Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 04/Hydref

 

Dydd Llun 07/10/24

  • Bydd ffurflen archebu lluniau unigolion a theuluoedd ym mag eich plant heddiw

Dydd Mawrth 08/10/24

  • P.C Hannah ym mlwyddyn 6
  • Ymarfer rygbi tag ar gyfer merched bl.5a6 3:30—4:30yp

 

Dydd Mercher 09/10/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan
  • Clwb yr Urdd i fl.2,4a6
    3:30-4:30yp - cofiwch fod angen bod yn aelod o'r Urdd ar gyfer hyn

 

Dydd Iau 10/10/24

  • Nofio i fl.4 a 6
  • * DOES DIM GEMAU AR GYFER YR YSGOL GYRAEG WYTHNOS HON* Gêmau hoci i fl.6 - tri thîm o'r ysgol yn chwarae'n wythnosol - gweld amserlen

 

Dydd Gwener 11/10/24

  • Diwrnod Rhyngwladol yr ysgol

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Tachwedd 2011

CYSYLLTIADAU RHYNGLWADOL

Mae Miss Llwyd newydd ddychwelyd o gynhadledd ryngwladol yn Nhwrci a drefnwyd gan gynllun Comenius yr Undeb Ewropeaidd. Yn ystod y gynhadledd, cafodd gyfle i gwrdd ag athrawon o 14 o wledydd Ewropeaidd eraill, yn ogystal â mynychu seminarau ar ddysgu digidol ac amlieithrwydd. Prif bwrpas y gynhadledd oedd canfod partneriaid o ysgolion ar draws Ewrop er mwyn gwneud cais i lunio prosiect a fydd yn gyfle i ddisgyblion y gwahanol wledydd gyfathrebu’n rheolaidd â’i gilydd mewn gwahanol ffyrdd. Os bydd y cais yn llwyddiannus, bydd yr Ysgol Gymraeg yn cydweithio ag ysgolion o Ddenmarc, Y Ffindir, Iwerddon, Twrci a’r Eidal. Tra yn Nhwrci, cafodd Miss Llwyd gyfle i ymweld ag ysgol ar gyfer disgyblion rhwng 6 ac 16 oed yn ninas Alanya yn ne’r wlad.

 

PANTOMEIM 'MADOG' YN THEATR Y WERIN

» Cast y panto 'Madog'

 

Ar yr 22ain o Dachwedd aeth bron i dri chant o blant o flwyddyn 1-6 i Theatr y Werin yng Nghanolfan y Celfyddydau i fwynhau y panotmeim blynyddol. Cafwyd gwledd o ddawnsio ac actio, yn ogystal â chaneuon penigamp! Roedd pawb wrth eu boddau gyda chymeriad Idishido, ac yn falch o weld fod popeth wedi troi mâs yn iawn yn y diwedd, gyda phawb - y dynion drwg a'r da, yn ffrindiau! Diolch byth am hynny!

 

TAITH Y DOSBARTHIADAU DERBYN I 'PETS AT HOME'

 

» Cylch lluniau yr ymweliad i 'Pets at Home'

 

Yn Pets at Home, cawsom lawer iawn o hwyl yno yn edrych ar yr holl anifeiliaid. Gwelsom nifer o bysgod lliwgar, cwningod, moch cwta, llygod ac roedd hyd yn oed madfall fawr yno hefyd! Gwnaethom dreulio’r amser yn edrych ar wahanol fwydydd ac ar deganau amrywiol i ddiddori anifeiliaid anwes. Yna, daeth yn amser inni adael y siop a cherdded yn ôl i’r ysgol.  Roedd y daith yn ôl yr un mor gyffrous gan ein bod yn pasio holl atyniadau’r ffair!

 

£720.33 I BLANT MEWN ANGEN

 

» Cylch lluniau gweithgareddau Plant Mewn Angen

 

"Heddiw ar ddiwrnod Plant Mewn Angen daeth pawb i'r ysgol wedi eu gwisgo mewn gwisg ffansi hyfryd! Cyfrannodd bawb £1 am wneud, a'n tro ni fel disgyblion Blwyddyn 6 oedd hi i drefnu gemau a stondinau yn y neuadd ar gyfer gweddill yr ysgol. Cafodd bawb tro i chwarae'r gemau oedd yn amrywio o enwi'r tedi i ddyfalu enwau lleoedd. Roedd yno nifer o stondinau cacennau hyfryd hefyd! Diolch i bawb am ddod ag arian a chael hwyl wrth gyfrannu eu harian poced!"
Siwan Fflur, Dosbarth 6J

 

FFOTO ABER - CLOD I DRI DISGYBL

» Mali, Brooklyn a Mari gyda'u ffotograffau

 

Llongyfarchiadau cynnes i dri disgybl a brofodd llwyddiant yn y gystadleuaeth FfotoAber eleni. Cafodd Brooklyn 2il am ei lun campus ef o donnau'n taro'n erbyn y prom, gyda Mali a Mari yn derbyn cymeradwyaeth uchel am eu lluniau hwythau. Da iawn chi'ch tri!

 

PARTI PEN-BLWYDD BEDWYR A BLODWEN

» Bedwyr a Blodwen yn dathlu'u penblwydd yn 6 blwydd oed.

