Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 15/Maw

 

Dydd Llun 18/03/24

  • Nyrsys Ysgol yn y Derbyn
  • Sesiwn Aml-Sgiliau i fl.3a4 yn y Brifysgol gyda Ceredigion Actif
  • Noson Rieni 1 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

Dydd Mawrth 19/03/24

  • Noson Rieni 2 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

 

Dydd Mercher 20/03/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan gyda chriw Agor y Llyfr
  • Blwyddyn 3 yn dringo Pen Dinas
  • Dim ymarfer Ymarfer Cân Actol tan ar ôl y Pasg
  • Does dim Clwb yr Urdd yr hanner tymor hwn

 

Dydd Iau 21/03/24

  • Nofio i fl.5 a 3

 

Dydd Gwener 22/03/24

  • Ymarfer Cerddorfa Ysgol 8:45yb
  • Cau ar gyfer gwyliau'r Pasg (bydd y tymor newydd yn cychwyn i blant ar ddydd Mawrth y 9 fed o Ebrill)

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Mai 2012

ARDDANGOSFA GELF KIM JAMES-WILLIAMS

Cafodd ddisgyblion blynyddoedd 3 a 6 yr ysgol gyfle i ymweld ag arddangosfa o waith celf un o rieni'r ysgol heddiw. Mae Kim wedi bod yn brysur iawn gyda'i gwaith ymchwil yn arbrofi ac ymarfer - cofiwn iddi ddod i'r ysgol tua deufis yn ôl i lunio disgyblion a staff wrth eu gwaith bob dydd, a heddiw gwelsom ffrwyth y gwaith hwnnw yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth. Diolch iddi am ei sgwrs ddiddorol, ac am ddangos inni sut y mae hi'n llunio pobl.

» Gwylio'r fideo

 

Y FFAGL OLYMPAIDD YN DOD I'R YSGOL

Braf oedd croesawu un o gludwyr y fflam Olympaidd i'r ysgol heddiw. Daeth Bridget James, a gariodd y ffagl o'r Llyfrgell Genedlaethol i fyny rhiw Penglais yn y bore, i'r ysgol yn y prynhawn gyda'i ffagl gan ymweld â phob dosbarth er mwyn i'r disgyblion weld a dal y ffagl eu hunain. Yma'n y llun mae Bridget yn sefyll gyda chriw o blant a benderfynodd redeg wrth ei hymyl ar hyn y lôn sy'n arwain i lawr o'r llyfrgell. Am blant heini!

 

RAS FEICS HALFORDS



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (31 llun)

Yn wahanol iawn i llynedd, roedd yr haul yn tywynnu ar y prom a chyfres beicio Halfords eleni. Roedd yr haul hefyd yn tywynnu ar feicwyr yr Ysgol Gymraeg wrth iddyn nhw gipio nifer o wobrau yn ystod y prynhawn. Llongyfarchiadau mawr i Dwynwen o flwyddyn 6 ar ennill y ras i ferched blynyddoedd 5a6, ac i Sioned o flwyddyn 5 a ddaeth yn ail a Lily o flwyddyn 6 yn drydydd. Yn y ras i fechgyn blynyddoedd 3a4 llwyddodd Iestyn Llŷr i gipio'r ail safle. Da iawn i bawb arall hefyd a gystadlodd yn yr holl rasys gyda nifer yn dod yn y deg cyntaf.

 

CWMNI THEATR ARAD GOCH YN CYFLWYNO GUTO NYTH BRÂN

I gyd-fynd gyda digwyddiad y Gêmau Olympaidd eleni, ac yn arbennig ymweliad y fflam â thref Aberystwyth penwythnos yma, roedd hi'm amserol iawn i ddisgyblion blynyddoedd 3,4,5a6 ymweld â Theatr y Werin i weld perfformiad o Guto Nyth Brân. Diolch unwaith yn rhagor i Gwmni Theatr Arad Goch am gynhyrchiad wnaeth roi llawer o fwynhad i'r plant a'r staff, wrth ddod â stori "bachgen cyflyma'r byd" yn fyw inni.

