan oedd enillwyr y Tedi byrraf ddydd Mawrth os gofiwch chi. Maint poster y ddau oedd 8.8m2.

Yn y llun gwelir Mali a Dylan gyda'r poster enfawr (yn cael ei ddal gan Mrs Owen a Mr Williams!), ynghyd ag enillwyr o ddosbarthiadau eraill yr ysgol.

Da iawn, bawb. Yr her olaf yfory fydd i ddod â'r llyfr gyda'r perimedr mwyaf.

 

PARTI PENBLWYDD BEDWYR A BLODWEN

Cafwyd parti mawr ym Mlwyddyn 1 heddiw wrth i'r plant i gyd ddathlu penblwydd arbennig Badwyr a Blodwen.

Mae'r ddau gymeriad wedi bod yn rhan o fywyd a gwaith Blwyddyn 1 ers blynyddoedd, ac eleni eto cafwyd hwyl wrth drefnu parti mawr ar eu cyfer,

Cafodd y plant lawer o hwyl wrth ddysgu sut i baratoi parti pen-blwydd, ond yr hwyl orau oedd cael blasu'r gacen pen-blwydd hyfryd, a'r bwydydd parti eraill arbennig - iym iym!

 

WYTHNOS FATHEMATEG : DYDD MERCHER : Y JWG GYDA'R CYFAINT MWYAF

Yr her ar gyfer y trydydd diwrnod oedd i ddod â'r jwg gyda'r cyfaint mwyaf i'r ysgol.

Enillydd y jwg fwyaf heddiw oedd Gwilym o'r Dosbarth Derbyn a Myfanwy ei chwaer o'r Meithrin. Roedd cyfaint jwg y ddau yn 9850ml! Anhygoel!

Yn y llun gwelir Gwilym a Myfanwy gyda'u jwgi anferth, ynghyd ag enillwyr o ddosbarthiadau eraill yr ysgol.

Da iawn, bawb. Her yfory: Y poster gyda'r arwynebedd mwyaf...

 

GWOBRWYO DARLLENWYR BRWD Y LLYFRGELL

Llongyfarchiadau i bawb a dderbyniodd dystysgrif a medal y bore ma gan Delyth Huws o Lyfrgell y Dref.

Dros wyliau'r haf cynhaliwyd cynllun darllen ar gyfer disgyblion ysgol o'r enw Plas Braw.

Llwyddodd dros 30 o blant yr ysgol newid eu llyfrau'n wythnosol am bedair wythnos neu fwy, ac felly'n derbyn gwobrau am wneud.

Diolch i chi Delyth am eich cwmni bore ma, a diolch i Lyfrgell Tref Aberystwyth am drefnu'r digwyddiad eleni eto.

 

WYTHNOS FATHEMATEG : DYDD MAWRTH : Y TEDI BYRRAF

Yr her ar gyfer yr ail ddiwrnod oedd i ddod â'r tedi byrraf i'r ysgol.

Bydd tasgau gwaith cartef yn cael eu gosod yn ddyddiol yr wythnos hon, gyda ffocws arbennig yn cael ei roi ar rifedd yn ystod y gwersi.

Enillydd y tedi byrraf heddiw oedd Dylan o flwyddyn 4. Taldra Tedi bychan Dylan oedd 4mm yn unig!

Yn y lluniau gwelir Dylan ac enillwyr o ddosbarthiadau eraill yr ysgol, gyda llun agosach o'r tedi odditano.

Da iawn, bawb. Ymlaen at yr her nesaf...

 

WYTHNOS FATHEMATEG : DYDD LLUN : Y LLYSIEUYN TRYMAF

Mae'n ddiwrnod cyntaf ein wythnos fathemateg am eleni! A pha ffordd well o ddechrau na chystadleuaeth y llysieyun trymaf?

Bydd tasgau gwaith cartef yn cael eu gosod yn ddyddiol, gyda ffocws arbennig yn cael ei roi ar rifedd yn ystod y gwersi.

Enillydd y llysieuyn trymaf heddiw oedd Hari o'r Dosbarth Derbyn. Roedd pwmpen Hari yn pwyso 38kg! Waw!

Yn y llun gwelir Hari ynghyd ag enillwyr o ddosbarthiadau eraill yr ysgol. Da iawn chi i gyd!

 

£655.50 AT BLANT MEWN ANGEN



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (79 llun)

Heddiw ar ddiwrnod Plant Mewn Angen daeth pawb i'r ysgol wedi eu gwisgo mewn gwisg ffansi hyfryd!

Cyfrannodd bawb £1 am wneud, a tro disgyblion newydd Blwyddyn 6 oedd hi i drefnu gemau a stondinau yn y neuadd ar gyfer gweddill yr ysgol.

Chwaraeodd bawb gemau amrywiol yn y Neuadd gan gyfrannu 10c y tro. Roedd yno nifer o stondinau cacennau hyfryd hefyd! Diolch i bawb am gael hwyl wrth gyfrannu eu harian poced ar Blant Mewn Angen, gan godi cyfanswm o £655.50 Gwych!

 

GALA NOFIO'R URDD

 

Llongyfarchiadau i bawb a gystadlodd yng nghystadleuaeth rhanbarthol Gala Nofio'r Urdd eleni.

