Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 17/Ion

 

Dydd Llun 20/01/25

  • Dim neges

Dydd Mawrth 21/01/25

  • Cerddorfa ysgol 8:45yb

 

Dydd Mercher 22/01/25

  • Gwasanaeth Ysgol Gyfan
    Clwb yr Urdd i fl.1,3a4
    3:30 - 4:30yp

 

Dydd Iau 23/01/25

  • Nofio i fl.4a6

 

Dydd Gwener 24/01/25

  • Bydd Blwyddyn 6 yn ymuno yn nathliadau Agoriad Swyddogol maes 2G y Ganolfan Hamdden yn ystod y prynhawn
  • 3:30 - 5:00 - Disgo Dwynwen y G.Rh.A yn Neuadd yr Ysgol. Mynediad yn £2 - gweler y poster yn Llythyr y Pennaeth

 

Dydd Sadwrn 25/01/25

  • Dydd Santes Dwynwen - ymunwch â ni yn y Parêd - cwrdd wrth Gloc y Dref am 1:45yp

 

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Mawrth 2013

ARDDANGOSFA WYDDONIAETH PRIFYSGOL ABERYSTWYTH 2013

Treuliodd blynyddoedd 5 a 6 fore diddorol ac addysgiadol iawn mewn Arddangosfa Wyddoniaeth a gynhaliwyd ar gampws y Brifysgol.

Cafodd y disgyblion gyfle i grwydro'r gwahanol weithdai a stondinau gan ddysgu am bob math gwahanol o wyddoniaeth diddorol ac amrywiol.

Diolch yn fawr i'r Brifysgol am ein gwahodd eleni eto, ac i'r holl fyfyrwyr am eu gwaith caled yn apratoi ac am fod mor frwdfrydig gyda'r disgyblion.

 

PENCAMPWYR Y GYNGHRAIR HOCI

Llongyfarchiadau i dîm Hoci'r ‘Mellt’ ar ennill cynghrair hoci ysgolion Aberystwyth.

Bu’r tîm yn chwarae bob nos Wener ar faes amlddefnydd y brifysgol ers mis Medi, a llwyddodd y tîm i fynd drwy’r tymor heb golli gêm. Da iawn chi am eich ymdrech a diolch yn fawr am gynrychioli’r ysgol mor dda.

Mi fydd y tymor newydd yn cychwyn ym mis Medi 2013 ac mae croeso mawr i unrhyw ddisgybl o flynyddoedd 5 a 6 sydd am gymryd rhan.

 

GEORGIA RUTH YN AGOR Y PRYNHAWN COFFI



Gwrandewch ar raglen Georgia Ruth yma

Braf oedd croesawu Georgia Ruth Williams i'r ysgol i agor y Prynhawn Coffi eleni.

Mae Georgia yn gyn-ddisgybl sydd bellach yn gantores ac yn gyflwynydd radio ar BBC Radio Cymru. Wrth agor y digwyddiad, dywedodd Georgia fod clywed Côr yr Ysgol yn canu wedi dod â llif o atgofion yn ôl iddi, gan gynnwys yr amser y dechreuodd ymddiddori mewn cerddoriaeth, a chwarae'r delyn yn arbennig. Diolchodd hefyd i'r ysgol am roi'r iaith Gymraeg iddi, gan mai o deulu di-Gymraeg yr oedd yn hanu.

Dymuna'r ysgol ddiolch yn arbennig hefyd i'r Gymdeithas Rieni ac Athrawon am drefnu digwyddiad llwyddiannus arall, ac i bawb a ddaeth i gefnogi ar y diwrnod.

 

ARBED, AILDDEFNYDDIO, AILGYLCHU!

Cafwyd prynhawn gwych heddiw yng nghwmni Paul ac Adrian - Y Brodyr Gregory - wrth iddyn nhw rannu neges bwysig iawn gyda ni am ailgylchu.

Ein hoff gân ni oedd "Arbed, Ailddefnyddio, Ailgylchu" gan ein bod ni'n gallu ymuno i mewn a chanu gyda nhw. Roedd y cymeriadau gwahanol yn ddoniol iawn hefyd. Gwnaethom ddysgu beth i'w taflu i'r bin a beth y dylwn ailgylchu yn y bagiau clir mae'r Cyngor yn eu rhoi i ni.

