Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 19/Mai
Dydd Llun 22/05/23
Dydd Mawrth 23/05/23
- Bl.5a6 yn Llangrannog
- Criced ar gyfer bl.4 - dau dîm i fynd i chwarae yn Llandysul (bws yn gadael am 8) a thri tîm yn chwarae yn erbyn Ysgol Padarn Sant ar gaeau'r ysgol yn y prynhawn
- Bl.1,2,3 a 4 i weld cynhyrchiad 'Jemima' gan Arad Goch yn Theatr y Werin
Dydd Mercher 24/05/23
- Bl5a6 yn Llangrannog (dychwelyd am 3yp)
- Clwb yr Urdd ar gyfer bl.2 a 4 3:30-4:30yp
Dydd Iau 25/05/23
- Nofio bl.6 - bore
Nofio bl.3 - prynhawn
Dydd Gwener 26/05/23
- Dymuniadau gorau i Mr Williams y Pennaeth wrth iddo ddechrau ar ei secondiad gyda'r Awdurdod Addysg yn dilyn y gwyliau. Os hoffech ddod i ffarwelio â Mr Williams mi fydd wrth y giât fore dydd Gwener rhwng 8:30 a 9 o'r gloch
- Gwasanaeth ysgol gyfan
- Ymarferion Cân Actol a grwpiau dawnsio yn ystod y prynhawn
- Cau ar gyfer gwyliau'r Sulgwyn am 3:30yp
- Dymuniadau gorau i bawb sy'n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd wythnos nesaf - mi welwn ni chi yno!
► Llyfryn gan Dîm Cefnogi'r Gymraeg
LAWRLWYTHIADAU
Newyddion
Ebrill 2014 |
|
DATHLU GWAHANOL LWYDDIANNAU YN EIN GWASANAETH BOREOL |
|
Llongyfarchiadau mawr i'r grwpiau o blant a ddaeth i ddangos eu medalau, tystysgrifau a chwpanau gan rannu eu llwyddiannau gyda ni yn ein Gwasanaeth Ysgol Gyfan bore ma. Yn eu plith roedd brawd a chwaer - Niamh ac Iestyn yn dathlu eu campau gymnasteg; Ioan ac Iestyn yn dathlu llwyddiant mewn rygbi; Hannah Mari yn dathlu llwyddiant mewn cyfeiriannu; a'r bedair ferch Erin, Lucie, Nicole, Sofie a Lili-Gwen, gydag Erin hefyd yn dathlu llwyddiant mewn karate. Da iawn chi i gyd! |
|
GETHIN YN AIL AM LUNIO ADOLYGIAD |
|
Llongyfarchiadau mawr i Gethin sy'n ddisgybl ym mlwyddyn 3 ar lwyddo i ddod yn ail mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Lyfrgell y Dref a'r Adran Addysg ar Ddiwrnod y Llyfr yn ddiweddar. Y dasg oedd i ysgrifennu adolygiad o hoff lyfr, a dewis Gethin oedd 'Minecraft : Llawlyfr i Ddechreuwyr' Da iawn ti Gethin am lwyddo mewn cystadleuaeth lle'r oedd dros 300 o blant wedi cystadlu. Tipyn o gamp! |
|
TRAWS GWLAD DYFED |
|
<< Llun o ddisgyblion blwyddyn 4 fu'n rhedeg yng Nghystadleuaeth Traws Gwlad Dyfed. Da iawn bawb fu'n rhedeg. |
|
BLWYDDYN 4 YNG NGORSAF BŴER CWM RHEIDOL |
|
Yn ystod yr Wythnos Wyddoniaeth eleni cafodd Blwyddyn 4 gyfle i ail ymweld â Gorsaf Bwer Cwm Rheidol er mwyn gweld yr holl waith cynhyrchu trydan sy'n digwydd yno. Diolch i bawb a wnaeth ein tywys o gwmpas yr adeiladau gan egluro popeth yn glir i ni. A diolch hefyd am adael i ni wisgo'r helmedi llachar oren! Roedden ni'n teimlo'n bwysig iawn! |
