Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 15/Tach

 

Dydd Llun 18/11/24

  • Cofiwch wirio eich cyfrif ParentPay wythnos hon er mwyn gweld eitemau presennol e.e cardiau Nadolig, Panto ...
  • Diolch am eich cyfraniadau tuag at Blant Mewn Angen - llwyddwyd i godi £321.42

Dydd Mawrth 19/11/24

  • Dim neges

 

Dydd Mercher 20/11/24

  • Gwasanaeth Ysgol Gyfan - Agor y Llyfr
  • Clwb yr Urdd i fl.1,3a5
    3:30-4:30yp - cofiwch fod angen bod yn aelod o'r Urdd ar gyfer hyn

 

Dydd Iau 21/11/24

 

Dydd Gwener 22/11/24

  • Cerddorfa 8:30yb

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Hydref 2012

31 O BLANT YR YSGOL YN DERBYN TYSTYSGRIFAU 'Y LAB STRAEON'

Braf oedd croesawu Mrs Delyth Huws i wasanaeth yr ysgol heddiw.

Cyn yr haf daeth Delyth, sy'n gweithio i Lyfrgell y Dref, atom i esbonio'r cynllun Lab Straeon a oedd yn galluogi plant i fenthyg llyfrau yn wythnosol dros wyliau'r haf er mwyn derbyn gwobrau. Cymerodd 116 o blant yr ysgol ran yn ystod y gwyliau, gyda 31 ohonynt wedi cyflawni'r chwe wythnos llawn. Derbyniodd y 31 dystysgrif a medal gan Mrs Delyth Huws - da iawn chi i gyd!

 

YMGYRCH DDYNGAROL Y CYNGOR YSGOL ELENI

Yn ystod ein gwasanaeth ysgol gyfan heddiw, cyflwynodd swyddogion y Cyngor Ysgol neges i weddill plant yr ysgol yn egluro'r ymgyrch ddyngarol y byddwn yn ei chefnogi eleni. Enw'r ymgyrch yw Hillcrest, sef elusen sy'n cynorthwyo plant yn Ne Affrica. Mae un o deuluoedd yr ysgol - y Pitchers - allan yno ar y funud yn helpu gyda'r ymgyrch. Gobeithiwn y bydd modd i bawb gyfrannu at yr ymgyrch, ac edrychwn ymlaen at wahodd Mrs Pitcher i'r ysgol fis nesaf i dderbyn siec ar ran Hillcrest.

 

GWERSI GOLFF YM MLWYDDYN 6

"Heddiw, rhwng 12.30 ac 1.30, fe fuom yn dysgu sut i chwarae golff gyda Jack Roberts a Gwilym Williams. Y dechneg y buom ni'n dysgu heddiw oedd pytio. Yn gyntaf dangosodd Jack sut i fwrw'r bêl yn gywir gyda pytiwr - roedd hi'n anodd iawn i gael y bêl i ganol y disgiau targed! Wedyn, fe gawsom ni ein rhannu mewn i bedwar grwp, i drio bwrw côn o wahanol bellter. Y targed cyntaf oedd tua 1 metr, wedyn fe aeth e'n ddau fetr, a gan fod amser yn brin, fe aethom yn syth i tua 15 metr! Cawsom ni amser gwych a dwi'n siwr y bydd llawer yn dechrau mynd i'r clwb lleol i ymarfer!"
Peredur, Dosbarth 6J

 

CASGLU BAGIAU 'bag2school' AR RAN Y G.RH.A

Disgyblion Blwyddyn 6 yn helpu llwytho'r fan gyda'r bagiau a gasglwyd gan rieni'r ysgol. Diolch i bawb am eu cyfraniadau - mae'r dillad, esgidiau ayyb yn cael eu hanfon i'r cwmni a bydd yr ysgol yn derbyn £500 am bob tunnell a gasglwyd.

