Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 13/Rhag

 

Dydd Llun 16/12/24

  • Diolch i bawb am eich cefnogaeth i'r Gyngerdd Nadolig nos Iau diwethaf
  • Prynhawn Agored y Meithrin ar gyfer plant newydd Ionawr 1:15yp

Dydd Mawrth 17/12/24

  • Dim neges

 

Dydd Mercher 18/12/24

  • Gwasanaeth Ysgol Gyfan gyda chriw Agor y Llyfr
  • Cinio Nadolig yr ysgol, a diwrnod Siwmper Nadolig
  • Dim Clwb yr Urdd tan y gwanwyn

 

Dydd Iau 19/12/24

  • Gwasanaeth Ysgol Gyfan
  • Dim nofio wythnos hon
  • SINEMA i bawb heblaw Meithrin - 'Arthur Christmas' - **cofiwch fod angen casglu eich plentyn o Sinema'r Commodore am 3:15yp os gwelwch yn dda**

 

Dydd Gwener 20/12/24

  • Dim Cerddorfa heddiw
  • Diwedd tymor 3:30yp
  • Nadolig Llawen i chi i gyd
  • Bydd y tymor newydd yn cychwyn i bawb ar ddydd Llun y 6ed o Ionawr 2025

 

LAWRLWYTHIADAU

Y Cyngor Ysgol a Phwyllgorau Plant

Croeso i wybodaeth a digwyddiadau 2022-2023

 

CYNGOR YSGOL : PWY YDYM NI A BETH RYDYM YN EI WNEUD?

Rydym yn griw o ddisgyblion a etholwyd gan blant ein dosbarthiadau er mwyn eu cynrychioli yn y cyfarfodydd. Rydym yn cyfarfod pob mis gyda Mr James lle fyddwn yn trafod gwahanol ffyrdd o wella'r ysgol ac yn trefnu gweithgareddau gwahanol hefyd.

 
 
 
Llew
Cynrychiolydd Bl.6
 
Gwerfyl
Cynrychiolydd Bl.6
 
Iori
Cynrychiolydd Bl.6
 
Martha
Cynrychiolydd Bl.6

 
 
 
 
 
 
Hans
Cynrychiolydd Bl.5
 
Gwenan
Cynrychiolydd Bl.5
 
Osian
Cynrychiolydd Bl.4
 
Leusa
Cynrychiolydd Bl.4
 
 
 
   
     
   
Jac
Cynrychiolydd Bl.3
  Beca
Cynrychiolydd Bl.3
   
             

 

 

 

Medi 2022

Cofnodion y Cyfarfod Cychwynnol

 

Cafwyd cyfarfod cychwynnol o’r Cyngor Ysgol i drafod pa bwyllgorau plant fydd yr aelodau yn mynychu eu cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn. Penderfynwyd rhannu yr aelodau fel hyn:

 

Iori

Gwenan

Martha

Llew

Hans

Gwerfyl

Osian a Leusa

Jac a Beca

Pwyllgor E-ddiogelwch (dan ofal Mr Wyn)

Pwyllgor Eco (dan ofal Mrs B Davies)

Pwyllgor Taclo’r Toiledau (dan ofal Mrs Hughes)

Pwyllgor Gorau Chwarae – Cyd Chwarae (dan ofal Mr Jones)

Pwyllgor Llesiant (dan ofal Mr Griffiths)

Y Siarter Iaith (dan ofal Mrs S Davies)

Pwyllgor Gwrth fwlio (dan ofal Mrs Ellis)

Pwyllgor Dyngarol (dan ofal Mrs Wigley)

 

Tasg gyntaf y Cyngor Ysgol fydd mynychu’r cyfarfodydd hyn a’u cynorthwyo i fwydo i mewn i’r cynllun ar gyfer y tymor.

 

Cafwyd sgwrs ynglŷn â gwerthu gwisg ysgol ail-law wrth y giât yn y boreau. Edrychwyd yn y bocsys dillad coll a gweld bod llawer wedi cael eu cyfrannu i'r ysgol a dillad heb enwau arnynt. Penderfynwyd y byddwn yn ceisio agor stondin un bore yr wythnos. Yr enw a benderfynwyd arno oedd 'Y Lein Ddillad'.

