Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 24/Mawrth

 

Dydd Llun 27/03/23

  • Pythefnos 'Stroliwch a roliwch' Gweld poster
  • Llongyfarchiadau i bawb a gystadlodd yn yr Eisteddfod Rhanbarth ddydd Sadwrn - ry'n ni'n falch iawn o berfformiad pob un ohonoch
  • Noson Agored 1 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn gyda'r athrawon dosbarth (system apwyntiadau eisoes wedi eu danfon ar ebost bythefnos yn ôl)

Dydd Mawrth 28/03/23

  • Noson Agored 2

 

Dydd Mercher 29/03/23

  • Does dim Clwb yr Urdd yn ystod yr hanner tymor hwn. Bydd yn ail-gychwyn yn nhymor yr haf
  • Does dim ymarfer Cân Actol heno - bydd yr ymarferion yn parhau ar ôl y gwyliau

 

Dydd Iau 30/03/23

  • Nofio bl.6 - bore
    Nofio bl.3 - prynhawn
  • Ymarfer pêl-droed i fechgyn a merched bl.5a6 3:30 - 4:30yp
  • Ysgol yn cau ar gyfer Gwyliau'r Pasg am 3:30yp

 

Dydd Gwener 31/03/23

  • Diwrnod H.M.S - ysgol ar gau i blant

 

Llyfryn gan Dîm Cefnogi'r Gymraeg

 

LAWRLWYTHIADAU

Beicio o Aber i Lundain

Awst 2012

ER COF AM ANGHARAD MAIR WILLIAMS

 

Angharad

Ar ddiwedd mis Tachwedd 2011, bu farw Angharad yn 14 mlwydd oed. Roedd hi'n gyfnod trist iawn i staff a disgyblion yr ysgol wrth gofio am gyn-ddisgybl hoffus a llawn bywyd er gwaethaf ei chyflwr meddygol a'r anawsterau a'i hwynebodd yn ddyddiol. Brwydrodd Angharad yn ddewr iawn gyda'i chyflwr EB drwy gydol ei bywyd, gan deithio i Ysbyty Great Ormond Street er mwyn derbyn triniaeth yn bythefnosol yn ystod ei blwyddyn olaf.

Y daith

Er mwyn diolch i'r ysbyty hwnnw ac mewn dathliad o fywyd Angharad rydym fel staff a chyfeillion Yr Ysgol Gymraeg wedi penderfynu beicio o'r Ysgol Gymraeg i Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain yn ystod gwyliau'r haf eleni. Taith sydd yn 220 milltir o hyd. Bwriad y daith yw i gyflwyno siec i'r ysbyty o'r arian a godir trwy weithgareddau a drefnir gan ddisgyblion yr ysgol yn ystod tymor yr haf, a'r arian a godir trwy nawdd ar gyfer y daith feics ei hun.

Noddi

Os hoffech chi noddi'r achos teilwng hwn gallwch naill ai fynd i ystafell Mr Clive Williams y Pennaeth neu at Ffion yr Ysgrifenyddes i lenwi ffurflen noddi, neu gliciwch yma i gyfrannu ar dudalen JustGiving. Os ydych yn fusnes ac hoffech noddi drwy osod eich logo ar ein crysau beicio, cysylltwch â Mr Gareth James y Dirprwy drwy e-bostio gareth.james@ysgolgymraeg.ceredigion.sch.uk

Diolch.

Oeddech chi'n gwybod?

Ganwyd Angharad ar yr
16eg o Orffennaf 1997

Hoff liw Angharad oedd pinc!

Roedd Angharad wrth ei bodd
yn tynnu coes a chwarae jôcs
ar bobl!


Roedd hi wrth ei bodd yn darllen,
ac yn casau Mathemateg!


 

 

i ddarllen adroddiad y Diwrnod Pinc ewch i Newyddion Mehefin
 
i ddarllen adroddiad Diwrnod Angharad ewch i Newyddion Gorffennaf