 

Cliciwch yma i ddysgu mwy am y cynllun

 

PROSIECT NEWYDD COMENIUS YN CYCHWYN

Mae tri o staff yr ysgol newydd ddychwelyd o ymweliad rhyngwladol â Denmarc. Pwrpas y daith oedd cychwyn ar brosiect Comenius a fydd yn para dwy flynedd. Roedd athrawon o'r chwe gwlad Ewropeaidd sydd ynghlwm â'r prosiect yn cyfarfod am y tro cyntaf yn Nenmarc er mwyn trafod syniadau a rhannu arferion addysgu a dysgu. Y gwledydd sy'n rhan o'r prosiect gyda ni yw Denmarc, Yr Eidal, Y Ffindir, Twrci a Gweriniaeth Iwerddon. Bydd plant yr ysgolion yn cydweithio ar y prosiect am y ddwy flynedd nesaf, gyda'r dasg gyntaf wedi'i gosod yn barod - creu logo swyddogol i'r prosiect.

 

PARAFEDDYG YN YMWELD Â CHLWB YR URDD



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (21 llun)

Cawsom lawer o hwyl yn dysgu am waith Mam Thomas Mansel.

Parafeddyg yw hi yn gweithio’n galed i helpu pobl.

Roedd hi’n hwyl cael gwisgo ei dillad ac ymarfer rhoi rhwymun ar ein gilydd.

Roedd seiren yr ambiwlans yn swnllyd iawn hefyd!

 

BLWYDDYN 5 YNG NGHASTELL HENLLYS

"Tua naw o’r gloch ar ddydd Mercher, yr ail ar bymtheg o Hydref, gadawodd bws llawn o blant blwyddyn 5 yr Ysgol Gymraeg ar drip i Gastell Henllys. Daeth Celtes o’r enw Merin i’n cyfarfod ni oddi ar y bws.  Aeth Merin â ni at garreg amser ac aeth hi a ni nôl i Oes Haearn Y Celtiaid.  Bum yn wal t ŷ crwn, gan wehyddu pren yn gyntaf, ac yna'i orchuddio gyda dwb – sef cymysgedd ychyfi o glai, mwd, gwaed mochyn, gwallt ceffyl a dom!  Bum hefyd yn y tŷ crwn coginio yn malu ceirch i greu blawd er mwyn coginio bara.  Roedd Merin yn coginio’r bara ar y platiau haearn ar y tân agored.  Fe wnaeth Merin hefyd peintio ein hwynebau gyda glaslys. Roedden ni'n edrych yn wahanol iawn!"
Tomos, Dosbarth 5L

 

BLWYDDYN 6 YN AMGUEDDFA WLÂN CYMRU



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (236 llun)

Cafwyd ymweliad diddorol iawn eleni eto wrth i ddisgyblion blwyddyn 6 ymweld ag Amgueddfa Wlân Cymru yn Nrefach Felindre.

Gyda chymorth y peiriannau a'n tywysydd, Non, gwelwyd sut y mae gwlân yn troi o fod ar gefn y ddafad i fod yn ddilledyn y gallwn ei wisgo.

Cafodd pawb gyfle hefyd i arbrofi gyda gwlân, gan greu darn o ffelt a'i addurno gyda gwahanol liwiau a phatrymau - diolch i Joanna am arwain y sesiwn honno gyda phawb.

Yr hwyl mwyaf wrth gwrs oedd cael gwisgo gwahanol gotiau a siolau - roedden ni'n edrych yn cŵl iawn!

 

JAMBORI YR URDD

Cafwyd llawer o hwyl yn Ysgol Penweddig yn ddiweddar wrth i ddisgyblion blynyddoedd 3 - 6 fwynhau Jambori yr Urdd yng nghwmni Martyn Geraint. Bu'r disgyblion (a'r athrawon) yn canu a dawnsio yn ddi-stop am bron i awr a hanner! Am sbort! Diolch i'r Urdd ac i Anwen Eleri am drefnu.

 

HYFFORDDIANT D.A.P.S - YMWYBYDDIAETH CYFFURIAU MEWN YSGOLION CYNRADD

I godi ymwybyddiaeth disgyblion hŷn yr ysgol o gyffuriau a'u heffaith ar y corff daeth Thea atom i dreulio deuddydd yng nghwmni blwyddyn 6. Cafodd y disgyblion gyfle i drafod llawer am effaith alcohol a chyffuriau ar y corff, gan wneud peth gwaith ymarferol hefyd. Diolch i Thea am sesiwn ddiddorol a phwysig dros ben.

