Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 15/Maw

 

Dydd Llun 18/03/24

  • Nyrsys Ysgol yn y Derbyn
  • Sesiwn Aml-Sgiliau i fl.3a4 yn y Brifysgol gyda Ceredigion Actif
  • Noson Rieni 1 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

Dydd Mawrth 19/03/24

  • Noson Rieni 2 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

 

Dydd Mercher 20/03/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan gyda chriw Agor y Llyfr
  • Blwyddyn 3 yn dringo Pen Dinas
  • Dim ymarfer Ymarfer Cân Actol tan ar ôl y Pasg
  • Does dim Clwb yr Urdd yr hanner tymor hwn

 

Dydd Iau 21/03/24

  • Nofio i fl.5 a 3

 

Dydd Gwener 22/03/24

  • Ymarfer Cerddorfa Ysgol 8:45yb
  • Cau ar gyfer gwyliau'r Pasg (bydd y tymor newydd yn cychwyn i blant ar ddydd Mawrth y 9 fed o Ebrill)

 

LAWRLWYTHIADAU

Y Cyngor Ysgol

Croeso i dudalen y Cyngor Ysgol 2019-20

 

PWY YDYM NI A BETH RYDYM YN EI WNEUD?

Rydym yn griw o ddisgyblion a etholwyd gan blant ein dosbarthiadau er mwyn eu cynrychioli yn y cyfarfodydd. Rydym yn cyfarfod bob mis gyda Mr James lle fyddwn yn trafod gwahanol ffyrdd o wella'r ysgol ac yn trefnu gweithgareddau gwahanol hefyd.

 
 
 
Tomos
Cynrychiolydd Bl.6
 
Gwilym
Cynrychiolydd Bl.6
 
Catrin
Cynrychiolydd Bl.6
 
Nel
Cynrychiolydd Bl.6

 
 
 
 
 
 
Osian
Cynrychiolydd Bl.6
Aelod o'r fforwm
 
Megan
Cynrychiolydd Bl.6
Aelod o'r Fforwm
 
Cadi
Cynrychiolydd Bl.5
 
Mabon
Cynrychiolydd Bl.5
 
 
 
 
 
 
Dollie
Cynrychiolydd Bl.4
 
Owain
Cynrychiolydd Bl.4
 
Gwerfyl
Cynrychiolydd Bl.3
  Moi
Cynrychiolydd Bl.3
             

 

PENDERFYNIAD CYNTAF Y CYNGOR YSGOL NEWYDD

Ar ddechrau blwyddyn addysgol newydd mae'r aelodau newydd wedi eu hethol drwy bleidlais gudd yn eu dosbarthiadau, ac mae'r criw bellach yn barod i ddechrau ar y gwaith. Croeso cynnes iddyn nhw!

Cyn y cyfarfod ffurfiol cyntaf cafwyd cyfarfod cyflym i benderfynu beth i'w wneud gyda nifer o hen siwmperi a chrysau polo sydd wedi ymgasglu yn yr ysgol a phenderfynwyd ar eu gosod ar rheilen er mwyn i rieni medru eu cyfnewid gyda dillad mwy os fydd gwisg yn mynd yn rhy fach. Cyfnewid eitem am eitem felly, gyda'r posibilrwydd hefyd o dalu £2 os nad oes eitem i'w gyfnewid ar gael. Mae'r rheilen yn byw yn Nosbarth 6J, a bydd yn cael ei thynnu i'r prif fynedfa o bryd i'w gilydd.

O hyn ymlaen aelodau'r Cyngor fydd yn cyfrannu at y dudalen hon. Mr James

 

AELODAU'R FFORWM YN CYTUNO GYDA'R ANGEN I LEIHAU PLASTIG

Ar fore dydd Gwener y 13eg o Fedi aeth y ddau ohonom i lawr i Siambr y Cyngor yn Aberaeron i son am hawliau plant. Roedd cynrychiolwyr o bob ysgol yng Ngheredigion wedi dod i'r siambr i gynrychioli eu cyngor ysgol. Buon yn siarad efo Sally Holland y Comisiynydd Plant am hawliau plant ac yr effaith o blastic mewn ysgolion. Gwnaeth hyn i ni feddwl am y botel wydr y daethon ni o hyd iddi wrth balu'r ardd cyn gwyliau'r haf. Yna, daeth Elen ap Gwyn i ateb cwestiynau roedd gennym i ofyn am y cyngor yng Ngheredigion. Cawsom fore da iawn gyda nhw. Byddwn ni yn awr yn mynd nôl i'r ysgol i rannu syniadau gyda gweddill y Cyngor.