 

“Heddiw rydym ni wedi bod yn dathlu pen-blwydd Bedwyr a Blodwen yn 6oed. Rydym wedi bod yn brysur yn coginio cacennau a jeli coch ar gyfer y parti. Cawsom lawer o hwyl yn bwyta, dawnsio a chanu yn y parti.”
Mair, Dosbarth 1R a
Ryan, Dosbarth 1W

 

LLWYDDIANT YN YR ŴYL CERDD DANT

» Mae'r ysgol yn ymfalchio yn llwyddiant disgyblion yr ysgol yn yr Ŵyl Cerdd Dant eleni


Canlyniadau


1af - Parti Alaw Werin
1af - Unawd Alaw Werin - Beca
3ydd - Unawd Alaw Werin - Anest

2il - Parti Cerdd Dant
2il - Unawd Cerdd Dant - Beca

 

 

GALA NOFIO'R URDD

Bydd yr enillwyr ym mhob categori yn mynd ymlaen i
gynrychioli Ceredigion yn rownd derfynol Cymru yng
Ngala Nofio Cenedlaethol yr Urdd ar 28ain o Ionawr

» Llongyfarchiadau i bawb a gystadlodd yng nghystadleuaeth rhanbarthol Gala Nofio'r Urdd eleni.

 

Canlyniadau (3 uchaf)
Blwyddyn 3 a 4
1af - Rhys Evans - Rhydd
1af - Lisa Davies - Cefn
1af - Ras Gyfnewid Rhydd Bechgyn
1af - Ras Gyfnewid Rhydd Merched
1af - Ras Gyfnewid Cymysg Bechgyn
1af - Ras Gyfnewid Cymysg Merched
2il - Lisa Davies - Rhydd
2il - Iestyn Llŷr Thomas - Cefn
2il - Madeleine Grice Woods - Cefn

Blwyddyn 5 a 6

1af - Maeve Courtier-Lilley - Cefn
1af - Ras Gyfnewid Rhydd Merched
1af - Ras Gyfnewid Cymysg Merched
2il - Ras Gyfnewid Cymysg Bechgyn
2il - Maeve Courtier-Lilley - Pili Pala
3ydd - Sioned Wallwork - Pili Pala
3ydd - Ras Gyfnewid Rhydd Bechgyn
3ydd - Leire Dafis - Rhydd

 

FFAIR LYFRAU Y GYMDEITHAS RIENI AC ATHRAWON YN CODI £668!

 

» Cylch lluniau i ddangos holl gyffro gwahanol ddigwyddiadau'r nos

"Eleni eto cafwyd noson lwyddiannus iawn. Braf oedd gweld cymaint yn bresennol a'r ysgol yn llawn bwrlwm a gweithgareddau. Rwyf yn ddiolchgar i bawb am eu cefnogaeth ac yn arbennig felly aelodau y Gymdeithas Rieni am eu gwaith caled yn trefnu ac yn cynorthwyo ar y noson."
Eifion Roberts, Cadeirydd y GRhA

 

MAE 124 GWARFAG AR EU FFORDD I KENYA!

I ble fydd y bagiau'n mynd nesaf?

Cliciwch yma i wylio'r fideo ac i ddysgu mwy am y prosiect

 

» Rhai o ddisgyblion blwyddyn 6 a fu'n cymryd rhan yn y Gwasanaeth Dyngarol yn trosglwyddo'r bagiau i Mr Geraint Thomas, cynrychiolydd y Rotari

 

"Roedd cerdded i mewn i'r gwasanaeth y bore 'ma yn wahanol iawn i'r arfer gan fod bagiau lond y lle! Yn ystod yr wythnosau diwethaf rydym wedi bod yn caglu offer ar gyfer eu rhoi yn y gwarfagiau - pethau fel llyfrau ysgrifennu, cas pensiliau, creionau, dillad, sebon, brwsys dannedd, past dannedd, tywelion ac ati, a bore 'ma roedd 124 o fagiau yn barod i'w hanfon i Kenya. Mae pawb yn yr ysgol yn hapus iawn ein bod wedi llwyddo i gasglu gymaint, gan fydd y bagiau yn siwr o roi gwên ar wynebau sawl un llai ffodus na ni rhwng nawr a'r Nadolig."
Bethan, Dosbarth 6J

 

GWEITHDY EFFAITH ALCOHOL A CHYFFURIAU BLWYDDYN 6

» Prosiect D.A.P.S

 

"Heddiw, buodd Thea o ‘Prism’ yn cynnal gweithdy gyda dosbarth 6Ll drwy’r dydd. Gwasanaeth arbenigol alcohol a chyffuriau i bobl ifanc yw ‘Prism’, a phwrpas y gweithdy oedd ein haddysgu ni am beryglon alcohol, cyffuriau a sylweddau. Buom yn gwneud llawer o waith trafod yn ystod y dydd a thipyn o waith ymarferol hefyd. Roedd yn ddiddorol ac yn bwysig iawn clywed am effeithiau negyddol alcohol, cyffuriau a sylweddau megis toddyddion ar bobl ifanc ac oedolion. Ar ddiwedd y dydd, cawsom gyfle i wisgo ‘gogls cwrw’ er mwyn gweld yr effaith mae yfed gormod o alcohol yn ei gael ar bobl. Roedd yn rhaid i ni geisio cerdded o gwmpas côns heb daro i mewn iddyn nhw – tasg anodd iawn!"

Caredig, Dosbarth 6LL

« Newyddion Hydref 2011 / Newyddion Rhagfyr 2011 »