Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 17/Ion
Dydd Llun 20/01/25
Dydd Mawrth 21/01/25
- Cerddorfa ysgol 8:45yb
Dydd Mercher 22/01/25
- Gwasanaeth Ysgol Gyfan
Clwb yr Urdd i fl.1,3a4
3:30 - 4:30yp
Dydd Iau 23/01/25
- Nofio i fl.4a6
Dydd Gwener 24/01/25
- Bydd Blwyddyn 6 yn ymuno yn nathliadau Agoriad Swyddogol maes 2G y Ganolfan Hamdden yn ystod y prynhawn
- 3:30 - 5:00 - Disgo Dwynwen y G.Rh.A yn Neuadd yr Ysgol. Mynediad yn £2 - gweler y poster yn Llythyr y Pennaeth
Dydd Sadwrn 25/01/25
- Dydd Santes Dwynwen - ymunwch â ni yn y Parêd - cwrdd wrth Gloc y Dref am 1:45yp
LAWRLWYTHIADAU
Archif
Newyddion Gorffennaf 2013 |
|
GWOBRAU BLWYDDYN 6 |
|
Ar y bore olaf un, trefnwyd gwasanaeth yn gyfangwbl dan ofal blwyddyn 6, cyn iddynt adael yr Ysgol Gymraeg ar gyfer cychwyn yn yr ysgolion uwchradd wedi'r haf. Cafwyd cyfle hefyd i ddosbarthu'r gwobrau blynyddol, gyda'r tlysau'n cael eu cyflwyno fel a ganlyn: Llongyfarchiadau mawr i'r pump a phob dymuniad da i'r holl ddisgyblion sy'n trosglwyddo i'r Uwchradd - mi fyddwn yn gweld eich heisiau chi i gyd fis Medi. |
|
GWYLWYR Y GLANNAU |
|
Croesawyd Tomi Turner, sy'n gyn-ddisgybl yr ysgol, atom i rannu neges bwysig iawn parthed diogelwch glan-môr dros wyliau'r haf. Gydag Aberystwyth yn dref glan-môr, roedd neges Tomi yn holl bwysig i bob un o ddisgyblion yr ysgol, gyda gwersi'n cael eu dysgu hefyd parthed adnabod baneri arbennig a thonnau peryglus. Diolch Tomi am dy gwmni a'th neges bwrpasol eleni eto. |
|
TAITH FEICS BLWYDDYN 6 |
|
Yn dilyn wythnosau o wersi beicio gyda hyfforddwyr Cyngor Ceredigion, daeth hi'n amser i ddisgyblion blwyddyn 6 ymarfer eu holl sgiliau newydd wrth inni fynd ar daith feics ar hyd y lôn i Ystad Glan-yr-afon ac yna ar hyd y prom gan alw yn yr 'Hut' am hufen iâ ar ein ffordd nôl i'r ysgol. Diolch yn arbennig i Terry, Catrin a Malcolm am eu gwaith yn hyfforddi'r disgyblion i feicio'n ddiogel yn ystod tymor yr haf eleni. |
|
YMWELIAD GAN YR HEDDLU |
|
Cafwyd ymweliad gan yr Heddlu heddiw er mwyn atgoffa'r disgyblion i gadw'n ddiogel a hithau'n ddiwedd tymor a diwedd y flwyddyn ysgol. Atgoffodd yr Heddlu ni i sut i gadw'n ddiogel yn ystod ein chwe wythnos o wyliau, gan ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon a oedd gan y plant. Diolch yn fawr iddynt am ddod i'r ysgol. |
|
NOSON BARBECIW Y G.RH.A |
|
Cafwyd barbeciw llwyddiannus iawn ar noson braf o haf eleni. Daeth cannoedd i fwynhau'r arlwy o gig moch, byrgyrs, salad, ffrwythau, hufen iâ, pwdinau a mwy. Diolch i bawb a gefnogodd, ac yn enwedig i'r cigydd Aled Morgan a holl aelodau'r GRhA am eu gwaith diflino yn ystod y flwyddyn ac am eu holl baratoadau ar gyfer y noson lwyddiannus hon. |
|
CERDDWN YMLAEN |
|
Yn dilyn ein diwrnod elusennol ddechrau'r wythnos, aeth criw o ddisgyblion blwyddyn 6 i gerdded gyda Rhys Meirion ac enwogion eraill wrth iddyn nhw godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Yn y llun mae'r Cyngor Ysgol yn cyflwyno siec o £300 i Iolo Williams. Cerddodd Blwyddyn 6 ar hyd Rhodfa Plascrug, trwy'r dre, ar hyd y prom ac i fyny Craig Glais gyda'r cerddwyr. Cliciwch yma i weld y criw yn eistedd ar dop Craig Glais gyda golygfa hyfryd Aberystwyth yn y cefndir. |
|
MABOLGAMPAU RHYNG-SIROL |
|