 

CWBLHAU'R ESTYNIAD

Bellach mae'r estyniad wedi ei chwblhau, ac ardal casglu'r plant ger y giât wedi'i ehangu yn ogystal. Diolch i gwmni adeiladu RL Davies rydym yn bles iawn gyda'r adeilad newydd - estyniad i'r neuadd wreiddiol sy'n rhoi'r gallu inni gael un neuadd fawr ar gyfer gwasanaethau ysgol gyfan ac eisteddfod ysgol ayyb, ond hefyd medrwn ei rhannu'n ddwy neuadd llai ar gyfer cynnal gwersi cerdd a chwaraeon ar yr un pryd er enghraifft. Mae'r ardal eang tu allan i giatiau'r ysgol yn ymateb i sylwadau rhieni yn yr holiadur diwedd blwyddyn fod angen ardal mwy diogel ar gyfer casglu plant ar ddiwedd y dydd.

 

DIWRNOD RHYNGWLADOL 2012



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (153 llun)

Eleni eto cynhaliwyd Diwrnod Rhyngwladol i ddathlu gwahanol ddiwylliannau a thraddodiadau gwledydd ein byd.
Astudiodd bob blwyddyn gwlad wahanol, gyda'r plant wedi'u gwisgo yn nillad traddodiadol y gwledydd hynny - India, Yr Ariannin, Ffrainc, Mecsico, Sbaen, Yr Eidal, Yr Alban ac wrth gwrs, Cymru.
Diolch i bawb am eu hymdrech i wneud y diwrnod yn un llwyddiannus - i'r plant am eu gwisgoedd hardd, i'r staff am drefnu gweithgareddau difyr, i ddisgyblion Penweddig am eu harddangosfeydd yn y Neuadd, i fusnesau'r dref am gyfrannu bwydydd gwahanol ac i rieni a theuluoedd y disgyblion am eu cwmni yn yr ysgol ddiwedd y prynhawn.

 

BLWYDDYN 4 YN YMWELD Â CHANOLFAN TECHNOLEG AMGEN



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (147 llun)

"Heddiw aethom ni i Ganolfan Technoleg Amgen sydd tu allan i Fachynlleth. Gadawodd y bws yr ysgol am naw o'r gloch, ac erbyn deg o'r gloch roedden ni'n barod ar gyfer diwrnod llawn hwyl. Yn gyntaf, aethon ni ar drenau (o'r enw Martha ac Ani) sy'n cael eu pweru gan ddŵr, yna aethon ni drwy dwneli gwahaddod a gweld creaduriaid bach oedd wedi'u chwyddo ac oedd yn byw yno yn y twneli. Cawsom berson i'n tywys ni o amgylch y Ganolfan gan ddangos nifer o wahanol fathau o dechnoleg amgen gan gynnwys paneli solar, melinau gwynt a pheiriant creu tonnau - roedd yn ddiddorol iawn."
Soffia ac Osian, Blwyddyn 4

 

BLWYDDYN 6 YN LLYFRGELL Y DREF



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (21 llun)

Bore ma bu disgyblion Blwyddyn 6 yn Llyfrgell y Dref yn dewis llyfrau i'w benthyg ar gyfer eu darllen yn ystod y mis nesaf.
Bob mis mi fydd Blwyddyn 6 yn ymweld â'r llyfrgell er mwyn gwneud defnydd o'r adnoddau gwych sydd ar gael, ac er mwyn ehangu ar y dewis o lyfrau sydd ar gael iddynt. Braf oedd gweld pob un disgybl yn aelod llawn o'r llyfrgell, gan ddefnyddio'u cardiau bach unigol i fenthyg a dychwelyd llyfrau. Maent yn edrych ymlaen at yr ymweliad nesaf ym mis Tachwedd yn barod!

 

CYSTADLEUAETH GALA ADASC

Llongyfarchiadau i griw o blant yr ysgol a fu'n llwyddiannus iawn dros y penwythnos yng nghystadleuaeth gala nofio Adasc a gynhaliwyd yn Aberystwyth.

 

 

« Newyddion Medi 2012 / Newyddion Tachwedd 2012 »