 

TAITH GERDDED Y GYMDEITHAS RIENI AC ATHRAWON

Diolch o galon i bawb a ddaeth i gefnogi'r daith gerdded eleni. Braf oedd gweld cynifer o gerddwyr - yn ddisgyblion, rhieni, perthnasau, staff a chyn-ddisgyblion yr ysgol yn mwynhau'r tywydd braf a chael wâc hamddenol ar hyd y llwybrau gwahanol: ar hyd rhodfa Plascrug ar gyfer y plant bach; a draw i'r cae criced ac yn ôl i'r plant hŷn. Diolch yn arbennig hefyd i gwmni Tŷ Nant am noddi'r noson, ac am gyfrannu cannoedd o boteli o ddŵr i bawb gael dorri'u syched ar noson mor braf.

 

EDRYCHWCH PWY SY'N PRIFIO!

 

Fel y gwelwch, mae'r cywion wedi bod yn brysur iawn yn bwyta llawer iawn o fwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf! Maen nhw bellach wedi tyfu'n gywion mawr, a chyn hir byddant yn ystyried hedfan o'r nyth am y tro cyntaf. Mae eu rhieni yn parhau i'w bwydo yn gyson er mwyn iddyn nhw dyfu'n fwy a chael nerth i hedfan. Bydd raid inni gadw llygad manwl arnynt er mwyn gweld hynny'n digwydd.

 

BLWYDDYN 2 YN DILYN LLWYBR TAITH GYFNEWID Y FFLAM OLYMPAIDD



Cliciwch yma i wylio fideo o'r daith

» Staff a disgyblion un o ddosbarthiadau blwyddyn 2 yn sefyll o gwmpas map o Gymru a'r lleoliadau y bydd y fflam yn ymweld â hwy

Mae pawb erbyn hyn yn ymwybodol fod y fflam olympaidd ar ei ffordd o amgylch Prydain ar ei thaith gyfnewid. Dydd Sul, mi fydd y fflam yn cyrraedd Aberystwyth. Llwyddodd disgyblion blwyddyn 2 i redeg yr un daith gyfnewid ar iard yr ysgol wrth ddefnyddio map o Gymru a dychmygu gweddill Prydain. Llwyddodd y plant i gyflawni'r daith mewn 1funud a 5eiliad! Mae'n rhaid bod hynny'n record y byd!

 

DIOLCH MRS PITCHER!

Diolch yn fawr eto fyth i un o rieni'r ysgol, Mrs Pitcher, am ei gwaith cyson yn cynorthwyo gyda thwtio a chymennu ardaloedd gwyrdd yr ysgol. Yma mae ei merch a'i ffrindiau yn ei helpu i blannu blodau a phlanhigion yn y border ger y Prif fynedfa. Diolch Mrs Pitcher am eich holl waith drwy gydol y flwyddyn!

 

DIWRNOD ELFED YM MLWYDDYN 2



Yn ystod y tymor rydym wedi bod yn gwneud nifer o weithgareddau yn seiliedig ar stori 'Elfed'. Fel uchafbwynt i'r gweithgareddau hyn, cawsom barti i ddathlu 'Diwrnod Elfed'. Buom yn brysur yn paratoi ar gyfer y parti. Buom yn creu posteri, gwahoddiadau a chardiau deniadol ar y cyfrifiadur. Buom yn creu hetiau parti lliwgar. Gwnaethom hydoddi jeli a mesur dwr yn ofalus gan wneud yn siwr ein bod yn rhannu'r jeli yn gyfartal. Gwnaethom frechdanau ham, jam a chaws a buom yn addurno cacennau bach Mrs Atkinson. Roedden nhw'n flasus iawn! Cawsom bicnic tu allan i gaffi Elfed a buom yn dawnsio a chael hwyl a sbri. Cawsom ddiwrnod wrth ein bodd!
Disgyblion Blwyddyn 2

 

MARTHA MASNACH DEG



Buom yn lwcus iawn i gael ymwelydd diddorol ym mlwyddyn 5 ar Ddydd Mawrth yr ail ar hugain o Fai.  Daeth Martha yr holl ffordd o Simbabwe i ddweud wrthym am sut mae Masnach Deg wedi gwella ansawdd bywyd ei theulu yn ôl yn Simbabwe.  Dangosodd luniau i ni o’i mam a’i phlant yn Simbabwe a’r ffynnon ddwr newydd mae arian Masnach Deg wedi rhoi iddynt.  Enillodd Anna a Jack siocled Masnach Deg am eu bod wedi ateb cwestiynau yn gywir.  Ar ôl ein sgwrs yn y dosbarth aethom allan i’r heulwen braf yn yr ardd natur i fwynhau gweithdy drymio Affricanaidd.  Cawsom bob un gyfle i daro’r drymiau a dysgu rhythm curiadau Affricanaidd, a bu Martha yn ein dysgu i ganu caneuon hefyd.  Bu Martha (a Elsie!) hefyd yn dawsnio i sain hudol y gerddoriaeth Affricanaidd.  Roedd hi wir yn olygfa i’w chofio!
Gwenllian Morfudd a Huw Taylor, cynrychiolwyr Pwyllgor Masnach Deg Blwyddyn 5.