Yn dilyn eu llwyddiant ym Mabolgampau Dyfed yn ddiweddar, cafodd tair o ferched Blwyddyn 6 y cyfle i gynrychioli tîm Dyfed mewn cystadleuaeth athletau ryng-sirol yn erbyn tîm Gorllewin Morgannwg yng Nghaerfyrddin. Llongyfarchiadau mawr i Lisa am ddod yn ail yn y ras 100 metr ac yn ail fel aelod o'r tîm ras gyfnewid, Caitlin am ddod yn bedwerydd am daflu pwysau, a Gwenllian am ddod yn chweched yn ras y clwydi. |
|
LLWYDDIANT MEWN CYFEIRIANNU |
|
Bu rhai o ddisgyblion yr ysgol yn brysur yn cystadlu mewn cystadleuaeth gyfeiriannu yn ddiweddar. Llongyfarchiadau i Gwenllian, Rosa a Dylan o Flwyddyn 6, George o Flwyddyn 5, a Hannah a Lucie o Flwyddyn 4 am fod yn aelodau o dîm buddugol ysgolion Ceredigion wrth iddynt guro tîm ysgolion Powys yn y gystadleuaeth gyffrous a gynhaliwyd mewn coedwig uwchlaw Tre'r Ddôl. |
|
GWIBDAITH BLWYDDYN 4 I YNYS HIR A MACHYNLLETH |
|
Ar ddydd Gwener, yr ail ar bymtheg o Orffennaf aeth blwyddyn 4 ar wibdaith i Ynys Hir. Gwarchodfa natur yw Ynys Hir sy’n gofalu am anifeiliaid, planhigion a chreaduriaid bach. Yn ystod y dydd cawsom gyfle i ddarganfod creaduriaid yn y goedwig ac efo rhwydi chwilio am greaduriaid yn y pwll dŵr. Roedd pawb wedi mwynhau’r gweithgareddau yn fawr iawn er bod pawb braidd yn wlyb! Ar ôl ychydig o fwyd aethom i Fachynlleth i gael sesiwn hwyl yn y pwll nofio. |
|
DIWRNOD CODI ARIAN I ELUSENNAU |
|
Cafwyd diwrnod o hwyl yn yr ysgol heddiw er mwyn codi arian at ddwy elusen - ymgais Celyn Kenny, cyn-ddisgybl, i ddringo mynydd Kilimanjaro i godi arian i elusen Childreach International, a’r daith gerdded Cerddwn Ymlaen er budd Ambiwlans Awyr Cymru. Daeth disgyblion Blwyddyn 5 a 6 â llond lle o gacennau blasus i’w gwerthu yn y neuadd yn y bore, ac yn y prynhawn bu pob disgybl o’r Derbyn i Flwyddyn 5 yn cystadlu mewn gêmau potes allan ar y cae a drefnwyd yn arbennig ar eu cyfer gan Flwyddyn 6. Diolch yn fawr iawn i’r rhai a fu’n brysur yn paratoi cacennau, i’r Cyngor Ysgol am drefnu’r diwrnod, ac i bawb a gyfrannodd yn hael at ddau achos teilwng iawn. |
|
CYN-DDISGYBL, MEGAN, YN BEICIO O OGLEDD I DDE FFRAINC |
|
Croesawyd Megan Meredith sy'n gyn-ddisgybl yr Ysgol Gymraeg atom i rannu ei phrofiad o feicio dros 1000km ar draws Ffrainc yn ddiweddar. Mae Megan, sydd bellach yn ddisgybl yn Ysgol Penweddig, newydd ddychwelyd o Ffrainc yn dilyn y siwrne bell a gyflawnodd dros ddeng niwrnod. Hyd yma mae Megan wedi llwyddo i godi dros £1,250 o bunnoedd o nawdd tuag at ApêlElain. Diolch Megan am rannu dy brofiad gyda ni, ac am ddangos yr holl luniau diddorol. |
|
CROESAWU DISGYBL O DRELEW, PATAGONIA I'R YSGOL |
|
Cawsom ymwelydd pwysig iawn yn ein gwasanaeth foreol ni heddiw. Mae Mercedes ar ymweliad ag Aberystwyth o'i hysgol yn Nhrelew, Patagonia. Medra Mercedes siarad Sbaeneg a Chymraeg yn rhugl, gan dderbyn gwersi Cymraeg yn ei hysgol yn y Wladfa. Diolch i ti Mercedes am dy gyfraniad i'r gwasanaeth (darllenodd Mercedes weddi hyfryd i ni) ac am ateb cwestiynau diddiwedd y disgyblion hefyd! |
|
MABOLGAMPAU'R YSGOL 2013 |
|
Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (194 llun) |
Cafwyd diwrnod bendigedig o ran tywydd a chystadlu ar gyfer ein Mabolgampau Ysgol eleni. Cystadlodd pawb yn frwd o'r Meithrin i flwyddyn 6, gan redeg, taflu a neidio gyda'r gorau er mwyn ennill marciau i'w gwahanol dai. Yn ennill tlws y Victrix Ludorum eleni, sef y ferch i ennill y mwyaf o bwyntiau i'w thŷ, oedd Madeleine o flwyddyn 5; ac aeth y Victor Ludorum i Siôn o flwyddyn 6. Y tŷ buddugol ar ddiwedd yr holl gystadlu oedd Dewi (208 pwynt), yn ail Caradog (207 pwynt) ac Arthur yn drydydd (194 pwynt). |