Diolch i'r criw i gyd am roi prynhawn llawn hwyl i ni!

 

Y CYNGOR YSGOL YN CYNORTHWYO I ARAFU TRAFFIG GER YR YSGOL

"Bore ma aethon ni draw i Heol Llanbadarn erbyn 9 o'r gloch er mwyn cynorthwyo'r Heddlu i arafu traffig. Roedd gyda ni arwydd a oedd yn dangos cyflymdra'r ceir ar hyd y ffordd, ac os oedden nhw'n teithio'n gyflymach na 30mya roedden nhw'n cael eu tynnu i ochr y ffordd er mwyn i'r plismyn siarad gyda nhw, a bydden ni'n gofyn iddynt pam roeddynt yn gor-yrru yn ymyl ysgol. Ymunodd Penny a Bradley o Ysgol Plascrug gyda ni hefyd, a gwnaethom fwynhau'r profiad yn fawr."
Robert a Sara, Swyddogion y Cyngor Ysgol

 

NIAMH YN BENCAMPWRAIG GYMNASTEG

Llongyfarchiadau gwresog i Niamh o flwyddyn 3 ar ei champ anhygoel dros y penwythnos.

Llwyddodd Niamh i ennill y fedal aur mewn cystadleuaeth Tymbl i ferched 8 mlwydd oed mewn cystadleuaeth genedlaethol a gynhaliwyd yng Ngogledd Cymru.

Braf yw gweld Niamh yn datblygu i fod yn gymnastwraig penigamp - dal ati Niamh.

 

YMWELYDD O'R WLADFA

Braf oedd croesawu Patricia atom i flynyddoedd 5 a 6 heddiw.

Mae Patricia wedi teithio i Aberystwyth o'r Wladfa lle y cafodd ei magu. Cafodd Nain a Thaid Patricia eu geni a'u magu yng ngogledd Cymru cyn ymfudo i'r Wladfa ganol y ganrif ddiwethaf.

Iaith gyntaf Patricia yw Sbaeneg, ond llwydda i siarad Cymraeg yn arbennig o dda hefyd. Diolch Patricia am eich cwmni heddiw, ac am gyflwyniad diddorol dros ben.

 

YMWELIAD GAN YSGOL DEWI SANT, LLANELLI

Yn dilyn eu hymweliad i'r Llyfrgell Genedlaethol, daeth disgyblion Ysgol Dewi Sant Llanelli i ymweld â'r ysgol er mwyn ymuno yn yr hwyl ar brynhawn Gwener gyda disgyblion Blwyddyn 6 yr ysgol.

Chwaraeodd y disgyblion mewn tîmau cymysg ar gyfer cystadlu mewn amrywiaeth o gêmau gan gynnwys rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd.

Ar ôl magu syched, cawsant gyfle i fwynhau gwydraid o sudd gyda bisged, a chyfle i gymdeithasu ymysg ei gilydd. Diolch yn fawr i staff Ysgol Dewi Sant am eu hanrhegion hael i'r ysgol.

 

CASGLU BAGIAU AILGYLCHU BAG2SCHOOL

Am yr eildro eleni, bu bechgyn blwyddyn 6 yn brysur yn helpu llwytho fan gyda bagiau llawn dillad ailgylchu 'Bag2School'.

Mae'r cynllun hwn wedi codi cannoedd o bunnoedd i'r ysgol dros y blynyddoedd diwethaf, a diolch i bawb - yn bennaf i rieni'r ysgol - am gyfrannu'r bagiau llawn esgidiau, blancedi, llenni a dillad ar ein cyfer.

 

RHEDWYR TRAWS GWLAD DYFED

Llongyfarchiadau mawr i griw o ddisgyblion blynyddoedd 3 a 4 a fentrodd i lawr i Gaerfyrddin er mwyn cystadlu yng nghystadleuaeth Traws Gwlad Dyfed eleni.