 

BLWYDDYN 3 YN YMWELD Â CHOMISIWN HENEBION CYMRU

Bu plant blwyddyn 3 yn brysur iawn fore dydd Mawrth yng Nghomisiwn Henebion Cymru yn Aberystwyth yn edrych ar awyrluniau, mapiau ac hen ffotograffau o'r dref dros y ganrif ddiwethaf. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Comisiwn am y croeso cynnes ac am y cyfle i ddysgu mwy am ein hardal leol.

 

BLWYDDYN 6 YN Y GERDDI BOTANEG



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (171 llun)

Er mwyn cefnogi'r gwaith a wneir yn y dosbarth ar gyfer Daearyddiaeth y tymor hwn, aeth blwyddyn 6 ar ymweliad i'r Gerddi Botaneg Cenedlaethol ger Llanarthne. Pwrpas y daith oedd er mwyn dysgu a gweld enghraifft o sut i fyw yn wyrdd, gan fod yr ardd yn gynaladwy iawn. Mae'n casglu'r dwr glaw i gyd, yn tyfu helyg ei hun ar gyfer bwydo boiler biomass ei hun ac yn trin gwastraff ar y safle ayyb. Diolch yn fawr i Gloria am ein tywys o gwmpas yr ardd, ac am ei holl ffeithiau a gwybodaeth ddiddorol.

 

GWOBRAU Tir na nÓg

» Mrs Delyth Huws o Lyfrgell y Dref gyda'r disgyblion fu'n rhoi cyflwyniad ar y tri llyfr sydd ar y rhestr fer

Fel y llynedd, rydym wedi bod yn ffodus iawn fel ysgol i gael cymryd rhan a chydweithio gyda Llyfrgell y Dref a'r Cyngor Llyfrau Cenedlaethol i ddewis pa lyfr rydyn ni'n teimlo ddylai ennill gwobr Tir na nÓg ar gyfer y llyfr Saesneg gorau i blant. Eleni roedd tri llyfr ar y rhestr fer sef Saving SS Shannon, Nelson at Sea a Full Moon. Ein dewis ni oedd Nelson at Sea ond tybed ai dyna fydd dewis y beirniad swyddogol? Bydd rhaid aros i weld!

 

DIWRNOD BEICS BLWYDDYN 1

Roedd hi'n ddiwrnod beics ym mlwyddyn 1 heddiw. Daeth pawb i'r ysgol gyda'u beiciau a'u sgwteri er mwyn treulio cyfnod yn beicio o gwmpas yr iard, gan fynd heibio i gônau gwahanol liw a thrwy bylchau cul hefyd. Cafodd bawb llawer o hwyl yn beicio gyda'i gilydd, gan ddysgu sut i feicio'n ofalus heb daro i mewn i neb arall, sydd yn dipyn o gamp!

 

COCH, OREN A GWYRDD!

» Disgyblion y Dosbarthiadau Derbyn yn dysgu am oleuadau traffig

"Aethom am dro i weld y goleuadau traffig ar ffordd Llanbadarn. Roedd y golau yn dri lliw sef coch, oren a gwyrdd. Pan roedd y golau yn lliw gwyrdd roedd y ceir yn gallu mynd ond pan newidiodd y golau i’r lliw coch roedd rhaid i’r ceir stopio er mwyn gadael i ni groesi."
Beatrix a Mairwen, Dosbarth Derbyn

 

GWAITH YN CYCHWYN AR YR ESTYNIAD

Bellach mae'r gwaith wedi cychwyn ar adeiladu estyniad i neuadd yr ysgol. Bydd yr ystafell ychwanegol yn golygu y bydd modd i ni greu dwy ystafell ar gyfer rhai gweithgareddau megis Addysg Gorfforol a Cherdd yn ogystal â chael un ystafell fawr ar gyfer amser cinio a gwasanaethau boreol. Mi fydd y Clwb Gofal Plant yn cael ei leoli yn yr adeilad newydd hefyd.