COGINIO YM MHENWEDDIG (DOGNI BWYD YR AIL RYFEL BYD) |
|
Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (88 llun) |
Treuliodd disgyblion Blwyddyn 6 brynhawn difyr dydd Iau yn coginio draw yn Ysgol Penweddig. Fel rhan o’n gwaith Hanes y tymor hwn rydym wedi bod yn dysgu am yr Ail Ryfel Byd, ac am ddogni bwyd yn arbennig. Y gamp i’r disgyblion oedd dilyn ryseitiau o’r cyfnod er mwyn creu cacennau a bisgedi. Fe weithiodd pawb yn ddiwyd iawn, ac roedd y cynnyrch gorffenedig yn flasus dros ben. Mae’n amlwg fod sawl cogydd dawnus gyda ni ym Mlwyddyn 6! Diolch yn fawr i Mrs Menna Lewis ac i Ysgol Penweddig am y croeso a’r cymorth. |
ELOISE YN NODDI DAU DEIGR A DAU LLEWPART YR EIRA! |
|
Cerddodd Eloise Bl.2 NJ o’i chartref yn Llandre i’r ysgol fore gwlyb y 14eg o Fehefin. Bu gweddill disgyblion Bl2 NJ yn ei noddi er mwyn iddi godi arian i fabwysiadu llewpart yr eira a theigr sy’n byw ym mynyddoedd yr Himalaya. Mae’r anifeiliaid gwyllt hyn yn brin ac yn dibynnu ar nawdd i ofalu amdanynt gan WWF. Llwyddodd Eloise i gasglu digon o arian i fabwysiadu dau deigr a dau llewpart! Derbyniodd Eloise dau degan meddal i’r dosbarth fel arwydd o werthfawrogiad gan WWF. |
|
DIWRNOD HWYL YR URDD 2013 |
|
|
Yn dilyn seibiant y llynedd, dychwelodd Diwrnod Hwyl yr Urdd i Aberystwyth eleni eto, gan gynnig hwyl go iawn i ddisgyblion Blwyddyn 6! Cafodd y plant hwyl wrth gymryd rhan mewn Zumba, pêl-droed, criced, golff, rygbi, athletau, pêl-dodj, pel-fasged, hoci a mwy! Diolch i'r Urdd unwaith eto am drefnu'r holl weithgareddau amrywiol. |
CRICED 50/50 CENEDLAETHOL |
|
Yn dilyn eu llwyddiant yn nhwrnament griced 50/50 y sir yn ddiweddar, aeth disgyblion Blwyddyn 4 i Gaerdydd ar gyfer cystadlu yn y gystadleuaeth genedlaethol. Llwyddodd y criw i ennill pob un o'r daith gêm gychwynnol, cyn colli yn y gêm gyn-derfynol. Anlwcus blant, ond llongyfarchiadau mawr ar chwarae criced arbennig o dda yn ystod yr haf. |
|
SION YN TORRI'I WALLT GAN GODI DROS £550 I ELUSEN |
|
Diolch yn arbennig i un o ddisgyblion Blwyddyn 6 yr ysgol, Siôn, am godi dros £550 o nawdd i elusen leol. Ers sawl mis bu Siôn yn tyfu'i wallt yn arbennig ar gyfer codi arian i ApêlElain. Yna, ar ôl tyfu ei wallt yn hir, dyma fe'n torri'r cyfan i ffwrdd yn fyr iawn iawn yn neuadd yr ysgol o flaen pawb! Dewr iawn, Siôn!
|
|
GWIBDAITH BLWYDDYN 2 I GANOLFAN Y BARCUD |
|
Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (65 llun) |
Cafodd disgyblion blwyddyn 2 fore dymunol iawn yng Nghanolfan y Barcud, Tregaron yn ddiweddar. Cafodd y merched wisgo pinaffor gwyn ac eistedd ar feinciau tu ol i ddesgiau pren. Roedd yn rhaid i bawb siarad Saesneg yn y dosbarth neu fe fydden nhw’n gorfod gwisgo’r Welsh Not am eu gwddf. Buont yn adio ac yn adrodd tabl 2 gan ddefnyddio abacws pren. Roedd yr athro yn ysgrifennu geiriau Saesneg ar y bwrdd du efo sialc. Cyn ateb cwestiwn roedd yn rhaid i bawb ddweud ‘Please Sir..’ Roedd yn brofiad gwahanol iawn. Profiad hollol wahanol i'n hysgol ni diolch byth! |
« Newyddion Mehefin 2013 / Newyddion Medi 2013 » | |