Canlyniadau (3 uchaf)
Blwyddyn 3 a 4
1af - Ras Gyfnewid Rhydd Bechgyn
1af - Ras Gyfnewid Cymysg Bechgyn
1af - Ras Gyfnewid Rhydd Merched
1af - Ras Gyfnewid Cymysg Merched
2il - Annie Evans - Rhydd
2il - Joseph Gorman - Pili Pala
2il - Joseph Gorman - Rhydd
3ydd - Efan Davies - Cefn
3ydd - Lili Davies - Cefn

Blwyddyn 5 a 6

1af - Ras Gyfnewid Rhydd Merched
1af - Ras Gyfnewid Cymysg Merched
1af - Ras Gyfnewid Cymysg Bechgyn
1af - Lisa Davies - Rhydd
1af - Lisa Davies - Pili Pala
2il - Ras Gyfnewid Rhydd Bechgyn
2il - Cari Davies - Cefn
3ydd - Aled Llyr Hywel - Cefn

 

LLWYDDIANT YN YR ŴYL CERDD DANT

Llongyfarchiadau i’r disgyblion fu’n cynrychioli’r ysgol yn yr ŵyl cerdd dant yn Ystrad Fflur. Dymuna’r ysgol ddiolch i’r holl blant am eu perfformiadau gwych.

Canlyniadau;
Parti llefaru  – 1af
Llyr Ifan Eirug, unawd cerdd dant – 1af
Cadi Gwen a Beca Fflur – deuawd cerdd dant - 2ail
Parti cerdd dant – 3ydd

 

CYSTADLEUAETH 'Y DARLUN MAWR' - AMGUEDDFA TREF ABERYSTWYTH

Yn ddiweddar cynhaliwyd cystadleuaeth i blant ysgolion dynnu llun ar y thema 'Ein hamgueddfa ni yn 40 oed'.

Llwyddodd i'r tri sydd yn y llun, sef Nannon, Soffia a Rhys ennill gwobrau am eu darluniau hwy - Rhys yn 1af, Nannon yn 2il a Soffia yn 3ydd.

Llongyfarchiadau mawr i'r tri - mae yna artisitiaid addawol iawn yn ein plith ni felly!

 

 

GWEN YN LLWYDDO YN SIALENS DDARLLEN YR HAF!

Llongyfarchiadau mawr i Gwen o flwyddyn 5 ar ei llwyddiant arbennig gyda Sialens Ddarllen yr Haf eleni.

"Ges i sioc anferthol pan glywais y newyddion fy mod wedi ennill KOBOmini sef dyfais ddarllen electronig, a hynny am lwyddo i ddarllen mwy na chwech o lyfrau yn ystod gwyliau'r haf eleni. Mae'r KOBOmini yn wych - rwy'n gallu prynu a benthyg llyfrau i'w darllen arno! Diolch yn fawr i Lyfrgell y Dref Aberystwyth am drefnu'r Sialens Ddarllen ac am y wobr arbennig!"
Gwen, Dosbarth 5L

 

DISGYBLION YR YSGOL YN FFILMIO 'GWYLLTIO'

"Roeddwn i'n ffodus iawn i fod yn un o'r ugain o blant a gafodd y cyfle i ffilmio ar gyfer cyfres deledu 'Gwylltio' yr wythnos hon. Mae Gwylltio yn rhaglen ddiddorol am fywyd gwyllt, ac roedden ni'n canolbwyntio'n bennaf ar ardal Aberystwyth, gyda fy nghriw bach i yn edrych yn fanylach ar drychfilod. Cefais i lawer o hwyl yn enwedig wrth edrych o dan boncyffion y coed, a dod o hyd i bry cop a llawer o bethau bach anifyr eraill!
Diolch i griw Gwylltio - Rhys, Osian, Mererid, Gareth, Yvonne, Cath a Nia am y sesiynau diddorol dros ben."
Tomos, Dosbarth 6J

 

Y PWYLLGOR 'TACLO'R TOILEDAU' YN GWNEUD EU GWAITH YN DDA!

Prin deufis ers sefydlu'r pwyllgor, mae'r gwaith ar wella cyflwr toiledau'r ysgol wedi cychwyn!

"Aeth y naw ohonon ni sydd ar y Pwyllgor o gwmpas holl doiledau'r ysgol er mwyn gweld sut gyflwr oedd arnyn nhw a pha rai oedd angen eu gwella yn gyntaf." - Rhodri, Cadeirydd y Pwyllgor.

A chwarae teg i'r bechgyn, (ie, sylwch mai bechgyn yw'r holl aelodau!) penderfynon nhw mai toiledau'r merched - y rhai ger Blwyddyn 3 - oedd angen y sylw mwyaf.

Yn y llun gweler y Pwyllgor gyda'r adeiladwyr a fu wrthi'n brysur dros wyliau'r hanner tymor yn gosod toiledau newydd sbon.

 

COMUS YN DYSGU A MWYNHAU GYDA PHLANT Y DERBYN

 

Ar hyn o bryd mae masgot ein prosiect Comenius Ewropeaidd, Comus, yn treulio amser gyda ni yma yn yr Ysgol Gymraeg. Cyn hyn, bu Comus yn byw gyda’n ffrindiau yn ein hysgolion partner yn Nhwrci, Denmarc, Y Ffindir ac Ysgol Llwyn yr Eos, a bydd yn parhau â’u daith pan fydd yn mynd i’r Eidal gyda staff yr ysgol ym mis Tachwedd. Yr wythnos hon, bu Comus yn brysur iawn yng nghwmni plant y Derbyn – yn dysgu peintio, ysgrifennu, canu, cyfri, adeiladu, a bwyta cinio, hyd yn oed! Bu hefyd ar daith hyfryd ar hyd Coedlan Plascrug. Mae’n siŵr y bydd gan Comus nifer o hanesion difyr i’w hadrodd wrth ei ffrindiau newydd yn yr Eidal am ei amser yn yr Ysgol Gymraeg.

 
 

 

« Newyddion Hydref