 

TRAWS GWLAD CENEDLAETHOL YR URDD

» Iestyn a Rhys gyda'u medalau ar ddiwedd y ras

Llongyfarchiadau gwresog i'r holl redwyr a gymrodd ran yn y gystadleuaeth Traws Gwlad ar gaeau Blaendolau ddydd Sadwrn.

Canlyniadau:
1af - Tîm Bechgyn Blwyddyn 3
2il - Tîm Merched Blwyddyn 5
2il - Tîm Merched Blwyddyn 6
3ydd - Rhys Evans - Unigol Bl.3
3ydd - Dwynwen Davies - Unigol Bl.6
3ydd - Tîm Bechgyn Blwyddyn 4
3ydd - Tîm Bechgyn Blwyddyn 5
3ydd - Tîm Merched Blwyddyn 3

 

TWRNAMENT PÊL-DROED CENEDLAETHOL YR URDD

» Tim pêl-droed yr ysgol

Yn dilyn ymdrech arbennig y tim pêl-droed i ennill y gystadleuaeth sirol eleni, colli oedd yr hanes yn y twrnament cenedlaethol.
Wrth golli dwy gêm a chwarae un gêm gyfartal, ni lwyddodd y bechgyn i gyrraedd yr wyth olaf. Serch hynny, roedd hi'n braf gweld y bechgyn yn chwarae'n dda ac yn mwynhau'r diwrnod. Blwyddyn nesaf amdani!

 

CWIS LLYFRAU CEREDIGION

» Aelodau'r Cwis Llyfrau fu'n fuddugol yn y gystadleuaeth i ddisgyblion blynyddoedd 5a6

Cafodd criw o ddisgyblion blwyddyn 6 yr ysgol hwyl wrth gystadlu yng Nghystadleuaeth y Cwis Llyfrau yn ddiweddar. Yn ystod rownd Ceredigion, roedd yn rhaid iddynt drafod llyfr (dewiswyd Lowri Angel), a gwneud cyflwyniad am lyfr gwahanol (dewiswyd Sais ydi o, Miss) Llongyfarchiadau mawr i'r wyth am ennill y gystadleuaeth i flynyddoedd 5a6. Byddant bellach yn cystadlu yn y rownd genedlaethol a gynhelir ar Fehefin 20fed. Pob hwyl iddynt.

 

"I BLE GEI DI DY GLUDO PAN FO'R HAUL YN SUDDO?"

» Siwan gyda'i llinell o farddoniaeth ar y prom yn Aberystwyth

"Yn gynharach yn y flwyddyn daeth Bardd Plant Cymru sef Eurig Salisbury i'r ysgol i gynnal gweithdy barddoniaeth gyda ni fel rhan o gynllun Adfer y Prom. Pwrpas yr ymweliad oedd er mwyn creu llinellau o farddoniaeth sy'n ein hysbrydoli gan yr olygfa a geir o'r prom yn Aberystwyth. Yn ffodus iawn, cafodd fy syniadau i eu hystyried a bellach mae gennyf linell o farddoniaeth ar lechen ysgythredig!"
Siwan, Dosbarth 6J

 

RAS FEICS CA2!

» Disgyblion yr ysgol yn awyddus i gychwyn y ras!

Ar ddiwedd y mis bydd Taith Halfords yn cyrraedd Aberystwyth. Yn ystod y prynhawn bydd cyfle i ddisgyblion ysgolion cynradd gymryd rhan mewn ras eu hunain, ac felly cynhaliwyd ras-ragbrawf yn yr ysgol er mwyn gweld pwy fydd yn cynrychioli'r ysgol yng nghystadleuaeth Halfords. Llongyfarchiadau i'r 20 a ddaeth i'r brig, a phob hwyl iddynt ar Fai 25ain.

 

AMSER PLANNU!

» Rhai o ddisgyblion Blwyddyn 6 yn plannu courgettes

Mae disgyblion yr ysgol wedi bod yn brysur iawn yn plannu llysiau yn yr ardd natur yn ystod yr wythnosau diwethaf. Bellach mae yno lysiau o bob math: moron, broccoli, winwns, tatws, courgettes a pherlysiau i enwi ond rhai. Yn ystod gweddill y tymor mi fydd gan y disgyblion gyfrifoldeb i ofalu amdanynt a sicrhau fod y llysiau yn tyfu ar eu gorau er mwyn eu gwerthu ddiwedd y tymor.

