Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 06/Medi

 

Dydd Llun 09/09/24

  • Anfonwyd Llythyr y Pennaeth ar e-bost ddydd Gwener. Os na dderbynioch chi'r e-bost cysylltwch â ni er mwyn i ni eich hychwanegu i'r system

Dydd Mawrth 10/09/24

  • Cofiwch ddychwelyd y taflenni data a'r llythyr caniatâd at yr athrawon dosbarth cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda

 

Dydd Mercher 11/09/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan

 

Dydd Iau 12/09/24

  • Bydd nofio yn cychwyn i fl.3-6 ddiwedd mis Medi

 

Dydd Gwener 13/09/24

  • Dim neges

 

LAWRLWYTHIADAU

Newyddion

Hydref 2013

PENCAMPWYR RYGBI CEREDIGION!

Llongyfarchiadau mawr i dîm rygbi'r ysgol ar eu llwyddiant arbennig yn nhwrnament rygbi'r Urdd, Rhanbarth Ceredigion yn ddiweddar.

Llwyddodd yr ysgol i fynd drwodd i'r rowndiau terfynol gan chwarae gêm derfynol agos iawn iawn, gyda'r tîm yn llwyddo i sgorio cais yn y funud olaf er mwyn cipio'r bencampwriaeth.

Pob hwyl iddynt yn y rownd genedlaethol.

 

GORSAF FLASU I HYBU BWYTA'N IACH

Mae’r ysgol yn ddiolchgar iawn i Brif Gogyddes yr ysgol sef Mrs Hefina Ellis a Jill Jones o’r Gwasanaeth Arlwyo am baratoi danteithion hyfryd yn ystod y prynhawn agored.

Roedd y cyri yn flasus ac roedd y pitsa a’r cacennau yn boblogaidd iawn.

 

DRAMA YM MLWYDDYN 3

Newyddion i ddilyn

 

GWASANAETH DIOLCHGARWCH GYDA'R PARCH. EIFION ROBERTS

Diolch yn fawr i'r Parchedig Eifion Roberts am ei gwmni a'i neges bwrpasol yng ngwasaneth diolchgarwch yr ysgol bore ma.

Roedd yn wasanaeth ychydig yn wahanol wrth inni ddiolch am y cynhaeaf. Rhannodd digyblion blwyddyn 6 neges gyda gweddill yr ysgol yn gyntaf, cyn i Mr Roberts ein hannerch gyda'i neges yntau.

Diolchwn iddo am ei gwmni unwaith yn rhagor, ac edychwn ymlaen i'w groesawu i'r Ysgol Gymraeg eto'n y dyfodol.

 

HYFFORDDIANT HOCI GYDA'R URDD

Cafodd disgyblion blwyddyn 6 gyfle i fireinio eu sgiliau pêl-rwyd yr wythnos hon wrth i hyfforddwyr o'r Urdd ymweld i rannu eu arbenigedd gyda ni.

Diolch yn arbennig i Helen a Lowri am eu cwmni yn ystod y prynhawn, ac am ddysgu nifer o reolau a sgiliau newydd i'r plant.

Edrychwn ymlaen i'ch croesawu eto y tymor nesaf.

 

CASGLU BAGIAU 'bag2school' AR RAN Y G.RH.A

Disgyblion Blwyddyn 6 yn helpu llwytho'r fan gyda'r bagiau a gasglwyd gan rieni'r ysgol. Diolch i bawb am eu cyfraniadau - mae'r dillad, esgidiau ayyb yn cael eu hanfon i'r cwmni a bydd yr ysgol yn derbyn £500 am bob tunnell a gasglwyd.

 

Cliciwch yma i ddysgu mwy am y cynllun

 

BLWYDDYN 6 I'R LLYFRGELL GENEDLAETHOL

Heddiw aeth y ddau ddosbarth Blwyddyn 6 ar ymweliad i'r Llyfrgell Genedlaethol i ddysgu mwy am ein thema 'Y Filltir Sgwâr' y tymor hwn.

Roedd y Llyfrgell yn llawn gwybodaeth diddorol iawn. Cafwyd cyfle i edrych ar hen fapiau o Gymru gan ganolbwyntio ar Aberystwyth yn arbennig, yn ogystal â gweld lluniau o'n Milltir Sgwâr dros y ganrif a hanner ddiwethaf. Roedd y daith o amgylch hefyd yn hwyl, yn enwedig yr holl silffoedd a oedd yn pwyso pum tunnell yr un ac a oedd yn medru symud wrth droi olwyn ag un llaw! Waw!