Osian a Megan

 

CYFARFOD CYNTAF CYNGOR YSGOL 2019-2020

Cofnodion Cyfarfod 02/10/2019

   

Cofnodion gan Catrin a Tomos

   

Materion a drafodwyd:

 

Gweithredu

1. Bocsys bwyd. Aelodau'r cyngor wedi sylwi ar nifer o focsys bwyd sydd yn cynnwys pethau melys. A oes modd edrych ar hyn? Annog mwy o ffrwythau?

 

Moi i fynd i drafod gyda'r Pwyllgor Iechyd a Lles i weld sut allwn ni wella hyn

     

2. Biniau. Plant y cyngor ysgol wedi trafod cael mwy o finiau ar y iard a'r ardd natur.

 

Ar ôl trafod fe benderfynon ni bod digon i gael a bod cael mwy yn mynd i ddenu gwylanod a chacwn.

     

3. Lleihau plastig sy'n cael ei ddefnyddio mewn teganau a cylchgronau.

 

Gwilym i ysgrifennu llythyr a trydar yr ysgol i godi sylw at hyn.

     

4. Mae pawb wedi cytuno bod angen goliau newydd ar y iard a'r cae.

 

Catrin i fynd i siarad gyda Pwyllgor Gorau chwarae cyd chwarae am hyn.

     

5. Y siarter iaith wedi plesio plant y Cyngor Ysgol gyda'r cerddoriaeth Gymraeg ar y iard. Cariwch ymlaen DJ's!

 

Parhau gyda'r caneuon gwych!

     

6. Pecynnau creision. Megan wedi cael syniad i leihau plastig, am greu man casglu pecynnau creision a'i anfon i ffwrdd.

 

Megan i siarad a'r Pwyllgor Eco am hyn.

     

7. Taclo'r Toiledau. Mi ddylai'r pwyllgor rhoi poster i fyny yn dweud: Dwedwch wrthym ni os mae rhywbeth o'i le yn y toiledau e.e angen sebon, papur ty bach, dwr yn rhy dwym ayyb

 

Nel i siarad gyda'r Pwyllgor Taclo'r Toiledau am y poster.

     

I orffen, pawb i ddod gyda syniad am gystadleuaeth ysgol erbyn y cyfarfod nesaf. e.e cynllunio poster i wneud rhywbeth arbennig.

 

Pawb

     
     

MAPIAU MEDDWL Y PWYLLGORAU PLANT

Gofynnon ni i'r Pwyllgorau Plant wneud mapiau meddwl bach o'u syniadau nhw ar gyfer eleni. Dyma a gawson ni yn ôl:

Siarter Iaith

E-ddiogelwch

Pwyllgor Dyngarol

Pwyllgor Gwrth fwlio

Pwyllgor Taclo'r Toiledau

Pwyllgor Eco

 
 

CYSTADLEUAETH LOGO

Fel y gwelwch uchod, ysgrifennon ni am ein bore yn y Siambr Cyngor Ceredigion. Enw'r fforwm yn swyddogol yw Fforwm Llais y Disgybl a nawr mae gyda ni gystadleuaeth ar gyfer creu logo i'r fforwm. Dyma boster y manylion isod. Dewch â'ch logos aton ni yn yr ysgol a wnawn ni eu danfon ymlaen i'r gystadleuaeth. Pob lwc! Megan ac Osian

DIWRNOD HYFFORDDI LLYSGENHADON GWYCH

Ar ddydd Iau y 10fed o Hydref aethon ni lawr i Wersyll yr Urdd Llangrannog. Yn gyntaf dysgon ni am hawliau plant gyda Sally Holland. Buon ni'n siarad amdano faint o ddŵr sydd yn gwneud 1 crys-t, yr ateb oedd 2727L o ddŵr. Ar ôl hwnna roedden ni yn cyfri faint o grysau-t oedd yn yr ystafell i gyd, roedd yna 235 o crysau-t a fi (Osian) wnaeth y sym anodd iawn o weithio mas sawl litr o ddŵr mae hynny'n cymryd! Cefais i glap am wneud y sym!