 

BWYDO'R CYWION BACH

 

» Fideo : Amser bwyd!

Mi fyddwch chi'n falch i glywed bod y cywion i gyd wedi deor yn ddiogel a bellach maen nhw'n cadw'u rhieni yn brysur gyda'u chwant am fwyd!

 

NIA YN FASGOT I GLWB PÊL-DROED BIRMINGHAM!

» Nia yn dal rhaglen gêm Birmingham yn erbyn Blackpool, ynghyd â thystysgrif a gyflwynwyd iddi gan y clwb

"Ges i dipyn o sioc neithiwr pan ddarganfyddais i mai fi oedd masgot Clwb Pêl-droed Birmingham ar gyfer y gêm yn erbyn Blackpool. Wnes i gwrdd â'r chwaraewyr i gyd, eu harwain nhw allan i'r cae, cael bwyd gyda nhw ar ôl y gêm, a derbyn crys wedi'i lofnodi! Roedd yn wych! Yr unig beth trist oedd bod Birmingham wedi colli o 3 gôl i 2!"
Nia, Dosbarth 6LL

 

DAMIEN WALFORD DAVIES YN YMWELD Â BLWYDDYN 1

» Criw o ddisgyblion Blwyddyn 1 gyda'r Athro Damien Walford Davies

"Rydyn ni wedi mwynhau gweld y lluniau o Jerwsalem. Mae Jerwsalem yn bell iawn. Roedd Mr Davies wedi bod i'r ogof lle bu Iesu. Roedd llawer o gathod yn Jerwsalem. Mae Mr Davies yn ysgrifennu llyfr yn sôn am Jerwsalem. Roedd Mr Davies wedi teithio i Jerwsalem mewn awyren. Roedd yr adeilad aur yn wych!
Roedd y dillad lliwgar yn neis iawn. Bues i a Lucy yn helpu Mr Davies i ddangos y lluniau o Jerwsalem i bawb."
Cristyn, Matty, Mair, Gareth ac Ella Gwawr, Blwyddyn 1

 

AGORIAD SWYDDOGOL LLWYBR YR ARFORDIR

» Criw o blant yr ysgol yn cael eu ffilmio ar gyfer y rhaglen deledu 'Bro'

Dydd Sadwrn agorwyd llwybr arfordir Cymru gyda dathliadau mawr ar y prom yma yn Aberystwyth. Aeth criw o blant yr ysgol i'r prom ac yna i'r traeth ar gyfer ffilmio darn ar gyfer y rhaglen 'Bro' a fydd yn cael ei darlledu nos Lun.

A wyddoch chi?

Mae'r llwybr yn 870 milltir o hyd, ac y llwybr arfordirol cyntaf yn y byd i fod yn llwybr di-dor o amgylch un wlad.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am y llwybr ar wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru

 

BLWYDDYN 3 YN YMWELD Â FFERM CWMWYTHIG



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (55 llun)

» Lloi fferm Cwmwythig yn ymlacio ar y gwellt!

"Roedd lond y lle o welingtons ym mlwyddyn 3 heddiw wrth i ni baratoi ar gyfer ymweld â fferm Cwmwythig - fferm wartheg ger pentref Capel Bangor. Ar ôl cyrraedd, gwelsom y bwyd y mae'r gwartheg yn ei fwyta, a'r adeilad lle maen nhw'n cael eu godro. Mae cannoedd o wartheg ar y fferm, gan gynhyrchu 9,000 litr o laeth bob dydd! Yna cawsom ni eistedd mewn tractor! Gwych!"
Alaw, Dosbarth 3M

 

Y CYWION YN DEOR!

 

» Fideo o'r cywion bach yn deor am y tro cyntaf

Heddiw, ar y diwrnod cyntaf o Fai, dyma'r cywion yn dechrau deor! Llwyddodd 3 ohonynt i ddeor yn y bore, gyda phedwar arall yn deor yn y prynhawn. Bu rhai plant yn ffodus iawn i weld plisg yr wyau yn hollti a gwylio'r cywion bach yn deor! Ry'n ni nawr yn aros i'r gweddill ddeor!

 
« Newyddion Ebrill 2012 / Newyddion Mehefin 2012 »