Llwyddodd y bechgyn i redeg yn arbennig o dda (gan gynnwys Isaac sy'n absennol o'r llun) gyda Rhys o flwyddyn 4 yn gorffen yn ail yn ei ras ef.

Da iawn chi, fechgyn, a diolch am gynrychioli'r ysgol mor dda.

 

EISTEDDFOD YR URDD CYLCH ABERYSTWYTH 2013


Unawd Chwythbrennau Blwyddyn 6 ac iau
1af - Sophie Neal
Unawd Llinynnol Blwyddyn 6 ac iau
1af - Sophie Neal
3ydd - Soffia Nicholas
Unawd Pres Blwyddyn 6 ac iau
2il - Peredur Morgan
Ensemble Offerynnol Blwyddyn 6 ac iau
1af - Grwp Sophie
3ydd - Grwp Gwern
Cerddorfa/Band Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Gwaith Creadigol 3D Blwyddyn 5 a 6
1af - Mali James Williams
Gemwaith Blwyddyn 3 a 4
3ydd - Anna Roberts
Creu Arteffact Blwyddyn 3 a 4 (Grwp)
1af - Grwp Blwyddyn 3
Print Lliw Blwyddyn 2 ac iau
2il - Tomos Lewis Evans
Cyfres o Brintiau Lliw Blwyddyn 2 ac iau
3ydd - Steffan Nicholas
Gwehyddu Blwyddyn 3 a 4
2il - Grwp Blwyddyn 3
Gemwaith Blwyddyn 5 a 6
2il - Anna Parry Jones

Llongyfarchiadau i bawb a gymrodd ran ac a gafodd llwyddiant yn yr Eisteddfod Gylch eleni. Pob hwyl iddynt yn yr Eisteddfod Rhanbarth.

Canlyniadau:
Unawd Blwyddyn 2 ac iau
1af - Lili Davies
Unawd Blwyddyn 3 a 4
1af - Llŷr Eirug
2il - Cadi Williams
Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 3 a 4
1af - Llŷr Eirug
2il - Cadi Williams
Deuawd Blwyddyn 6 ac iau
2il - Rhianedd a Ffion
Llefaru Ungiol Blwyddyn 2 ac iau
1af - Tomos Lewis Evans
Llefaru Ungiol Blwyddyn 3 a 4
1af - Cadi Williams
Llefaru Unigol Blwyddyn 5 a 6
2il - Iestyn Llŷr Thomas
Cyflwyno Alaw Werin Unigol
2il - Cadi Williams
Grŵp Llefaru Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Ymgom Blwyddyn 6 ac iau
3ydd - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Côr Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Dawns Unigol Blwyddyn 6 ac iau
1af - Nicole Michael Pugh
2il - Sioned Wallwork
3ydd - Lili Gwen O'Brien
Grwp Dawnsio Creadigol
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Grwp Dawnsio Cyfrwng Cymysg
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth

 

PARÊD DYDD GŴYL DEWI



Cliciwch uchod i wylio'r fideo
Cliciwch yma i weld y casgliad llawn o luniau (61 llun) 

Am y tro cyntaf erioed, trefnwyd parêd yn Aberystwyth i ddathlu diwrnod ein nawddsant ni yma yng Nghymru. Cafodd holl blant Cyfnod Allweddol 2 brofiad bythgofiadwy wrth gymryd rhan yn y parêd, gan gerdded o gloc y dref i lawr at y prom ynghanol môr o faneri Cymru a Dewi Sant. Yna, cawsant yr anrhydedd o ganu o flaen torf fawr ger y bandstand. Bu'n brofiad arbennig iawn i'r plant gael bod yn rhan o holl fwrlwm yr achlysur hanesyddol hwn.

 

TWRNAMENT RYGBI'R URDD



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn o luniau (47 llun)

Llongyfarchiadau i dim rygbi'r ysgol ar gystadlu mor dda yn nhwrnament rygbi'r Urdd eleni.

Llwyddodd y bechgyn i ennill pob un o'r bedair gem yn y grwp, cyn colli yn y gem gyn-derfynol.

Da iawn chi, fechgyn, a phob hwyl yn y twrnament nesaf.

 

 

« Newyddion Chwefror 2013 / Newyddion Ebrill 2013 »