|
FFRÂM YR AELWYD YN DYCHWELYD I'R YSGOL |
|
Mae darn o frodwaith celfydd iawn wedi gwneud ei gartref newydd yn yr Ysgol Gymraeg. Crewyd y brodwaith ar gyfer nodi pum mlynedd ar hugain ers sefydlu’r Aelwyd yn Aberystwyth. Mae’r gwaith yn cynnwys nifer fawr o enwau yr aelodau ac yn cwmpasu’r cyfnod o 1933 i 1958. Mae’n cynnwys nifer o hoelion wyth ein gwlad megis Mary Vaughan Jones, T H Parry Williams ac Ifan ab Owen Edwards. Cliciwch yma i ddarllen mwy |
|
LLWYDDIANT I DÎM PÊL-RWYD YR YSGOL |
|
Llongyfarchiadau i dim pêl-rwyd yr ysgol ar eu llwyddiant diweddar yn nhwrnament Pêl rwyd ysgolion Cylch Aberystwyth. Cynhaliwyd y twrnament ar gyrtiau'r Ganolfan Hamdden gyda'r merched yn llwyddo i ennill pob un o'i gêmau yn ystod y prynhawn. Da iawn chi ferched! |
|
Y PWYLLGOR ECO YN DIOLCH I MORRISONS |
|
Dymuna’r Pwyllgor Eco ddiolch i bawb am gasglu tocynnau ‘Let’s grow’ Morrisons eleni eto. Defnyddiwyd yr 17 mil o docynnau a gasglwyd i gael nifer o offer i’r ardd a’r dosbarth. Mae ein diolch yn fawr i Morrisons. |
|
LLWYDDIANT I'R MERCHED MEWN PÊL-DROED |
|
|
Llongyfarchiadau mawr i aelodau tim pêl-droed y merched ar ei llwyddiant yn nhwrnament 7 bob ochr yr Urdd yn ddiweddar. Llwyddodd y merched i guro timau ysgolion eraill Ceredigion ar ddiwrnod prysur iawn ar gaeau Blaendolau yn Aberystwyth. Pob hwyl iddynt wrth fynd ymlaen i'r rownd genedlaethol a fydd yn cael ei chynnal yn Aberystwyth fis nesaf. |
GWYL AGOR DRYSAU GYDA ARAD GOCH |
|
Yn ystod yr wythnos hon (Ebrill 1af - 4ydd) mae Arad Goch yn cynnal gwyl Agor Drysau. Rydym yn ffodus iawn fel ysgol ein bod ni i gyd (plant y Meithrin yr holl ffordd fyny i flwyddyn 6!) yn cael gweld perfformiadau gwahanol yn ystod yr wythnos gan gychwyn gyda Georgia Ruth sy'n digwydd bod yn gyn-ddisgybl yr ysgol (gweler llun) Cafodd y Meithrin fore llawn cerddoriaeth ac offerynnau hefyd gan arbrofi gyda nifer o offerynnau eu hunain - roedden nhw'n swnio'n wych! Diolch yn fawr i Arad Goch am drefnu gwyl wych - ry'n ni'n edrych ymlaen i flwyddyn nesaf yn barod! |
|
GWEITHDY DIOGELWCH AR Y WE |
|
Bûm yn ffodus iawn ym mlwyddyn 6 i gael ymweliad gan fyfyrwyr y Brifysgol yn Aberystwyth i ddod i drafod am ddiogelwch ar y We gyda ni. Mae ein defnydd ni fel plant ac oedolion ar y We yn mynd yn fwy ac yn fwy bob blwyddyn, ac felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n ymwybodol sut i gadw'n ddiogel tra'n defnyddio'r We, ac i ddysgu sut i ddefnyddio'r We yn synhwyrol ein hunain. Bu trafodaethau mawr yn digwydd yn ystod y prynhawn a hoffem ddiolch i'r myfyrwyr am arwain sesiwn ddiddorol ac addysgiadol iawn. |
|
« Newyddion Mawrth | |