 
   

 

 

Hydref 2022

Cofnodion y Cyfarfod

 
   

Croesawyd pawb i’r cyfarfod a chytunwyd y dylwn ethol swyddogion ar gyfer y pwyllgor.
Etholwyd y canlynol:


Cadeirydd – Llew
Is-gadeirydd – Iori
Ysgrifennydd – Gwerfyl
Is-ysgrifennydd – Martha

 

Mae'r stondin 'Y Lein Ddillad' yn llwyddiannus iawn! Mae nifer helaeth o rieni wedi bod yn prynu gwisg ail-law yn y boreau, ac ers agor y stondin rydym wedi derbyn llythyr gan y Gweinidog Addysg Jeremy Miles yn annog ysgolion i wneud hyn - sef ceisio lleihau costau ar gyfer teuluoedd. Rydym wedi casglu £51 yn barod. Byddwn yn trafod yn nes at y Nadolig beth i'w wneud gyda'r arian yr ydym yn ei godi.

 

 

Criw 'Y Lein Ddillad' un bore o Hydref :-)

 
 

 

 

 

 

Hydref 2022

Cofnodion y Cyfarfod

 
   

Cafwyd cyfarfod yn ystafell Mr James amser cinio am gymeriadau y 4 diben. Ar ôl gwaith arbennig gan blant blwyddyn 2 a 6 yn creu 4 cymeriad yr un, fe yrron nhw'r syniadau i gyd at gwmni proffesiynol a wnaeth eu troi i mewn i 4 cymeriad anhygoel!

Ar ôl i'r cyngor ysgol drafod am dipyn, fe benderfynon ni wneud cwpwl o newidiadau i'r cymeriadau. Fe benderfynon bod angen i'r cymeriadau wisgo siwmperi yr ysgol i gysylltu nhw gyda'r ysgol, a'u bod yn perthyn i'w gilydd. Hefyd newidwyd lliwiau rhai o ddarnau y cymeriadau. Ychwanegon ni hefyd Y.G.A i bêl rygbi i ddangos ochr chwaraeon yr ysgol. Gobeithiwn mewn ychydig o ddiwrnodau y bydd y cymeriadau yn ôl wedi eu gwella ac yn anhygoel o wych :-)

(cofnodion gan Gwerfyl a Martha)

 

Aelodau'r Cyngor Ysgol yn trafod cymeriadau'r Pedwar Diben

 

 
   

 

 

Tachwedd 2022

Cofnodion digwyddiad

 
   

Un bore roedd yn rhaid i ni gyrraedd yr ysgol yn gynnar am 8:15 y bore er mwyn cwrdd gyda gweddill y Cyngor Ysgol, hefyd Cyngor Ysgol Plascrug a'r ddau Bennaeth sef Mr Williams a Mr Lewis. Daeth dynes Iechayd a Diogelwch i gwrdd gyda ni hefyd, sef Ann lloyd. Yn gyntaf cerddon ni lawr i'r Ganolfan Hamdden er mwyn gweld llif y traffig yno, yna aethom ar daith nôl ar hyd yr hewl i'r Ysgol Gymraeg a lawr tua Ysgol Plascrug. Sylwon ni fod lot fawr o bobl yn parcio ar y llinellau melyn, bod yna lot o draffic yno, a'i bod hi'n brysur iawn iawn. Byddwn yn cwrdd eto cyn hir.

(cofnodion gan Llew)

 


Cynghorau Ysgol yr Ysgol Gymraeg ac Ysgol Plascrug yn trafod problemau traffic ger yr ysgol a sut y gallwn wella'r sefyllfa.

 
   

 

 

Rhagfyr 2022

Cofnodion digwyddiad

 
   

Llongyfarchiadau mawr i Bwyllgor y Siarter Iaith ar eu gwaith campus yn ennill achrediad y Cam Aur fel rhan o Siarter Iaith Ceredigion.

 
 

 

 

 

 

 

Y PWYLLGORAU PLANT - PWY A BETH YW'R PWYLLGORAU PLANT?

Mae wyth o bwyllgorau i gyd. Penderfynwyd eu creu i glywed mwy o leisiau na llais y Cyngor Ysgol yn unig. Mae'r Pwyllgorau Plant yn cyfarfod i drafod y pethau pwysig sy'n dylanwadu ar fywyd yr ysgol, ac yn rhannu'r wybodaeth hynny gyda'r Cyngor Ysgol. Mae pob un o ddisgyblion Blwyddyn 6 ar bwyllgor sy'n golygu bod llais pawb ar frig yr ysgol yn cael ei glywed.

 

> Pwyllgor E-ddiogelwch

> Pwyllgor Eco

> Pwyllgor Taclo’r Toiledau

> Pwyllgor Gorau Chwarae – Cyd Chwarae

> Pwyllgor Llesiant

> Y Siarter Iaith

> Pwyllgor Gwrth fwlio

> Pwyllgor Dyngarol