 

DIWRNOD T.LLEW JONES - BETHAN GWANAS YN YMWELD

Ar ddydd Gwener Hydref 11eg, sef Diwrnod T.Llew Jones, bu disgyblion Blwyddyn 6 yn ffodus iawn o gael ymweliad gan yr awdures Bethan Gwanas, enillydd diweddar Gwobr Goffa T.Llew Jones. Cawsant fwynhad mawr o glywed Bethan yn darllen darnau o benodau cyntaf ei nofel arfaethedig, sy’n seiliedig ar hanes Gwylliaid Cochion Mawddwy, cyn mynd ati i gynllunio eu clawr eu hunain ar gyfer y nofel. Bu’n fore difyr iawn ac yn brofiad gwerthfawr i’r disgyblion  – diolch yn fawr i’r Cyngor Llyfrau am drefnu’r ymweliad ac i Bethan Gwanas am gynnal gweithdy mor hwyliog a diddorol a daniodd ddychymyg y disgyblion.

 

TRAWS GWLAD CYLCH ABERYSTWYTH



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (39 llun)

Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn y rasys Traws Gwlad a gynhaliwyd ar Gaeau'r Ficerdy eleni.

Cymerodd dros 100 o blant ran yn y rasys, gyda chryn dipyn yn cael llwyddiant hefyd.

Bydd y deg cyntaf o bob ras yn mynd ymlaen i gystadlu yn Ras Traws Gwlad Rhanbarth yr Urdd fis Mai nesaf. Digon o amser i ymarfer felly!

 

HANNAH YN BENCAMPWRAIG CYFEIRIANNU CYMRU!

Llongyfarchiadau gwresog i Hannah o flwyddyn 5 ar ennill cystadleuaeth dros y penwythnos sy'n ei gwneud hi'n bencampwraig cyfeiriannu Cymru!

Enillodd Hannah yn y categori dan 10 oed tra'n cystadlu yn Ynys Mon.

Bu'n rhaid iddi wibio o gwmpas coedwig gan ddefnyddio'i sgiliau darllen map gwych.

Da iawn ti, Hannah. Tipyn o gamp yn wir!

 

Y PWYLLGOR PIN MEWN PAPUR

Mae criw o ddisgyblion Blynyddoedd 5 a 6 yn gweithio’n galed er mwyn gwella ymddangosiad prif fynedfa’r ysgol.

Fel rhan o’r gwaith bu cynrychiolwyr o’r Pwyllgor yn danfon e-bost i Ganolfan Arddio Newmans ar y Waun.

Dymuna’r ysgol ddiolch iddynt am ymateb yn bositif ac am gyfrannu planhigion am bris gostyngol.

 

DIWRNOD RHYNGWLADOL 2013



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (180 llun)

Cynhaliwyd ein Diwrnod Rhyngwladol ar y 4ydd o Hydref eleni i ddathlu gwahanol ddiwylliannau a thraddodiadau gwledydd ein byd.
Astudiodd bob blwyddyn gwlad wahanol, gyda'r plant wedi'u gwisgo yn nillad traddodiadol y gwledydd hynny - India, Yr Ariannin, Ffrainc, Brasil, Sbaen, Yr Eidal, Yr Alban ac wrth gwrs, Cymru.
Diolch i bawb am eu hymdrech i wneud y diwrnod yn un llwyddiannus - i'r plant am eu gwisgoedd hardd, i'r staff am drefnu gweithgareddau difyr, i'r GRhA am eu cefnogaeth barhaus, i ddisgyblion Penweddig am eu harddangosfeydd yn y Neuadd, i fusnesau'r dref am gyfrannu bwydydd gwahanol ac i rieni a theuluoedd y disgyblion am eu cwmni yn yr ysgol ddiwedd y prynhawn.

 

FFILMIO AR GYFER DECHRAU CANU DECHRAU CANMOL

 hithau ond yn ddechrau mis Hydref, rhyfedd iawn oedd gweld coeden Nadolig a llond lle o blant wedi'u gwisgo'n gynnes, gynnes gyda sgarffiau ac hetiau yn Eglwys Llanbadarn neithiwr!

Beth oedd mlaen tybed?

Wel ffilmio ar gyfer Dechrau Canu Dechrau Canmol wrth gwrs! Edrychwn ymlaen i weld y rhaglen yn ystod mis Rhagfyr.

 

LLWYDDIANT MEWN NOFIO

Llongyfarchiadau i'r chwech yn y llun ar eu llwyddiant mewn gala nofio dros y penwythnos.

 

 

« Newyddion Medi / Newyddion Tachwedd »