Roedd hi'n benblwydd ar hawliau plant ac felly roedden ni'n meddwl am ffyrdd i ddathlu a gwneud gweithgareddau y gallen ni wneud yn yr ysgol. Roedden yn trafod am sut roedd plant yn teimlo heb hawliau plant cyn 1989. Roedd y plant yn teimlo'n drist, afiach ac ofnus iawn. Ers i'r hawliau plant ddod mae plant yn hapusach, iachus a saff.

Ar ddiwedd y dydd cawson ni gyfle i wneud saethyddiaeth yn y gwersyll! Waw! Roedd hwn yn ddiwrnod da iawn iawn!

Byddwn ni'n rhannu beth ddysgon ni gyda gweddill y Cyngor Ysgol yn y cyfarfod nesaf. Rydym hefyd wedi penderfynu rhoi mwy o ffocws ar yr hawliau plant yn ystod ein gwaith yn ystod y flwyddyn. Diolch yn fawr i Sally Holland y Comisiynydd Plant am drefnu heddiw! Megan ac Osian

 

DERBYN E-BOST GAN Y COMISIYNYDD PLANT

CYFARFOD MIS TACHWEDD

Cofnodion Cyfarfod 18/11/2019

   

Cofnodion gan Nel a Gwilym

   

Trafodwyd y Camau Gweithredu ers y cyfarfod diwethaf, sef:

1. Adroddodd Moi ei fod heb gael cyfle i drafod y bocsys bwyd ond y bydd yn siarad gyda nhw cyn hir.

2. Mae Gwilym wrthi yn ymchwilio i mewn i ba gwmniau y gallwn gysylltu gyda nhw.

3. Y Pwyllgor Gorau Chwarae Cyd-chwarae yn cytuno gyda'r angen am goliau newydd. Trafod hyn yng nghyfarfod heddiw.

4. Megan wedi cysylltu gyda Pwyllgor Eco am y pecynnau creision. Nhw'n cytuno. Mae'r HWB ym Mhenparcau yn derbyn pecynnau i'w ailgylchu. Mae rhai rheolau i'w dilyn fel golchi'r pecynnau a'u cadw yn fflat. Angen deall hyn yn iawn cyn gwneud.

5. Nel yn dweud fod y Pwyllgor Taclo'r Toiledau am wneud posteri.

     

Materion a drafodwyd:

 

Gweithredu

     

1. Ar ddiwrnod Pydsi, Cododd y pwyllgor dyngarol tua £606. Llongyfarchwyd y pwyllgor a Blwyddyn 6 am wneud gêmau da.

 

Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb am fod mor hael :-)

     

2. Edrychwyd ar bosteri syniadau pob pwyllgor. Sylwyd bod y Siarter Iaith yn anelu at ennill y Wobr Arian. Penderfynwyd y byddwn yn gwahodd y Pwyllgor Siarter Iaith i'r cyfarfod nesaf i ddweud beth sydd angen i ni wneud er mwyn ennill y Fedal Arian. Edrychwyd ar y posteri Siarter Iaith hefyd - y 5 a ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth yr ysgol. Byddant ar bosteri cyn hir.

 

Gwahodd y Siarter Iaith i'r cyfarfod nesaf

 

     

3. Darllenwyd llythyr gan Sally Holland, y Comisiynydd Plant yn canmol ein gwaith ni mor belled.

 

:-)

:-)

     

4. Rydym yn derbyn £300 gan Gang y Graig fel diolch am gael defnyddio'r Neuadd dros y blynyddoedd diwethaf. Trafodwyd sut y byddwn yn gwario'r arian. Gôliau ar y cae yn syniad poblogaidd. Hyn wedi ei drafod yn y cyfarfod diwethaf hefyd ac yn rhywbeth mae'r Pwyllgor Gorau Chwarae Cyd-chwarae eisiau. Angen mynd i siarad gyda Mr Williams.

 

Angen ysgrifennu llythyr o ddiolch

Angen mynd i siarad gyda Mr Williams

     

5. Mae pob Pwyllgor yn mynd i ddiweddaru eu arddangosfa yn ystod yr wythnos nesaf. Yn ein cyfarfod nesaf byddwn yn mynd o amgylch yr arddangosfeydd i ddarllen y wybodaeth.

 

Os cewch gyfle i edrych ar yr arddangosfeydd cyn y cyfarfod nesaf, ynaewch i'w gweld.

     

6. Byddwn yn edrych ar Hawliau Plant yn ein cyfarfod nesaf. Mae pob Pwyllgor yn mynd i ddewis yr hawliau sydd mwyaf addas iddyn nhw i ffocysu arnynt.

 

Pawb i ddarllen y poster isod erbyn y cyfarfod nesaf a ddysgu mwy am yr hawliau

     

Cliciwch ar y poster i'w ddarllen yn gliriach ar ffurf pdf

CYFARFOD MIS RHAGFYR

Cofnodion Cyfarfod 19/12/2019

   

Cofnodion gan Mr James

   
     

Materion a drafodwyd:

 

Gweithredu

     

1. Rydym bellach wedi archebu'r goliau ar gyfer y cae. Byddant yn cyrraedd yn y flwyddyn newydd.

 

Dal angen anfon llythyr o ddiolch - Catrin a Nel i wneud

     

2. Llongyfarchwyd y Pwyllgor Dyngarol ar lwyddiant arbennig y casgliad ar gyfer y Banc Bwyd. Casglwyd llond car enfawr o fwydywdd gan rieni a phlant yr ysgol. Ardderchog!

gweld y neges Trydar

 

:-)

     

3. Mae Moi wedi siarad gyda Mr Griffiths am yr angen i atgoffa bocsys bwyd iach, a'r pwdin cinio. Byddant yn cwrdd i drafod mwy ym mis Ionawr.

 

Moi a Mr Griffiths i gwrdd gyda'r Pwyllgor Iechyd a Lles yn Ionawr

     

4.Yn dilyn sesiwn ar wefan y BBC gyda'r app diogelwch ar lein 'Own It', rydym am annog y Pwyllgor E-ddiogelwch i gysylltu gyda'r BBC i ofyn a gawn ni eu helpu i ddatblygu'r app trwy gyfrwng y Gymraeg gan fod nifer o blant yn cyfathrebu yn eu mamiaith.

 

Gwilym yn mynd i drafod gyda Mr Evans a'r Pwyllgor E-ddiogelwch

     

5. Braf gweld arddangosfeydd y pwyllgorau i gyd wedi eu diweddaru. Rhaid inni ddiweddaru ein un ni cyn hir!!

   

 

 

CYFARFOD MIS IONAWR

Cofnodion Cyfarfod 20/01/2020

   

Materion a drafodwyd:

 

Gweithredu

     

1. Dywedodd Catrin a Nel eu bod wedi ysgrifennu llythyr diolch i Gang y Graig am y £300 a dderbyniwyd ar gyfer prynu goliau i'r cae. Mae'r goliau wedi cyrraedd erbyn hyn a byddant yn cael eu hadeiladu gan y Pwyllgor Gorau Chwarae cyn hir.

 

 

     

2. Dywedodd Moi ei fod wedi cael cyfle i siarad gyda Mr Griffiths a'r Pwyllgor Iechyd a Lles ynglyn a bocsys bwyd amser cinio. Eglurodd y pwyllgor fod yr arddangosfa yn dangos sut i fynd ati i greu bocs bwyd iach, a bod pamffledi yno hefyd i helpu'r plant. Bydd y pwyllgor yn trafod syniadau ar gyfer monitro'r bocsys bwyd i ganmol y rhai iach ac efallai eu gwobrwyo gyda sticer.

 

Gweler copi o'r pamffledi cymorth yma:

Pecynnau cinio iach

Healthy lunchboxes

     

3. Penderfynodd aelodau'r Cyngor eu bod eisiau newid fformat yr arddangosfa ar gyfer y Cyngor Ysgol, a'i wneud ychydig yn fwy o hwyl. Llenwodd pawb Ffeil-o-ffaith felly ar gyfer eu gosod ar yr arddangosfa. Dywedodd rhai hefyd y byddent yn hoffi gosod post-its arno er mwyn i blant ysgrifennu syniadau yno, ac ychwanegu screenshots o negeseuon trydar sy'n dangos gwaith y Cyngor Ysgol.

 

Pawb i gwblhau Ffeil-o-ffaith